Fonds GB 0210 MSGWILEL - Llawysgrifau Gwilym Elian

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 MSGWILEL

Teitl

Llawysgrifau Gwilym Elian

Dyddiad(au)

  • 1856-1900 (Creation)

Lefel y disgrifiad

Fonds

Maint a chyfrwng

2 gyfrol.

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Roedd William Cosslett (Gwilym Elian, 1831-1904), yn swyddog glofa a bardd. Fe'i ganed yn Nantyceisiaid, Machen, sir Fynwy, yn fab i Walter Cosslett (m. 1879). Roedd ei frodyr Coslett Coslett (Carnelian), Thomas Coslett (Y Gwyliedydd Bach) a Cyrus Coslett (Talelian) hefyd yn feirdd. Priododd Mary Ann Thomas (m. 1896) ym 1855. Erbyn y 1850au roedd yn byw yn y Groeswen, ac yn ddiweddarach yn Hendredenny a Chaerffili, i gyd ym mhlwyf Eglwysilan (Eglwys Elian), Morgannwg. Gyda'i frawd Carnelian roedd yn aelod o'r cylch o feirdd 'Clic y Bont' ym Mhontypridd. Enillodd nifer o gadeiriau eisteddfodol ond ni chafodd lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu farw 22 Medi 1904 yng Nghaerffili.

Hanes archifol

Ar ôl ei farwolaeth daeth llawysgrifau Gwilym Elian i feddiant ei gyfaill y Parch C. Tawelfryn Thomas, Groeswen (gweler hefyd NLW MSS 9712-3).

Ffynhonnell

Mr Vaughan Roderick, gor-ŵyr i C. Tawelfryn Thomas; Treganna; Rhodd; Mawrth 2013.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Llyfrau nodiadau o waith William Cosslett (Gwilym Elian) yn cynnwys cerddi holograff, 1856-1900, ar amryw destunau. = Notebooks of William Cosslett (Gwilym Elian) containing holograph poems, 1856-1900, on various subjects.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

System o drefniant

Trefnwyd yn ôl rhifau cyfeirnod llawysgrifau LlGC: NLW MSS 24039-40A.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, ychydig o Saesneg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Ceir llawysgrifau eraill o waith Gwilym Elian yn NLW MSS 9712-3 (rhan o bapurau C. Tawelfryn Thomas) ac NLW MS 15451B (rhan o bapurau J. Penry Thomas).

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls006511716

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mai 2013.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Llundain, 1953); NLW, W.W. Price Biographical Index; Ancestry.com http://www.ancestry.com/ [gwelwyd 20 Mai 2013]; Joan N. Harding, 'Dau Frawd o Sir Fynwy', Barn, 212 (Medi 1980), tt. 261-3.

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd y disgrifiad gan Rhys Morgan Jones.

Ardal derbyn