Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [1980x2018] (Creation)
Lefel y disgrifiad
Ffeil
Maint a chyfrwng
1 amlen
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Llungopi o lythyr, 2 Mehefin 1943, oddi wrth yr ysgolhaig Cymreig Syr Thomas Parry at Gwladys Llewellyn, Rhosaeron, Clunderwen yn holi ar ran ei frawd, Gruffudd Parry, ynglŷn â phrynu torch ar gyfer angladd Linda Williams (née Llewellyn), gwraig Waldo Williams. 'Roedd Gruffudd Parry a Waldo yn gyd-athrawon yn Ysgol Ramadeg Botwnnog pan fu farw Linda o'r ddarfodedigaeth ar y cyntaf o Fehefin 1943.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
- Cymraeg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Ganed Linda Williams (née Llewellyn) ym 1912, yn ferch i beiriannydd yn un o byllau glo'r Maerdy yng Nghwm Rhondda. Cyfarfu Waldo a Linda yn Rhosaeron, Clunderwen, Sir Benfro, cartref teulu Waldo ar ochr ei dad, ac fe'u priodwyd ar y pedwerydd ar ddeg o Ebrill 1941 yng Nghapel y Bedyddwyr, Blaenconin. Wedi cwta ddwy flynedd o briodas, bu farw Linda o'r ddarfodedigaeth yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor ar y cyntaf o Fehefin 1943 a'i chladdu yn mynwent Blaenconin yn yr un bedd â rhieni Waldo (a lle'n ddiweddarach y rhoddwyd Waldo i orffwys).
Ganed yr ysgolhaig a'r beirniad llenyddol Thomas Parry yng Ngharmel, Arfon, yn frawd i'r llenor Gruffudd Parry ac yn gefnder i'r beirdd T. H. Parry-Williams ac R. Williams Parry, a'i addysgu yng Ngholeg Prifysgol Bangor. Wedi graddio, cafodd swydd fel darlithydd cynorthwyol mewn Cymraeg a Lladin yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Mynwy, Caerdydd, yna fel darlithydd yn Adran Gymraeg Coleg Prifysgol Bangor, lle cododd i fod yn Is-Brifathro'r coleg. Bu'n Bennaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth o 1953 hyd 1958 ac fe'i etholwyd yn Llywydd y sefydliad ym 1969. Cyhoeddodd ei gampwaith, Gwaith Dafydd ap Gwilym, ym 1952, ac, o ganlyniad, fe'i gwobrwywyd â DLitt Prifysgol Cymru. Fe'i etholwyd yn Gymrawd o'r Academi Brydeinig ym 1959, a'i urddo'n Farchog ym 1978.
Ganed y llenor Cymreig Gruffudd Parry yng Ngharmel, Arfon, yn frawd i'r ysgolhaig Syr Thomas Parry ac yn gefnder i'r beirdd T. H. Parry-Williams ac R. Williams Parry, a'i addysgu yng Ngholeg Prifysgol Bangor. Treuliodd dri-deg-saith o flynyddoedd fel athro Saesneg yn Ysgol Ramadeg Botwnnog, Llŷn. Ef a ysgrifennai sgriptiau'r 'Co Bach' (Richard Hughes) ar gyfer Nosweithiau Llawen y BBC. Ynghyd â'r bardd R. S. Thomas, 'roedd yn un o sefydlwyr cymdeithas Cyfeillion Llŷn.