Dangos 1033 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Cymdeithas Llyfrau Cymraeg

Deunydd cyhoeddusrwydd yn ymwneud â Chymdeithas Llyfrau Cymraeg Llundain y bu Emlyn Evans yn ysgrifennydd ac yn llywydd arni yn Llundain, torion o'r Faner, 1956, yn ymwneud â changhennau o'r Gymdeithas Lyfrau yng Nghymru, a phapurau cyffredinol.

'Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru', J. Lloyd Williams (xiv)

Mae’r ffeil yn cynnwys un bocs cardiau mynegai glas (ff. 1-119) gan Merêd, gydag ystadegau ynghylch ffynonellau caneuon / alawon yng Nghylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru [I-IV: (i)] yn ystod golygyddiaeth John Lloyd Williams. Trefnwyd fesul Cyfrol I-IV i fyny at Cyfrol IV Rhan 1 sef y rhifyn olaf a olygwyd gan J Lloyd Williams. Ceir cyfeiriadau at ganorion (e.e. John Morris a R. E. Vaughan), unigolion (e.e. Grace Gwyneddon Davies, Ruth Lewis, J Lloyd Williams a Phillip Thomas) a chasgliadau.

Cyhoeddiadau cynadleddau

Cynigion i'r gynhadledd, 1978, penderfyniadau, 1984 (gyda nodiadau Dafydd Williams), 1987 a 1990, standing orders, [post 1984], rhaglenni cynadleddau 1977, 1994-1996, 2000-2001 a 2004, taflen Cynhadledd Wanwyn, 2002, a chynnigion a gwelliannau, 2003.

Cyflythreniad

Darn ar gyflythreniad, [c. 1824], gan Samuel Roberts. Ysgrifenwyd o bosib fel rhan o'r traethawd 'Ardderchawgrwydd yr Iaith Gymraeg' ar gyfer Eisteddfod Powys 1824, ond nid yw y testun yn rhan o'r traethawd cyhoeddiedig, gweler Samuel Roberts, Dau Draethawd (Caernarfon, 1834). = A fragment on alliteration, [c. 1824], written by Samuel Roberts. It was possibly written as part of an essay entitled 'Ardderchawgrwydd yr Iaith Gymraeg' for Powys Eisteddfod 1824, although it is not part of the printed version, see Samuel Roberts, Dau draethawd (Caernarfon, 1834).

Cyfleusterau anabl; arwyddion; ysgoloriaethau; tiwtoriaid; cyrsiau; pamffledi a llyfrynnau; yr Eisteddfod Genedlaethol; Y Panel Iaith; datganiadau i'r wasg

Gohebiaeth a phapurau, 1986-1988, yn ymwneud â nifer o faterion a digwyddiadau yn y Nant, yn cynnwys trafod cyfleusterau anabl (1988); arwyddion (1986); ysgoloriaethau (1987); tiwtoriaid (1987); cyrsiau preswyl (1987); cyrsiau dyddiol (1987); deunydd cyrsiau (1987); pamffledi a llyfrynnau (1987), yn cynnwys tri ffotograff; eisteddfod Genedlaethol (1987-1988); cynlluniau adeilad (1987); deunydd marchnata (1988), yn cynnwys tri ffotograff; Y Panel Iaith (1986-1988); dyddiadau agored (1987-1988); datganiadau i’r wasg (1986-1987); a nawdd (1986-1988).

Cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith

Cofnodion llawysgrif a theipysgrif o gyfarfodydd 12 Ionawr, 9 Mawrth, 13 Ebrill, 11 Mai, 13 Gorffennaf, 14 Medi, 12 Hydref a 9 Tachwedd, a phapurau cyfarfodydd 9 Tachwedd a 14 Rhagfyr.

Cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith

Agenda, adroddiadau a phapurau perthnasol eraill yn ymwneud â nifer o gyfarfodydd Hydref a Thachwedd, gan gynnwys cofnodion llawysgrif.

Cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith

Amryw agendas, adroddiadau a phapurau perthnasol eraill yn ymwneud â'r cyfarfodydd, gan gynnwys 'Plaid Cymru membership 2000 : analysis of demographic differences within Plaid Cymru membership' gan Sue Granik (LSE).

Canlyniadau 681 i 700 o 1033