Showing 210 results

Archival description
Papurau Waldo Williams
Print preview View:

Teulu Waldo Williams

Deunydd yn ymwneud ag aelodau teulu Waldo Williams, yn bennaf ei rieni John Edwal Williams ac Angharad Williams (née Jones) a'i chwaer Dilys Williams, yn ogystal ag aelodau eraill o'r teulu, gan gynnwys ei frawd a'i chwaer Roger a Mary (yn ddiweddarach Francis), ei nai David Williams (mab Roger Williams) ac aelodau o gangen Llewellyn i'r teulu, gan gynnwys Gwladys Llewellyn a Mary Llewellyn.

Papurau Waldo Williams

  • GB 0210 WALDO
  • Fonds
  • [1880]x[2018]

Deunydd gan neu yn ymwneud â'r bardd a'r heddychwr Waldo Williams, sy'n adlewyrchu ei ddaliadau gwleidyddol, crefyddol, heddychol a dyngarol; ynghyd â deunydd gan neu yn ymwneud ag aelodau teuluol, cyfeillion a chydnabod Waldo Williams.

Williams, Waldo, 1904-1971

John Edwal Williams

Deunydd gan, ym meddiant neu'n ymwneud â John Edwal Williams, tad Waldo Williams, gan gynnwys cyfnodolion a phamffledi yn bennaf o ddiddordeb sosialaidd; torion papur newydd yn cynnwys erthyglau gan John Edwal a gyhoeddwyd yn y wasg leol; deunydd yn ymwneud â gyrfa John Edwal; deunydd yn ymwneud â theulu John Edwal, gan gynnwys gwybodaeth achyddol, manylion cyfrifiadau a deunydd gan neu yn ymwneud â William (Gwilamus) a Lewis Williams, brodyr John Edwal; a gohebiaeth.

Pamffledi sosialaidd

Pamffledi a llyfrynnau ym meddiant John Edwal Williams yn ymwneud yn bennaf â sosialaeth a Theosoffiaeth, gan gynnwys deunydd a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Ffabiaidd gan yr athronydd a'r llenor Thomas Carlyle a'r dramodydd, adolygydd a'r dadleuydd George Bernard Shaw ac eraill; yn ogystal â deunydd sy'n dyddio o'r 1940au, wedi marwolaeth John Edwal Williams. Arysgrifir llofnod John Edwal ar ambell ddalen. Cyhoeddwyd y deunydd ym Mhrydain a'r Unol Daleithiau.

Tystysgrifau enillwyd gan John Edwal Williams

Tystysgrifau enillwyd gan John Edwal Williams yn ystod ei yrfa addysgiadol; yn ogystal ag amlen wag wedi'i chyfeirio at 'Mr J. Edwal Williams 8 Darley St[reet] Winter St[reet] Sheffield'. Ar ddechrau ei yrfa, bu John Edwal yn dysgu yn Ysgol Fwrdd Firs Hill, Sheffield (gweler Tystlythyrau John Edwal Williams dan bennawd John Edwal Williams).

Arysgrif yn llaw Dilys Williams, merch John Edwal Williams, ar amlen wedi'i chyfeirio at John Edwal Williams yn '12 Park Street, Upper Bangor': 'RHIFYN OLAF Y DEYRNAS TYSTYSGRIFAU DAD (J.E.W.)'. Am rifyn olaf Y Deyrnas, gweler The Welsh Outlook / Y Geninen / Y Deyrnas dan bennawd John Edwal Williams.

Rhestr ymgeiswyr ar gyfer colegau hyfforddi

Toriad papur newydd dyddiedig 9 Hydref 1886 yn rhestru'r myfyrwyr rheini oedd wedi cymhwyso i gael mynediad i golegau hyfforddi athrawon, yn eu plith John Edwal Williams a George William Roome, a oedd yn gyd-fyfyriwr i John Edwal yn ystod eu cyfnod yn y Coleg Normal, Bangor (1887-1888), ac a fu'n gyfaill iddo am lawer blwyddyn wedi hynny. Ceir arysgrif ar frig y ddalen, yn ôl pob tebyg yn llaw Dilys Williams, merch John Edwal, sy'n darllen 'Dad' a 'Mr Roome'.

Tystlythyrau John Edwal Williams

Tystlythyrau John Edwal Williams wrth iddo ymgeisio am swyddi wedi iddo raddio o'r Coleg Normal, Bangor, gan gynnwys tystlythyron oddi wrth John Price, prifathro'r Coleg Normal, ac oddi wrth J. Cocker, prifathro Ysgol Maenclochog, lle cwblhaodd John Edwal dymor prentisiaeth fel athro; ynghyd â curriculum vitae (anghyflawn) John Edwal [yn ei law ei hun].

Cerdyn coffa Mary Llewellyn

Cerdyn coffa ('In Memoriam') Mary Llewellyn, Denver, Colorado, Unol Daleithiau, a fu farw ychydig ddyddiau wedi genedigaeth ei merch, Gwladys Mary Llewellyn (gweler Gwladys Llewellyn dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams).

Aelodau eraill teulu Waldo Williams

Deunydd yn ymwneud ag aelodau eraill o deulu Waldo Williams (h. y., ar wahân i'w rieni, John Edwal ac Angharad Williams, a'i chwaer, Dilys Williams), gan gynnwys ei chwaer Mary Enid, ei frawd Roger, a'i ewythr William Williams (Gwilamus).

