Showing 674 results

Archival description
Only top-level descriptions Welsh
Print preview View:

3 results with digital objects Show results with digital objects

CMA: Cofysgrifau Eglwys Moriah, Ynyshir,

  • GB 0210 MORYN
  • fonds
  • 1902-1966 /

Cofysgrifau Eglwys Moriah, Ynyshir, yn cynnwys llyfrau cyfrifon yr Eglwys, 1902-1932, llyfrau cofnodion y blaenoriaid, 1936-1966, ystadegau blynyddol, 1931-1950, a llyfr llythyron, 1943-1959.

Moriah C.M. Chapel, Ynyshir.

CMA: Cofnodion Capel Y Morfa, Abergele

  • GB 0210 MORELE
  • fonds
  • 1930-2003

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau Capel y Morfa, Abergele, gan gynnwys dau lyfr cofnodion, 1930-1996, dau lyfr cyfrifon, 1967-2002, pamffledi yn ymwneud â hanes y capel a'r henaduriaeth, 1966-2003, a phapurau perthnasol eraill, 1966-2003.

Morfa (Church : Abergele, Wales)

David Thomas (Dewi Glanrhondda) Papers,

  • GB 0210 DAOMAS
  • fonds
  • 1884-1933 /

Papurau'r bardd David Thomas, yn cynnwys barddoniaeth, 1884-1932, papurau personol,1887-1933, papurau amrywiol [ar ôl 1893], a deunydd printiedig, 1899 = Papers of the poet David Thomas, including poetry, 1884-1932, personal papers, 1887-1933, miscellaneous papers [post-1893], 1932, and printed material, 1899.

Thomas, David, Dewi Glanrhondda, 1861-1933

Papurau Cynog Dafis,

  • GB 0210 CYNFIS
  • fonds
  • 1934-2007

Papurau Cynog Dafis, yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol,1964-1973, ffeiliau yn ymwneud ag addysg, 1961-1982, ffeiliau yn ymwneud â chynghrair Plaid Cymru/Y Blaid Werdd yng Ngheredigion, 1991-1997, papurau, 1996-1997, yn ymwneud ag etholiad cyffredinol 1997, areithiau, ymgyrch llywyddiaeth Plaid Cymru ac etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007 = Papers of Cynog Dafis, including general correspondence, 1964-1973, files relating to education, 1961-1982, files relating to the Plaid Cymru / Green Party alliance in Ceredigion, 1991-1997, papers relating to the 1997 general election, 1996-1997, speeches, campaign for the role of President of Plaid Cymru and the National Assembly for Wales election 2007.

Derbyniwyd papurau ychwanegol sydd dal heb eu catalogio = Addition papers received remain uncatalogued.

Dafis, Cynog, 1938-

Hanes Cwm Manwledd,

  • NLW MS 21714B.
  • File
  • [c. 1883].

Traethawd ar hanes Cwm Manwledd, ger Llanidloes, sir Drefaldwyn, yn ystod y cyfnod 1843-1883. = An essay, in Welsh, on the history of Cwm Manwledd, near Llanidloes, Montgomeryshire, during the period 1843-1883.

Hanesion ardal Tanygrisiau,

  • NLW MS 21707B.
  • File
  • [1885x1915].

Dros ddau gant o straeon digri a ffraeth o ardal Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, sy'n cyfeirio'n bennaf at fywyd y chwarel. Ceir hefyd sawl braslun, rhai ohonynt gan J. Kelt Edwards. = Over two hundred anecdotes and witticisms from the Tanygrisiau district, Blaenau Ffestiniog, mainly relating to quarry life. A number of sketches are also included, a few of which are by J. Kelt Edwards.
Ymddengys fel pe rhai dalennau wedi'u anodu yn llaw plentyn. = Some folios appear to be annotated in a child's hand.

Awdl 'Iesu o Nazareth' gan Dyfed

  • NLW MS 23796E.
  • File
  • [?20 gan., cynnar]

