Dangos 3783 canlyniad

Disgrifiad archifol
ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

4 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Y Bod Cenhedlig

Llawysgrif a phroflenni Y Bod Cenhedlig a gyhoeddwyd yn 1963, sef cyfieithiad o A. E. [G. W. Russell], The National Being a gyhoeddwyd yn 1916 gyda rhagymadrodd gan D. J. Williams; llythyrau, 1962, yn ymwneud â'r hawl i drosi'r gwaith i Gymraeg, gan gynnwys llythyr oddi wrth Diarmuid Russell [mab A. E. ]; a nodiadau, 1925, o A. E., Co-operation and Nationality (Dulyn, 1912), a, 1960, o John Eglinton, A Memoir of A. E..

Russell, Diarmuid, d. 1973

Y Beibl, cyhoeddi a hawlfraint

Mae'r ffeil hon yn cynnwys nodiadau yn ymwneud yn bennaf â chyhoeddi, yn enwedig cyhoeddi'r Beibl. Ymhlith y nodiadau mae llungopi o'r 'Report of the priviledged Presses Committee' yn ymwneud â chyhoeddi'r Beibl; nodiadau ar hanes y Beibl Cymraeg o dan y pennawd '250 Years Ago: The Welsh Bible'; ynghyd â dau lythyr ac amgaeëdigion oddi wrth y Bible Society.

William Jones, Llangadfan

Adysgrif gan Erfyl Fychan, [1920]-[1968], o lyfr William Jones (1726-1795), Dolhywel, Llangadfan, yn cynnwys cerddi yn y mesurau caeth ganddo, 1771-1792, ynghyd â rhestr o ddyddiadau 'holl hen ffeiriau Cymru' o lawysgrif a ysgrifennwyd tua 1620. Defnyddiwyd y llyfr hefyd ar gyfer gwneud nodiadau o lawysgrif Cwrtmawr 856D ar arferion priodi yn Sir Aberteifi.

Jones, William, 1726-1795

William Jones,

Sgriptiau o addasiad teledu Gwenlyn Parry o nofel T. Rowland Hughes, William Jones, penodau 2, 5, 6 a 7; ynghyd ag amlinelliad o gynnwys y gyfres, a llungopi o fersiwn Saesneg o'r nofel, [1980x1985].

'Where the wind blows',

Cyfieithiad o'i nofel Anadl o'r uchelder (Abertawe, [1958]) nas cyhoeddwyd. Ei deitl gwreiddiol oedd 'Being and breath' ac awgrymwyd y teitl newydd gan gwmni cyhoeddi Victor Gollancz mewn llythyr yn 1963.

Wheels of Freedom,

Drafftiau nofel anghyhoeddedig gan Griffith Williams yn dwyn y teitl Wheels of Freedom, 1976, ynghyd ag adroddiad gan gwmni cyhoeddi yn esbonio'r penderfyniad i beidio â chyhoeddi'r gwaith. = Drafts of an unpublished novel by Griffith Williams entitled Wheels of Feedom, 1976, including a report by a publishing company explaining the decision not to publish the work.

Welsh Recorded Music Society,

Papurau’n ymwneud â’r gymdeithas hon, 1947-1951, gan gynnwys llythyrau, 1949-1950, y mwyafrif ohonynt at yr ysgrifennydd Gethin Pugh, Coleg Harlech, cofnodion, 1951 a rhaglen recordio ar gyfer 1948.

Welsh Recorded Music Society.

Watcyn Wyn

Nodiadau gan y Parch. W. Glasnant Jones ar Watcyn Wyn, [wedi 1905]x[1944], ynghyd â llythyrau at ei fab, Dr Iorwerth Hughes Jones, yn holi am ymchwil ei dad ar Watcyn Wyn, 1954.

Canlyniadau 161 i 180 o 3783