Mary Llewellyn (née Williams)

Deunydd gan neu yn ymwneud â Mary Llewellyn (née Williams), chwaer John Edwal Williams, tad Waldo Williams, gan gynnwys llythyr oddi wrth Mary Llewellyn at ei rhieni, Dafydd (Dafi) a Martha Williams a cherdyn coffa Mary Llewellyn.

Llyfr lloffion Angharad Williams

Llyfr lloffion o eiddo Angharad Williams (née Jones) yn adlewyrchu ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth, llenyddiaeth a hanes cyfoes trwy gyfrwng barddoniaeth, portreadau o unigolion nodedig (gan gynnwys Syr Henry Jones, ewythr Angharad), a thorion papur newydd, yn eu plith eitemau'n olrhain hanes digwyddiadau'r Rhyfel Byd Cyntaf; ynghyd â ryseitiau coginiol a meddyginiaethol a manylion cyfrif Angharad gyda John Morris, siopwr yn Llandysilio.

Angharad Williams (née Jones)

Deunydd gan, ym meddiant neu'n ymwneud ag Angharad Williams (née Jones), mam Waldo Williams, gan gynnwys llyfr lloffion a gasglwyd ynghyd gan Angharad; llyfrau nodiadau yn llaw Angharad; cyfrifiadau a gwybodaeth achyddol yn ymwneud â theulu Angharad, yn arbennig felly ar ochr ei thad, John Jones; ac ysgrif goffa i Angharad a gyhoeddwyd yn y wasg leol yn fuan wedi ei marwolaeth ym 1932.

Torion papur newydd

Amrywiol dorion papur newydd, yn bennaf o ddiddordeb gwleidyddol, llenyddol, lleol neu genedlaethol, gan gynnwys deunydd o'r papurau newydd sosialaidd y Labour Leader a'r British Weekly.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol na ellid ei gategorïo dan unrhyw bennawd penodol, yn cynnwys yn bennaf bapurau newydd a thorion papurau newydd.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol yn bennaf o natur wleidyddol, lenyddol, grefyddol neu gymdeithasol, yn eu plith:

Llungopi o ffotograff o Glunderwen, Sir Benfro, tua throad neu ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif.

Pamffledyn gan Harold Bing yn dwyn y teitl 'Pacifists over the world'.

Taflen yng ngeiriau George Bernard Shaw yn dwyn y teitl 'Sacrifice - for what?'

Cerdyn cydnabod Mrs Eluned Tilsley, gweddw'r bardd y Parchedig Gwilym Richard Tilsley ('Tilsli').

Rhifyn cyntaf (Nadolig 1946) ac ail rifyn (Calanmai 1947) o gylchgrawn Y Fflam.

Cerdyn yn dangos cofeb y bardd a'r llenor D. J. Williams ar y Lôn Las, Abergwaun.

Cardiau post at Mary Williams

Cardiau post wedi'u cyfeirio at Mary Williams (yn ddiweddarach Francis), fel a ganlyn:

Cerdyn, di-ddyddiad, wedi'i lofnodi gan George W[illiam] Roome, a oedd yn gyd-fyfyriwr i John Edwal Williams, tad Mary, yn y Coleg Normal, Bangor (gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 28).

Cerdyn, marc post 19 Rhagfyr 1915, oddi wrth ei hewythr, William Price Jones, brawd ei mam, Angharad Williams (née Jones) (mae'r cyfeiriad 'Oak or Elm Cottage' ar ei gerdyn yn enghraifft o hiwmor William Price Jones (gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 39) (gweler hefyd Cardiau post at Angharad Williams oddi wrth William Price Jones dan bennawd Angharad Williams (née Jones)).

Cardiau, un di-ddyddiad, un marc post 3 Rhagfyr 1915, oddi wrth 'Uncle Ned' ac oddi wrth 'Uncle Ned, Aunty Minnie & Ioan', sef Edward (Ned) Thomas Edmunds, ei wraig Wilhelmina (Minnie) (née Jones), chwaer Angharad Williams (née Jones), a'u mab Ioan Edmunds (gweler Edward (Ned) Thomas Edmunds dan bennawd Angharad Williams (née Jones)).

Dau gerdyn, marc post Avalon, California, 9 Gorffennaf 1927 a Cleveland, Ohio, 1[?0] Mawrth (dyddiad wedi'i ddiddymu), oddi wrth Lewis Williams (llofnod 'LW' ar y cardiau), brawd ei thad, John Edwal Williams (gweler hefyd Lewis Williams dan bennawd John Edwal Williams a Cerdyn post at Dilys Williams oddi wrth Lewis Williams dan bennawd Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams).

Cerdyn, di-ddyddiad, â'r un gair 'Mary' arno.

Cerdyn, marc post 16 Awst 1915, oddi wrth 'Gwyneth'.

Llyfrau nodiadau Angharad Williams

Llyfrau nodiadau yn llaw Angharad Williams (née Jones) yn cynnwys dyfyniadau o ffynhonellau crefyddol a llenyddol, copïau o lythyrau a ryseitiau ar gyfer y gegin a'r cartref.

Results 1 to 20 of 210