Showing 59941 results

Archival description
Welsh
Advanced search options
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

Griffith John's journal

It opens with a brief sketch of his past history, 5 June 1855, and includes copies of correspondence with the London Missionary Society, cuttings from The North China Herald, and letters. The last entry is dated 20 June 1870.

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur yr Annibynwyr am 1872, gol. gan J. Thomas a W. Williams, o eiddo i Samuel Roberts, Conwy, yn cynnwys cofnodion cryno yng Nghymraeg a Saesneg (tt. 12-63), yn nodi pregethau a darlithoedd, enwau gohebwyr a gwaith ysgrifennu. = Dyddiadur yr Annibynwyr am 1872, ed. by J. Thomas and W. Williams, belonging to Samuel Roberts, Conwy, containing brief entries in Welsh and English (pp. 12-63), including preaching engagements, names of correspondents and writing work.
Mae yna hefyd amryw gofnodion a chyfrifon (tt. i, 64, 66-68, 117-118, 121-122, 141, 143-150 a tu mewn i'r cloriau) a darnau o bapur scrap (3 ff.). = Also includes various memoranda and accounts (pp. i, 64, 66-68, 117-118, 121-122, 141, 143-150 and inside the covers) and loose scraps of paper (3 ff.).

Pregethau

Pedwar llyfryn, [1832]-[1872], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw John Roberts (J.R.), [1832], Samuel Roberts (S.R.), [c. 1844], a Gruffydd Rhisiart (2), [1872]. = Four booklets, [1832]-[1872], containing sermon notes by John Roberts (J.R.), [1832], Samuel Roberts (S.R.), [c. 1844], and Gruffydd Rhisiart (2), [1872].

Dyddiadur S.R.

Y Dyddiadur Methodistaidd am 1873, gol. gan Roger Edwards, o eiddo i Samuel Roberts, Conwy, yn cynnwys cofnodion cryno yng Nghymraeg a Saesneg (tt. 5-57), yn nodi pregethau, enwau gohebwyr a gwaith ysgrifennu. = Y Dyddiadur Methodistaidd am 1873, ed. by Roger Edwards, belonging to Samuel Roberts, Conwy, containing brief entries in Welsh and English (pp. 5-57), including preaching engagements, names of correspondents and writing work.
Mae toriad papur newydd, 'A new submarine boat', dyddiedig 1 Chwefror 1899, wedi ei thipio mewn ar t. 146. = A newspaper cutting on 'A new submarine boat', dated 1 February 1899, has been tipped in on p. 146.

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur yr Annibynwyr am 1874, gol. gan W. Williams, B. Williams a R. W. Griffith, o eiddo i Samuel Roberts, Conwy, yn cynnwys cofnodion cryno yng Nghymraeg a Saesneg (tt. 11-64), yn nodi pregethau, enwau gohebwyr a gwaith ysgrifennu. = Dyddiadur yr Annibynwyr am 1874, ed. by W. Williams, B. Williams and R. W. Griffith, belonging to Samuel Roberts, Conwy, containing brief entries in Welsh and English (pp. 11-64), including preaching engagements, names of correspondents and writing work.
Hefyd yn cynnwys amryw gofnodion (tt. i-ii, 63-64, 121-123 a tu mewn i'r cloriau). = Also includes various memoranda (pp. i-ii, 63-64, 121-123 and inside front cover).

Cynal Breichiau; Y Diwedd

Dwy bregeth yn llaw John Roberts (J.R.), [1873x1874], yn dwyn y teitlau 'Cynal Breichiau' (ff. 1-11) ac 'Y Diwedd' (ff. 12-17). = Two sermons in the hand of John Roberts (J.R.), [1873x1874], entitled 'Cynal Breichiau' (ff. 1-11) and 'Y Diwedd' (ff. 12-17).

Dyddiadur S.R.

