Showing 256 results

Archival description
Only top-level descriptions Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales fonds Welsh
Print preview View:

Papurau William Williams, Llangynog,

  • GB 0210 WILGYNOG
  • fonds
  • 1864-1995 /

Mae'r casgliad yn cynnwys ysgrifau yn dwyn y teitl 'Yr Hen Ysgol - 1864-1867', sy'n cyfeirio at ddefnydd o'r 'Welsh Not'; llyfrau nodiadau a gadwyd gan William Williams,1871-1888, yn cynnwys nodiadau ysgrythurol; ysgrifau heb ddyddiad; llyfr nodiadau yn cynnwys adroddiad heb ddyddiad am ordeinio'r Parch. D. R. Jones yn weinidog Bethania, Llanelli; a ffotograffau, ynghyd â manylion bywgraffyddol am aelodau o'r teulu Williams, ynghyd â darlith perthynol gan Eluned Jones. = The collection comprises writings entitled 'Yr Hen Ysgol - 1864-1867', referring to the use of the 'Welsh Not'; notebooks kept by William Williams, 1871-1888, containing scriptural notes; undated writings; a notebook containing an undated report of the ordination of Rev. D. R. Jones at Bethania, Llanelli; and photographs, together with biographical details, of members of the Williams family, together with a related lecture by Eluned Jones.

Williams, William, 1856-1936.

CMA: Cofysgrifau Eglwys Bethania, Bargoed,

  • GB 0210 BETHBARG
  • fonds
  • 1876-1971 /

Cofysgrifau Eglwys Bethania, Bargoed, yn cynnwys llyfr cofnodion, 1903-1951; cofnodion ariannol, 1876-1971; a phapurau cynnar, 1876-1881, yn ymwneud â sefydlu'r Eglwys, gan gynnwys hanes yr Eglwys, gohebiaeth a chofnodion y cyfarfod cyntaf.

Bethania (Church : Bargoed, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Hermon, Trichrug,

  • GB 0210 TRICHRUG
  • fonds
  • 1890-1999 /

Cofysgrifau Capel Hermon, Trichrug, ym mhlwyf Trefilan, 1890-1999, yn cynnwys llyfrau casglu at y weinidogaeth, 1894-1999, llyfr cyfrifon, 1931-1996, llyfr cyfrifon yr Ysgol Sul, 1909-1927, llyfr ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1941-[1943], ynghyd â llyfr aelodaeth, 1890-1958, a hefyd cofrestr bedyddiadau, 1890-1987 a priodasau, 1953-1979, a cofrestr y Gymdeithas Ddirwestol, 1903 a 1908.

Capel Hermon, Trichrug (Ceredigion, Wales).

CMA: Cofysgrifau Capel Abergeirw

  • GB 0210 ABEGRW
  • fonds
  • 1897-1975

Mae'r fonds yn cynnwys llyfrau cyfrifon amrywiol Capel Abergeirw, sir Feirionnydd, 1899-1940; ynghyd â llyfrau'r ysgrifennydd, 1941-1975; llyfr cofrestriad aelodau'r Capel, 1910-1917; a chofrestr aelodau Cymdeithas Ddirwestol y Capel, 1897-1928.

Eglwys Abergeirw (Llanfachreth, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Ffosyffin

  • GB 0210 FFOFIN
  • fonds
  • 1950-1997

Mae'r fonds yn cynnwys cyfrolau yn nodi casgliadau tuag at y Weinidogaeth, derbyniadau a thaliadau, 1950-1997, ynghyd â chopi o brydles o ddarn o dir drws nesaf i'r capel, 1985.

Capel Ffosyffin (Wales)

Papurau'r Parch. R. Dewi Williams,

  • GB 0210 RDWAMS
  • fonds
  • 1897-1956 /

Papurau'r Parch. R. Dewi Williams, yn cynnwys storïau a thraethawd nas cyhoeddwyd, [1890x1955]; nodiadau, gan RDW, ar hanes ei deulu,1948; darluniadau gan RDW ac eraill, rhai'n ymwneud â Clawdd Terfyn, [1912]; llyfrau lloffion yn cynnwys torion papur newydd, llythyrau ac erthyglau, darluniadau a chartwnau'n ymwneud ag RDW,1902-1955; lluniau teuluol,1897-1953; a chopi o Y Blwyddiadur,1956, yn cynnwys ei ysgrif goffa = Papers of the Rev. R. Dewi Williams, comprising unpublished stories and an essay, [1890x1955]; notes, by RDW, on his family history, 1948; drawings by RDW and others, some relating to Clawdd Terfyn, [1912]; scrapbooks containing newspaper cuttings, letters and articles, drawings, and cartoons, relating to RDW, 1902-1955; family photographs, 1897-1953; and Y Blwyddiadur, 1956, containing his obituary.