Copi llawysgrif, [?20 gan., cynnar], mewn llaw anhysbys, o'r awdl 'Iesu o Nazareth' gan Evan Rees (Dyfed), yn cyfateb yn agos i'r testun a gyhoeddwyd yng ngyfrol Dyfed, Gwlad yr Addewid a Iesu o Nazareth (Caernarfon, 1894), tt. 155-220 (ff. 1-13 verso). = A manuscript copy, [?early 20 cent.], in an unidentified hand, of the awdl 'Iesu o Nazareth' by Evan Rees (Dyfed), corresponding closely to the version published in Dyfed, Gwlad yr Addewid a Iesu o Nazareth (Caernarfon, 1894), pp. 155-220 (ff. 1-13 verso).
Mae rhan o'r testun wedi ei gamleoli, a dylai f. 3 (sef diwedd rhan II) ddilyn f. 4 verso. Cynhwysir hefyd gopi teipysgrif o gerdd Dyfed 'Yr Iesu ar y ffynon' (gw. Gwlad yr Addewid a Iesu o Nazareth, tt. 109-110) (f. 14). = Part of the text is displaced, with f. 3 (the end of part II) following on from f. 4 verso. Also included is a typescript copy of Dyfed's 'Yr Iesu ar y ffynon' (see Gwlad yr Addewid a Iesu o Nazareth, pp. 109-110) (f. 14).

Dyfed, 1850-1923

Papurau Rachel Mary Davies,

  • GB 0210 RACIES
  • fonds
  • 1923-1992 /

Papurau Rachel Mary Davies, 1923-1992, yn cynnwys papurau'n ymwneud â Phlaid Cymru,1938-1985; deunydd printiedig a llyfrau, 1923-1992, gan gynnwys cyhoeddiadau Plaid Cymru, 1950-1966; a gohebiaeth â Waldo Williams,1958-1967, yn cynnwys englynion anghyhoeddedig. = Papers of Rachel Mary Davies, 1923-1992, including papers relating to Plaid Cymru, 1938-1985; printed matter and books, 1923-1992, including Plaid Cymru publications, 1950-1966; and correspondence with Waldo Williams, 1958-1967, including unpublished englynion.

Davies, Rachel Mary, (of Swansea), 1911-1996

Papurau Cyhoeddiadau Mei,

  • GB 0210 CYHMEI
  • fonds
  • 1977-1993 /

Gohebiaeth a chytundebau Cyhoeddiadau Mei, 1977-1993 = Correspondence and contracts of Cyhoeddiadau Mei, 1977-1993.

Cyhoeddiadau Mei.

Papurau Cymdeithas Cofeb Beca,

  • GB 0210 CYMBECA
  • fonds
  • 1964-1993 /

Papurau, yn cynnwys cyfriflenni, a gohebiaeth yn ymwneud â dadorchuddio Cofeb Beca yn Efailwen, 1964-1993 = Papers, including bank statements, and correspondence relating to the unveiling of the Beca memorial at Efailwen, 1964-1993.

Cymdeithas Cofeb Beca.

Papurau Annie J. Parry,

  • GB 0210 ANNJRRY
  • fonds
  • 1874-1907 /

Papurau'n ymwneud â gyrfa academaidd Annie Julian Parry, 1906-1934, a'i gwaith fel athrawes, a phapurau'n ymwneud â'i rhieni, 1874-1907 = Papers relating to the academic career and to the work as a school teacher of Annie Julian Parry, 1906-1934, and papers relating to her parents, 1874-1907.

Parry, Annie Julian, 1889-1972.

Nodiadau T. E. Ellis ar Morgan Llwyd

  • NLW MS 24073B
  • File
  • 1893, [c. 1897]

Copi personol Thomas [Edward] Ellis, wedi ei ryngddalennu, o Morgan Llwyd, Llyfr y Tri Aderyn (Lerpwl: Isaac Foulkes, 1893), yn cynnwys nodiadau ac arnodiadau helaeth, yn Saesneg a Chymraeg, yn llaw Ellis, [c. 1897]. Ellis oedd golygydd cyfrol gyntaf Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd (Bangor, 1899), lle'r atgynhyrchwyd testun argraffiad cyntaf Llyfr y Tri Aderyn (1653) (tt. 151-266). = Thomas [Edward] Ellis's personal interleaved copy of Morgan Llwyd, Llyfr y Tri Aderyn (Liverpool: Isaac Foulkes, 1893), containing copious notes and annotations, [c. 1897], by Ellis in English and Welsh. Ellis was the editor of the first volume of Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd (Bangor, 1899), in which was reproduced the text of the first edition of Llyfr y Tri Aderyn (1653) (pp. 151-266).
Mae'r gyfrol yn cynnwys mân arnodiadau ar y testun gwreiddiol gyda nodiadau ychwanegol ar y rhyngddalennau (ff. 28 verso-141 verso passim). Ceir nodiadau a dyfyniadau mwy sylweddol, ar bynciau megis y Rhyfel Cartref a'r Werinlywodraeth, Oliver Cromwell, John Milton, diwinyddiaeth Gatholig, y Bumed Frenhiniaeth a'r Piwritaniaid Cymreig, ar y dalennau ychwanegol ar gychwyn a diwedd y gyfrol (ff. 1 verso-15, 25 verso-26, 145-150), gan ddyfynnu amrywiaeth o ffynonellau. = The volume contains minor annotations to the original text with further notes supplied on the interleaves (ff. 28 verso-141 verso passim). More substantial notes and quotations, on subjects including the Civil War and Commonwealth, Oliver Cromwell, John Milton, Catholic theology, the Fifth Monarchy and the Welsh Puritans, have been written on the additional leaves at the beginning and end of the volume (ff. 1 verso-15, 25 verso-26, 145-150), quoting various sources.

