Showing 1284 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Achau Wil Penfold; Eisteddfod Genedlaethol Cricieth 1975

Llyfr nodiadau yn llaw Dilys Williams, y nodyn 'ACHAU Wil Penfold' wedi'i ysgrifennu ar y clawr blaen, yn cynnwys un dalen yn unig o nodiadau achyddol, gyda gweddill y gyfrol o'r bron yn cynnwys nodiadau ynghylch amserlen Eisteddfod Genedlaethol Cricieth 1975, pryd y cynhaliwyd [?cystadleuaeth] Cerdd Goffa Waldo yn y Babell Lên. Ar ddalen gyntaf y gyfrol ceir yr enw 'Dil' a rhifau wedi'u hysgrifennu mewn ysgrifen plentyn, ynghyd â'r dyddiad '1975', mae'n debyg yn llaw Dilys Williams.

Ffotograffau teuluol

Llungopïau o ffotograffau o Waldo Williams a'i chwiorydd Morvydd Monica Williams a Mary Enid Williams (yn ddiweddarach Francis) ac o'r pump plentyn - Morvydd Monica, Mary Enid, Waldo, Roger (brawd Waldo) a Dilys Williams (chwaer Waldo). Mae'r arysgrif anhysbys (wedi'i lungopïo) ochr-yn-ochr â'r lluniau yn datgan fel y nodwyd gwybodaeth ar gefn y ffotograffau gwreiddiol gan Dilys Williams.

Llungopi o doriad o'r wasg yn dangos ffotograff o blant ac athrawon Ysgol Mynachlog-ddu, 1915, yn eu plith Waldo Williams, ei chwiorydd Morvydd a Mary, ei frawd Roger a'i dad John Edwal Williams, prifathro'r ysgol. Rhestrir enwau'r plant a'r athrawon ar waelod y llun.

Ysgrif goffa y Parchedig John Jenkins

Toriad papur newydd yn cynnwys ysgrif goffa y Parchedig John Jenkins, gweinidog Capel Bedyddwyr Hill Park, Hwlffordd, Sir Benfro, sef addoldy rhieni Waldo Williams pan oeddent yn byw yno yn ystod blynyddoedd cynharaf Waldo. 'Roedd John Jenkins yn sosialydd ac yn gyfaill agos i John Edwal Williams, tad Waldo. Bu ei fab, W. J. (William James) Jenkins, yn gyfaill bore oes i Waldo.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol yn bennaf o natur wleidyddol, lenyddol, grefyddol neu gymdeithasol, yn eu plith:

Llungopi o ffotograff o Glunderwen, Sir Benfro, tua throad neu ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif.

Pamffledyn gan Harold Bing yn dwyn y teitl 'Pacifists over the world'.

Taflen yng ngeiriau George Bernard Shaw yn dwyn y teitl 'Sacrifice - for what?'

Cerdyn cydnabod Mrs Eluned Tilsley, gweddw'r bardd y Parchedig Gwilym Richard Tilsley ('Tilsli').

Rhifyn cyntaf (Nadolig 1946) ac ail rifyn (Calanmai 1947) o gylchgrawn Y Fflam.

Cerdyn yn dangos cofeb y bardd a'r llenor D. J. Williams ar y Lôn Las, Abergwaun.

Cerddi amrywiol

Teipysgrif a llungopïau o amrywiol gerddi yn dwyn y teitlau 'Dydd Barn A Diwedd Byd', 'Saunders Lewis', 'Brambles' a 'Ynys Ffri (O Saesneg W. B .Yeates [sic]' (y ddwy olaf wedi'u llungopïo o ffynhonell brintiedig). Ceir llungopi o gerdd ddrafft - a ymddengys ei bod yn hanner Cymraeg, hanner Saesneg - ar gefn y gerdd 'Saunders Lewis'.

Copïau teipysgrif o sonedau a ymddengys fel pe baent wedi'u cyflwyno ar gyfer cystadleuaeth, gan gynnwys y soned fuddugol, pob un â ffugenw atodol.

Llungopi o gerdd ddi-enw mewn teipysgrif yn dwyn y teitl 'Stafell Blaentwrch'.

Gilmora, 15 o alawon cerdd dant.

Ail argraffiad o 'Gilmora' 15 o alawon cerdd dant, cyhoeddwyd gan Y Lolfa [argraffiad cyntaf yn 1984]. Cynnwys: Moel Hiraddug; Porth y nant; Erw faen; Bryn Elwy; Ymadawiad y Brenin; Carnguwch; Gallt derw; Glan Clwyd; Treddafydd; Cefni; Gelliwig; Breuddwyd y Frenhines; Dyffryn Maelor; Y Faenol Bropor; Aberderfyn.

Hwyl ar y gân,

Hwyl ar y gân, 7 o ganeuon i blant, gan Gilmor Griffiths, cyhoeddwyd gan Y Lolfa, Rhagfyr 1984. Cynnwys: Wedi'r gaeaf; Breuddwydio; Gwylanod; Lliwiau'r Hydref; Y deffro; Cwymp y dail; Santa bach.

Mary Carol,

Llungopïau o rannau offerynnau ensemble gwynt ar gyfer 'Mary Carol' gan Gilmor Griffiths.

Adlais,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o'r alaw 'Adlais' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Dorothy Jones (Langwm). Dau wahanol gywair.

Boed mawl i ti,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o'r alaw 'Boed mawl i ti' mewn dau wahanol gywair, i S.A. gan Gilmor Griffiths, geiriau gan James Arnold Jones.

Carol Parsal,

Sgôr yr hen nodiant a hefyd tonic sol-ffa i eiriau Wil Parsal ar gyfer lleisiau merched (S.S.A.A.).

Coediog,

Llawysgrif o'r alaw 'Coediog' gan Gilmor Griffiths ar gyfer S.A.T.B. ond heb eiriau.

Glan Aber,

Llungopi o gyfansoddiad Gilmor Griffiths, trefniant i eiriau 'Deisyfiad yr Ysbryd Glan' sef emyn gan John Hughes. Hen nodiant a sol-ffa ar gyfer S.A.T.B.

Huw Puw,

Trefniant Gilmor Griffiths o 'Huw Puw', ar gyfer pedwar llais (S.A.T.B.), yr alaw allan o gasgliad J. Glyn Davies.

Results 121 to 140 of 1284