Williams, R. Dewi (Robert Dewi), 1870-1955

Papurau'r Parch. Giraldus Jones,

  • GB 0210 GIRJONES
  • fonds
  • 1915-1978 /

Papurau'r Parch. Giraldus Jones,1915-1978, yn cynnwys anerchiadau ar Ben Davies, Pant-teg, a T. Eirug Davies; papurau'n ymwneud ag achos yr Annibynwyr yn Esgairdawe a Ffaldybrenin; a deunydd amrywiol arall = Papers of the Rev. Giraldus Jones, 1915-1978, comprising addresses on Ben Davies, Pant-teg, and T. Eirug Davies; papers relating to the Congregationalist cause at Esgairdawe and Ffaldybrenin; and other miscellaneous material.

Jones, Giraldus, 1895-1978

CMA: Cofnodion Capel Newydd y Brithdir, Gwynedd

  • GB 0210 NEWBRI
  • fonds
  • 1912-2000

Mae'r fonds yn cynnwys llyfrau casgliad y weinidogaeth, 1912-1973, llyfrau cyfrifon, 1912-2000, Capel Newydd y Brithdir, ynghyd â phapurau'n ymwneud â gwerthu'r Foelas (Tŷ'r Gweinidog), 1971-1973.

Capel Newydd y Brithdir (Brithdir, Gwynedd, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Pensarn, Llandysiliogogo

  • GB 0210 PENLLA
  • fonds
  • 1813-1966

Mae'r fonds yn cynnwys cofrestr bedyddiadau, 1813-1959, llyfrau casgliad y weinidogaeth, 1863-1966, a llyfr y trysorydd, 1911-1966.

Eglwys Pensarn (Llandysiliogogo, Wales)

Papurau David Davies (Ffatri Emlyn, Adpar),

  • GB 0210 FFATEM
  • fonds
  • 1871-1982.

Mae'r casgliad yn cynnwys papurau'n ymwneud â theulu a disgynyddion David Davies, 1871-1982; llyfr nodiadau yn cynwys barn Davies ar bregethau a glywodd, 1930-1933; ffeil o farddoniaeth a phenillion; llyfr cyfrifon Ffatri Emlyn, 1903-1930; a deunydd amrywiol. = The collection comprises papers relating to the family and descendants of David Davies, 1871-1982; a notebook containing Davies's opinions on sermons which he has heard, 1930-1933; a file of poetry and verses; an account book, 1903-1930, of Ffatri Emlyn; and miscellanea.

Davies, David, 1871-1947.

Papurau Cymdeithas Hanes Annibynwyr Cymru,

  • GB 0210 CHAC
  • fonds
  • 1972-1985 /

Papurau yn cynnwys rhestri aelodaeth a ffurflenni, 1977-1985; cofnodion ariannol, 1977-1984; cofnodion pwyllgorau a phapurau eraill,1982; gohebiaeth gyffredinol yn ymwneud â'r Gymdeithas a chyhoeddi Y Cofiadur, 1975-1985; mynegai i Y Cofiadur (1923-1980), [c. 1980]; deunydd i'w gyhoeddi yn Y Cofiadur, [c.1980]; a thorion o Y Tyst, 1972-1984, yn bennaf ynglŷn â Chronfa'r Cofiadur = Papers including membership lists and forms, 1977-1985; financial records, 1977-1984; committee minutes and other papers, 1982; general correspondence relating to the Society and to publication of Y Cofiadur, 1975-1985; an index to Y Cofiadur (1923-1980), [c. 1980]; material for publication in Y Cofiadur, [c.1980]; and cuttings from Y Tyst, 1972-1984, mainly concerning `Cronfa'r Cofiadur'.

Cymdeithas Hanes Annibynwyr Cymru.

Papurau Evan Wyn Williams,

  • GB 0210 EVAIAMS
  • fonds
  • 1966-1969 /

Papurau y Parch. Evan Wyn Williams, 1966-1969, yn cynnwys papurau'n ymwneud â thrychineb Aberfan, 1966-1968; a phapurau'n ymwneud â chanmlwyddiant Capel Coffa (1869-1969) Edward Jones ym Mathafarn = Papers of Rev. Evan Wyn Williams, 1966-1969, comprising papers relating to the Aberfan disaster, 1966-1968; and papers relating to the centenary of Capel Coffa (1869-1969) commemorating Edward Jones at Bathafarn.

Williams, Evan Wyn, d. 1988

Papurau Rhieni dros Addysg Gymraeg,

  • GB 0210 RHIAEG
  • fonds
  • 1963-1988 /

Papurau'n ymwneud â Rhieni dros Addysg Gymraeg, 1963-1988, yn cynnwys copïau o gofnodion, 1963-1988, y Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol a chofnodion y Pwyllgor Gwaith; adroddiadau blynyddol, 1984-1988; copi o gyfansoddiad y grŵp a luniwyd yn 1983; gwahanol adroddiadau a baratowyd gan y grŵp, 1983-1988; ac adroddiadau a baratowyd gan bwyllgorau sir y mudiad, 1981-1987. = Papers relating to Rhieni dros Addysg Gymraeg1963-1988, including copies of minutes, 1963-1988, of the AGMs and the executive committee minutes; annual reports, 1984-1988; a copy of the group's constitution prepared in 1983; various reports prepared by the group, 1983-1988; and reports prepared by the movement's county committees, 1981-1987.