Ellis, Thomas Edward, 1859-1899

Cyfrol o bregethau Evan Williams, Morfa Nefyn,

  • Mân Adnau 1619.
  • file
  • [1846]-[1890].

Llyfr o bregethau Evan Williams (1808-1890), Morfa Nefyn, a roddwyd i Greirfa Bwrdd y Genhadaeth, Coleg y Bala, gan Mrs E. W. Jones, Porthaethwy (gweddw'r Athro Bedwyr Lewis Jones).

Cofnodion Capel Tabernacl (B), Caerfyrddin,

  • NLW ex 2889 (i) & (ii)
  • file
  • 2003-2011.

Copïau o gofnodion EglwysTabernacl (Bedyddwyr), Caerfyrddin, wedi eu casglu ynghyd gan yr ysgrifennydd Mr Ken Davies.

Tabernacl (Church : Carmarthen, Wales)

Papurau Tu Chwith,

  • NLW ex 2864.
  • file
  • 1992-1995.

Papurau’n ymwneud â Tu Chwith, cylchgrawn llenyddol cyfoes, a sefydlwyd yn 1993 o dan olygyddiaeth Simon Brooks ac Elin Llwyd Morgan, gyda thema arbennig i bob rhifyn. Ceir llythyrau oddi wrthynt a llenorion a chyfranwyr i’r cylchgrawn.

Brooks, Simon, 1971-

Perfformiad o'r ddrama Blodeuwedd,

  • NLW Facs 1017.
  • file
  • 2007.

Llungopi o raglen y ddrama Blodeuwedd gan Saunders Lewis a berfformiwyd gan Chwaraewyr Garthewin ar gyfer Undeb Drama’r Gogledd yn [1948].

Archif sioeau cerdd Cymru,

  • NLW ex 2863.
  • file

Casgliad o sgriptiau a geiriau sioeau cerdd, gwreiddiol ac addasiadau, a berfformiwyd yng Nghymru mewn eisteddfodau cenedlaethol a'r Urdd yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys 'Ffantasmagoria', 'Olifar', 'Streic!', 'Wilco', 'Inc yn y gwaed', 'Hersprê' a 'Y seren ddwyfol'. Aled Lloyd Davies a fu'n gyfrifol am lawer iawn o'r geiriau.

Davies, Aled Lloyd.

Papurau'n ymwneud â'r Hen Gapel, Llanbrynmair,

  • NLW ex 2850.
  • file
  • 1864-1919.

Casgliad bychan o bapurau yn ymwneud â'r Hen Gapel (Annibynwyr), Llanbrynmair, gan gynnwys rhestr testunau 'eisteddfod fawreddog' a gynhaliwyd yn ysgoldy'r eglwys yn 1874, a llythyr oddi wrth Abraham Thomas, Iowa, 1882, at John Brees, Brynderwen, Llanbrynmair.

Diwydiannau coll,

  • NLW ex 2843.
  • file
  • [1943] /

Teipysgrif o lyfr gan Bob Owen, Croesor, a gyhoeddwyd ym 1943, gydag olion cywiro drwyddo yn llaw Iorwerth Peate a Thomas Parry. [Ceir hanes ysgrifennu'r llyfr yn Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Lenyddol 1941 (Hen Golwyn), tud. 141, a hefyd yn Rhagair T[homas] Parry i'r llyfr].

Owen, Bob, 1885-1962.

Llyfrau darllen bychan,

  • NLW ex 2772.
  • file
  • 1950.

Naw llyfrau darllen bychan: 'Sam a Ben' (I-iii); 'Sam a Ben a Tomi' gan Miss Megan Thomas, Abersoch; 'Lipti Lop yn y bocs'; 'Lipti Lop yn y bath'; 'Lipti Lop yn mynd I'r gwely'; 'Y Llygoden Fach Wen'; 'Dilys a'r Dewin' gan Mrs C. Grainger Smith.

Thomas, Megan.

Results 41 to 60 of 674