Y Dyddiadur Annibynol am 1875, o eiddo Samuel Roberts, Conwy, yn cynnwys cofnodion cryno yng Ngymraeg a Saesneg (tt. 5-57). = Y Dyddiadur Annibynol am 1875, belonging to Samuel Roberts, Conwy, containing brief entries in Welsh and English (pp. 5-57).
Hefyd yn cynnwys nodiadau a chofnodion (tt. i, 58, 121-124, 154-170 a tu mewn i'r cloriau). = Also contains various notes and memoranda (pp. i, 58, 121-124, 154-170 and inside the covers).

Pregethau J.R.

Tri llyfryn, [19 gan., trydydd ¼], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw John Roberts (J.R.). = Three booklets, [18 cent., third ¼], containing sermon notes by John Roberts (J.R.).

Barddoniaeth ac emynau S.R.

Llyfryn, [19 gan., trydydd ¼], yn cynnwys barddoniaeth ac emynau yn llaw Samuel Roberts. = A booklet, [19 cent., third ¼], containing poetry and hymns in the hand of Samuel Roberts.

Dyddiadur S.R.

Y Dyddiadur Annibynol am 1876, o eiddo Samuel Roberts, Conwy, yn cynnwys cofnodion cryno yng Ngymraeg a Saesneg (tt. 4-56). = Y Dyddiadur Annibynol am 1876, belonging to Samuel Roberts, Conwy, containing brief entries in Welsh and English (pp. 4-56).
Hefyd yn cynnwys nodiadau a chofnodion (tt. 2, 129, 151-154 a tu mewn i'r cloriau). = Also contains notes and memoranda (pp. 2, 129, 151-154 and inside the covers).

Llyfr casglu

Llyfr casglu, 1835 (dyfrnod 1826), Herbert Herbert, Newton Nottage, ar gyfer Apel y Capeli Annibynol Cymreig, a ddefnyddiwyd wedi hynnu gan Samuel Roberts fel llyfr nodiadau, 1844-[1876]. = Collecting book, 1835 (watermark 1826), of Herbert Herbert, Newton Nottage, for the Welsh Congregational Churches Appeal Fund, subsequently used by Samuel Roberts as a notebook, 1844-[1876].
Yn cynnwys tystlythyrau a manylion casgliadau yn Ne Orllewin Lloegr, Chwefror-Mawrth 1835 (ff. 2-19); amryw gyfrifon yn llaw S.R., 1844-1845 (ff. 20 verso-33), a rhestr o bregethau a draddodwyd ganddo, wedi eu rhestru yn ôl lleoliad, [1868]-[1876] (ff. 33 verso-66). Mae toriad papur newydd, 'Dr Edwards's Sermon', [1870au], wedi ei thipio mewn ar f. i. = Includes testimonials and details of collections in South West England, January-February 1835 (ff. 2-19); various accounts of S.R., 1844-1845 (ff. 20 verso-33), and a list of sermons preached by him, arranged by place, [1868]-[1876] (ff. 33 verso-66). A newspaper cutting, 'Dr Edwards's Sermon', [1870s], has been tipped in on f. i.

Herbert, Herbert, 1795-1845.

Llythyrau at S.R., &c.