Papurau ychwanegol gan gynnwys papurau'r Gynhadledd Flynyddol, 1983-1987; cyfrol yn cynnwys cyfansoddiad 'Undeb Rhieni Ysgolion Cymraeg', a chofnodion cyfarfodydd, 1963-1982; a papurau Taflen 'Holi ac Ateb'. Nid yw'r papurau hyn wedi eu catalogio eto.

Rhieni Dros Addysg Gymraeg (Organization)

Papurau John Roberts (Llandrillo),

  • GB 0210 JOHRTS
  • fonds
  • 1878-1915 /

Papurau, 1878-1915, John Roberts yn ymwneud â hanes ardal Llandrillo, yn cynnwys cofnod o ddigwyddiadau yn Llandrillo, 1878-1899; llyfrau nodiadau ar hanes Methodistiaeth Galfinaidd yn Llandrillo, [c. 1899]; traethodau, [1890au]-1909; a nodiadau achyddol ac arall yn ymwneud â chwmwd Edeirnion ac ardal Llandrillo, [1878]-[1915]. = Papers, 1878-1915, of John Roberts relating to the history of the Llandrillo district, including a record of events in Llandrillo, 1878-1899; notebooks on the history of Calvinist Methodism in Llandrillo, [c. 1899]; essays, [1890s]-1909; and genealogical and other notes relating to the commote of Edeirnion and the Llandrillo area, [1878]-[1915].

Roberts, John, (of Llandrillo-yn-Edeirnion)

Papurau Robert Roberts (Y Fflint),

  • GB 0210 ROBFLINT
  • fonds
  • 1934-1954 /

Papurau Robert Roberts,1934-1954, gan gynnwys llythyrau, nodiadau, llyfrau lloffion a defnyddiau pellach yn ymwneud â'i waith ar hanes a llenyddiaeth Gogledd Cymru, ac ar Absalom Fardd. = Papers of Robert Roberts, 1934-1954, comprising letters, notes, scrapbooks and other material relating to his work on the history and literature of North Wales, and to Absalom Fardd.

Roberts, Robert, (of Flint)

CMA: Cofysgrifau Capel Seion, Gyrn Goch

  • GB 0210 GYROCH
  • fonds
  • 1923-2000

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau Capel Seion, Gyrn Goch, Dosbarth Clynnog, Henaduriaeth Arfon, sef pedwar llyfr cyfrifon, 1923-2000.

Capel Seion (Gyrn Goch, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Moriah, Mynydd Cynffig

  • GB 0210 MORCYN
  • fonds
  • 1850-2001

Mae'r casgliad yn cynnwys pum cyfrol o lyfrau cyfrifon Capel Moriah, Mynydd Cynffig, 1850-2001, yn nodi derbyniadau a thaliadau cyffredinol yn ymwneud â'r Capel.

Capel Moriah (Kenfig Hill, Wales)

Papurau Ysgol Gynradd Pontrhydfendigaid, Canmlwyddiant: Pwyllgor Dathlu,

  • GB 0210 PONAID
  • fonds
  • 1978-1979 /

Cofnodion Pwyllgor Dathlu Camlwyddiant, Ysgol Gynradd Pontrhydfendigaid, yn cynnwys cofnodion, 1978-1979; llythyrau, 1978-1979; a llyfrau casglu,1978 = Records of Pwyllgor Dathlu Canmlwyddiant, Ysgol Gynradd Pontrhydfendigaid, comprising minutes, 1978-1979; letters, 1978-1979; and collection books, 1978.

Ysgol Gynradd Pontrhydfendigaid (Pontrhydfendigaid, Wales)

Papurau Owen Owens, Trawsfynydd,

  • GB 0210 OWENOWENS
  • fonds
  • 1864-1925 /

Llyfrau nodiadau Owen Owens, 1864-1925, yn cynnwys nodiadau pregethau a glywodd yn Nhrawsfynydd, Bala a Llangywer, sir Feirionnydd, ac mewn mannau eraill, 1864-1916, ynghyd â chofnodion Capel Moriah (MC) ac ysgolion ardal Trawsfynydd, yn enwedig Ysgoldy Caeadda,1896-1925, a dyddiadur, 1894. = Notebooks, 1864-1925, of Owen Owens, containing notes on sermons heard by him in Trawsfynydd, Bala and Llangywer, Merionethshire, and elsewhere, 1864-1916, together with records of Moriah Chapel (MC), and schools in the Trawsfynydd area, particularly Ysgoldy Caeadda, 1896-1925, and a diary, 1894.

Owens, Owen, (of Trawsfynydd)

Papurau Cymdeithas yr Iaith (Rhodri Williams),

  • GB 0210 CYMAMS
  • fonds
  • 1974-1980 /

Cofnodion yn ymwneud â Chymdeithas yr Iaith, 1974-1980, yn cynnwys cofnodion yn ymwneud â Chyfarfodydd Cyffredinol, 1974-1980, a chofnodion cyfarfodydd y Senedd, 1974-1980 = Records relating to the Cymdeithas yr Iaith, 1974-1980, including records relating to General Meetings, 1974-1980; and records of Senedd meetings, 1974-1980.

Williams, Rhodri.

Results 141 to 160 of 256