Dangos 1033 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Tystysgrifau addysg

Tystysgrifau addysg Alun Eirug Davies, 1947, 1950, Ysgol Sir Tregaron, a thystysgrif am radd BA, [1954], ac MA yn 1968, Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Tystlythyrau

Llythyrau, 1964-1972, a dderbyniodd pan oedd yn ymgeisio am swyddi yn y byd addysg ac yn cefnogi'i gais.

Twristiaeth, gwaith a datblygu

Papurau, 1981-1988, gan gynnwys gohebiaeth, polisïau twristiaeth y mudiad a llythyr oddi wrth R. S. Thomas a phapurau'n ymwneud â phynciau fel Marina'r Penrhyn, Gwersyll Glyn Rhonwy a Chanolfan Wyliau yn Llanllechid.

Tri chryfion byd

Tri chryfion byd gan Twm o'r Nant (wedi ei gwtogi ar gyfer cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 1939) yn cynnwys llythyr oddi wrth Kate Roberts a nodiadau ar Twm o’r Nant.

Tre'r Ceiri,

Copi mewn llawysgrif a llungopi o 'Tre'r Ceiri' ar gyfer S.A.T.B., gan Gilmor Griffiths, geiriau gan John H. Williams, Myfoniog, Llannefydd. Darnau lleisiau yn unig a hefyd sgôr llawn gyda chyfeiliant. Trefniant i eiriau 'Emyn Heddwch' gan John H. Williams, Llannefydd yn yr hen nodiant a sol-ffa. Hefyd geiriau 'Wrth edrych Iesu ar dy groes' gan Mairlyn Lewis.

Trem y dydd,

Sgôr 'Trem y dydd', gan Gilmor Griffiths, geiriau gan James Arnold Jones. Llawysgrif a chopïau gyda nifer o gywiriadau a nodiadau. Trefniant ar gyfer lleisiau T.T.B.B neu S.A.T.B..

Trefnau gwasanaethau o ddiolch

Desmond T. Boobier, 1968, David John Davies (DJ), 1914-2000, Huw Tudwal Davies, 1922-1989, Annie Dorothy Watkin Dolben (Donos), 1970, Glyn Evans, 1998, Gwynfor Evans, 1912-2005, Lilian Mary Evans, 1989, John Henry Griffiths, 1988, Margaret Myfanwy (Molly) Griffiths, 1994, Cyril Hodges, 1974, Enid Arwel Hughes, 1995, Joan Hughes, 1927-2000, Eirwen Humphreys, 1912-1991, Emrys Jarman, 1983, H. R. Jones, 1975, J. E. Jones, 1970 (tri chopi), John Thomas Jones, 1984-1975, William Andreas Jones, 1991, Aneirin Lewis, 1924-1989, Dewi M. Lewis, 1924-2003 (dau gopi), Saunders Lewis, 1893-1985, Meinir Lloyd Llywelyn, 1955-1997, William Alun Mathias, 2002, Gwenda Nadolig Morgan, 1989, Tegwen Clee Morris, 1965, William Delwyn Phillips, [d.d.], Chris Rees, 2001, Ioan Bowen Rees, 1929-1999, Elwyn Roberts, 1989, Freda Roberts, 1993, Hywel David Roberts, 1989, William Henry Roberts, 1889-1983, Alun Rowlands, 1997, Elwyn Richard Rowlands, 1914-1984, Wynne Islwyn Samuel, 1989, Dan Thomas, 1974, David J. W. Thomas, 2002, Dewi-Prys Thomas, 1916-1985, Mair Elvet Thomas, 1998, Millicent (Mil) Thomas, 1999, Rachel Thomas, 1905-1995, William Gweirydd Thomas, 1914-1996, Sara Minwel Tibbott, 1998, Eunice Mary Williams, 2000, a Phil Williams, 1939-2003.

Traethawd MA

[Cofiant deg pennod i Gwilym Hiraethog gan T. Eirug Davies sy'n cynnwys llyfryddiaeth a nodiadau a ysgrifennodd tua 1934 ac a gyhoeddwyd yn Y Cofiadur, rhif 70, Mehefin 1970], ynghyd â llungopi o ran o'i draethawd MA: ‘Cyfraniad Dr William Rees (Gwilym Hiraethog) i fywyd a llên ei gyfnod’, 1931.

Tractiau eglwysig

Cyfrol, [16 gan.], yn cynnwys 'Estoria yr ysbryd gwido vwrdais' a thractiau eglwysig eraill, yr Elucidarium, Efengyl Nicodemus, arawd Gwgan, barddoniaeth, ayyb. = A volume, [16 cent.], containing the Story of Guido and other ecclesiastical tracts, the Elucidarium, the Gospel of Nicodemus, Gwgan’s oration, poetry, etc.
Ysgrifennwyd y gyfrol gan sawl awdur, gan gynnwys Rhydderch Lewis ap Owen (gw. t. 143). = The volume is written in several hands including that of Rhydderch Lewis ap Owen (see p. 143).

Torri record,

Dogfennau, toriadau papur ac yn y blaen sy'n adrodd hanes torri'r record 'Ganwyd Crist i'r Byd' yn 1975. Yn ogystal â rhaglen y '26th St David's National Festival', Royal Albert Hall, Llundain yn 1977 gyda manylion a threfniadau i'r disgyblion.

Torion yn ymwneud â'i benodiad i'r wasg

Torion o erthyglau yn ymwneud â'r rheolwr newydd, 'Emlyn Evans: Gwerthfawrogiad' a gyhoeddwyd yn Y Ddinas, Awst 1957, a'r rheswm am ei ymddiswyddiad yn 1964, ynghyd â chopi o 'Memorandwm ac Erthyglau Cwmni Christopher Davies (Cyhoeddwyr) Cyf.', 1949.

Canlyniadau 81 i 100 o 1033