Pedwar ugain o lythyrau, 1800-1876, y rhan fwyaf at Samuel Roberts a'i dad, John Roberts, oddiwrth teulu a ffrindiau. Mae'r gohebwyr yn cynnwys Maria Griffith, 1828, Dorothy Hughes, 1822-1823, Michael Jones, Llanuwchllyn, 1833, David Lewis, Old Hall, 1822-1826, J. W. H. Pritchard, 1823-1827, Thomas Weaver, 1825-1826, Samuel Weston, 1822-1826, a Sarah Yallowley, 1822-1826. = Eighty letters, 1800-1876, mostly addressed to Samuel Roberts and John Roberts, senior, from family and friends. The correspondents include Maria Griffith, 1828, Dorothy Hughes, 1822-1823, Michael Jones, Llanuwchllyn, 1833, David Lewis, Old Hall, 1822-1826, J. W. H. Pritchard, 1823-1827, Thomas Weaver, 1825-1826, Samuel Weston, 1822-1826, and Sarah Yallowley, 1822-1826.
Mae rhai o'r llythyrau yn cynnwys atebion drafft ac arnodiadau eraill gan S.R. Mae nifer yn cynnwys copïau [gan S.R.?] o lythyrau (dyddiedig 1831-1834) gan ei dad (ff. 2 verso, 18 verso, 68 recto-verso, 70, 73, 87 recto-verso, 104 recto-verso, 115, 133 recto-verso). Mae'n debyg i rhain gael eu copïo ar gyfer llyfr S.R., Cofiant y Parch. John Roberts, o Lanbrynmair (Llanelli, 1837) sydd yn cynnwys cyfieithiad Cymraeg o'r rhan fwyaf ohonynt. Mae llythyrau oddiwrth John Roberts i'w frawd George, 1800, 1805, yn nodi genedigaethau S.R. a J.R. = Some of the letters include draft replies and other annotations by S.R. A number contain copies [by S.R.?] of letters (dated 1831-1834) of his father (ff. 2 verso, 18 verso, 68 recto-verso, 70, 73, 87 recto-verso, 104 recto-verso, 115, 133 recto-verso). These were probably copied in preperation for S.R.'s Cofiant y Parch. John Roberts, o Lanbrynmair (Llanelli, 1837) which includes Welsh translations of most of them. Letters from John Roberts to his brother George, 1800, 1805, record the births of S.R. and J.R.

Roberts, John, 1767-1834

Dyddiadur S.R.

Y Dyddiadur Annibynol am 1878, o eiddo Samuel Roberts, Conwy, yn cynnwys cofnodion cryno yng Ngymraeg a Saesneg (tt. 9-61). = Y Dyddiadur Annibynol am 1878, belonging to Samuel Roberts, Conwy, containing brief entries in Welsh and English (pp. 9-61).
Mae yna nifer o gyfeiriadau at sefydlu a golygu Y Celt. Hefyd yn cynnwys nodiadau a chofnodion (tt. i, 61-62, 111, 129, 174-176 a tu mewn i'r cloriau). = Contains numerous references to the establishing and editing of Y Celt. Also contains notes and memoranda (pp. i, 61-62, 111, 129, 174-176 and inside the covers).

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Chwe llyfryn, [1870au], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = Six booklets, [1870s], containing sermon notes in the hand of Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).
Ceir hefyd 'Remembrances', [1856], ysgrif byr yn Saesneg gan Sarah M. Roberts, merch J.R. (7 ff.) = Also contains 'Remembrances', [1856], a short piece in English by Sarah M. Roberts, J.R.'s daughter (7 ff.).

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Tri llyfryn ar ddeg, [1870au] (dyfrnod 1874 mewn dau lyfryn), yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = Thirteen booklets, [1870s] (watermark 1874 in two booklets), containing sermon notes by Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).
Mae un llyfryn yn cynnwys dau doriad papur newydd, [1875]. = One booklet contains two newspaper cuttings, [1875].

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Pedwar llyfryn, [1870au], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = Four booklets, [1870s], containing sermon notes by Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Deg llyfryn, [1870au] (un gyda dyfrnod 1874), yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = Ten booklets, [1870s] (one watermark 1874), containing sermon notes by Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Pum llyfryn, [1870au], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = Five booklets, [1870s], containing sermon notes by Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).

Pregethau

Tri llyfryn yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Samuel Roberts (S.R.), [1844], John Roberts (J.R.), [1868], a Gruffydd Rhisiart, [1879]. = Three booklets containing sermon notes by Samuel Roberts (S.R.), [1844], John Roberts (J.R.), [1868], and Gruffydd Rhisiart, [1879].

Results 81 to 100 of 59941