Showing 1033 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales File Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Y Llyfrgell Brydeinig

Papurau a gohebiaeth, 1981-1982, yn ymwneud â chais y Ganolfan am grant i Adran Ymchwil a Datblygiad y Llyfrgell Brydeinig am y prosiect ymchwil arfaethedig ‘The Information Needs of Celtic Scholars’, yn cynnwys copi o’r cais (1981); copi o Adroddiad Blynyddol y Ganolfan 1980-1981 (1981); nodiadau ([1981]); a llythyrau cysylltiedig yn trafod y cais, 1981-1982, oddi wrth J. E. Caerwyn Williams; R.C. Snelling; ac M. O’Hare.

Y gyfrol

Adysgrifau o gywyddau, limrigau, englynion, sonedau ac adroddiadau Adar Tydfor gan Ann Tydfor, teipysgrif wedi'i chywiro, ynghyd â llythyrau yn ymwneud â'r gyfrol oddi wrth Wasg Gomer yn 1993.

Y Gwcw,

Sgôr o gân gwerin 'Y Gwcw', trefniant Gilmor Griffiths ar gyfer côr unsain merched neu blant.

Y Genhinen

Papurau'n deillio o'i gyfnod fel golygydd y cylchgrawn gan gynnwys llythyrau oddi wrth lenorion amlwg.

Y gaeaf sydd unig

Drafft llawysgrif, [1981], o ran (rhan o bennod 4, rhan o 5, a rhan o 7) o nofel Y Gaeaf Sydd Unig gan Marion Eames (Llandysul, 1982). = A manuscript draft, [1981], of part (part of chapter 4, part of 5, and part of 7) of Marion Eames's novel Y Gaeaf Sydd Unig (Llandysul, 1982).

Y gaeaf sydd unig

Drafft llawysgrif, [1981], o ran (penodau 1, rhan o 2, 3, rhan o 4, rhan o 5, 6, a rhan o 7) o nofel Y Gaeaf Sydd Unig gan Marion Eames (Llandysul, 1982). = A manuscript draft, [1981], of part (chapters 1, part of 2, 3, part of 4, part of 5, 6, and part of 7) of Marion Eames's novel Y Gaeaf Sydd Unig (Llandysul, 1982).

Y gadeiryddiaeth

Papurau, 1975-2001, gan gynnwys cyfansoddiad y mudiad, cofnodion y Cyngor Cenedlaethol, datganiadau i'r wasg a gohebiaeth Howard Huws fel cadeirydd y mudiad.

Y Ford Gron

Llythyrau, 1920 -1932, 1984, at John Eilian oddi wrth lenorion a gwleidyddion amlwg yn y 1920au a 1930au, llawer ohonynt yn ymateb i'r cylchgrawn.

'Y Fforwm Gernywaidd'

Papurau a gohebiaeth, 1988, yn ymwneud â seithfed Fforwm y Ganolfan, ‘Y Fforwm Cernywaidd’, yn cynnwys y rhaglen; rhestr o fynychwyr; crynodebau; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth Brian Murdoch; Oliver Padel; Morfydd E. Owen; R. Geraint Gruffydd; Jack Arnell; Gwenan Creunant; Terence McCaughey; E. Evans; Tim Saunders; Bedwyr Lewis Jones; Lauran Toorians; Myrna Harris; a Charles Thomas.

Y Faenol Bropor,

Gosodiad gan Glyn Hopkins o eiriau 'Ann Griffiths' gan D. G. Jones, i'r alaw 'Y Faenol Bropor' gan Gilmor Griffiths. Llungopi o'r sgôr, yn ogystal â geiriau i donig sol-ffa.

Y Deffro,

Llungopi o sgôr mewn llawysgrif o 'Y Deffro' ar gyfer unsain, cyfansoddiad Gilmor Griffiths, geiriau gan Leslie Harries. Un ar gyfer llais gyda chyfeiliant, ac un ar gyfer y llais yn unig.

Y Ddinas

Torion o erthyglau a gyfrannodd i'r golofn 'Sylwadau' yn Y Ddinas (cylchgrawn Cymry Llundain), 1953-1955, a llythyr ato oddi wrth Caradog Prichard, 1955, 'Emlyn Evans: Gwerthfawrogiad', Y Ddinas, Awst 1957, ynghyd ag erthyglau diweddarach a gyhoeddwyd yn Llais Ogwan a Y Goleuad.

Prichard, Caradog, 1904-1980

Y Cymro

Papurau, 1930-1934, gan gynnwys gohebiaeth rhwng Rowland Thomas, perchennog Hughes a'i Fab, a John Eilian.

Y Corn Gwlad

Un rhifyn yn unig a argraffwyd o'r cylchgrawn hwn sef Cylchgrawn Blynyddol Gorsedd y Beirdd a'r Eisteddfod wedi'i olygu gan John Eilian.

Results 41 to 60 of 1033