Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1931-1979 / (Creation)
Lefel y disgrifiad
ffeil
Maint a chyfrwng
70 ff. Gardiwyd a ffeiliwyd yn LlGC.
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Roedd 'Anthropos', y Parch. Robert David Rowland ([1953]-1944), yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yn fardd ac yn llenor. Cafodd ei fagu yn Nhyn-y-cefn, ger Corwen, sir Feirionnydd. Dechreuodd bregethu yn 1873 a chofrestru yng Ngholeg y Bala yn 1874. Tra'r oedd yn y Bala bu'n athro yn yr ysgol leol a chyhoeddodd gyfrol o gerddi, Y Blodeuglwm (Bala, 1878). Symudodd i Gaernarfon lle bu'n newyddiadurwr, gan weithio ar Yr Herald Gymraeg, Amseroedd ac Y Genedl Gymreig, y bu'n olygydd arni o 1881 i 1884. Ordeiniwyd ef yn 1887, a chael ei alw yn weinidog Capel Beulah yng Nghaernarfon yn 1890, lle yr arhosodd tan ei ymddeoliad yn 1933. Parhaodd i ysgrifennu'n doreithiog, yn cyhoeddi cyfrolau o gasgliadau o gerddi, storiâu a thraethodau. Ymysg y pwysicaf ohonynt ceir Y Ffenestri Aur (Dinbych, 1907) a Y Pentref Gwyn (Wrecsam, 1909) lle rhydd atgofion am ei blentyndod. Bu hefyd yn olygydd Trysorfa'r Plant o 1912 i 1932 ac ysgrifennai i Baner, 1904-1914, yr Herald ac amryw o gyfnodolion eraill. Bu farw yng Nghaernarfon ar 12 Tachwedd 1944. Ymhlith ei gydnabod yr oedd Lewis William Lewis ('Llew Llwyfo', 1831-1901), bardd, newyddiadurwr, nofelydd a chanwr o Ben-sarn, sir Fôn, a weithiodd ar lawer o'r un cyfnodolion ag Anthropos.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Dr Dafydd Arthur Jones; Bangor; Rhodd; Mehefin 2002; 0200208378.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Oddeutu tri llythyr ar hugain, 1931-1934, oddi wrth y Parch. Robert David Rowland (Anthropos) at Helena Roberts (m. 1934), Porthmadog, awdur Dramau i Blant (Wrecsam, 1934) a cyfrannwr rheolaidd i Drysorfa'r Plant, a olygwyd gan Anthropos ar y pryd (ff. 1-58). = Some twenty-three letters, 1931-1934, in Welsh, from the Rev. Robert David Rowland (Anthropos) to Helena Roberts (d. 1934), Porthmadog, author of Dramau i Blant (Wrexham, 1934) and a regular contributor to Trysorfa'r Plant, then edited by Anthropos (ff. 1-58).
Mae nifer o'r llythyrau (ff. 3, 6, 29, 37-38, 47) yn cynnwys cerddi gan Anthropos. Ceir hefyd lythyr, 20 Rhagfyr 1934, oddi wrth Anthropos at Evelyn Roberts, chwaer Helena (ff. 60-61), ynghyd â gohebiaeth, 1979, rhwng Evelyn a'r Parch. John Roberts, Llanfwrog, mewn perthynas â pherfformiad yng Nghaernarfon o 'Y Gwr o'r Pentre Gwyn', pasiant yn seiliedig ar fywyd Anthropos (ff. 68-70). = Several of the letters (ff. 3, 6, 29, 37-38, 47) contain poetry by Anthropos. Also included is a letter, 20 December 1934, from Anthropos to Evelyn Roberts, Helena's sister (ff. 60-61), together with correspondence, 1979, between Evelyn and the Rev. John Roberts, Llanfwrog, relating to a performance in Caernarfon of 'Y Gwr o'r Pentre Gwyn', a pageant based on the life of Anthropos (ff. 68-70).
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Item: 1.1 Dogfennau Rhydd (NLW MS 23888D). Action: Adolygwyd y cyflwr. Action identifier: 4252619. Date: 20030207. Authorization: Detholwyd ar gyfer cadwraeth. Authorizing institution: LlGC. Action agent: J. Thomas. Status: Dogfennau Rhydd (NLW MS 23888D) : Gardio a ffeilio chwe deg naw dogfen laswysgrifol ac un llungopi a llythyr mewn du. Institution: WlAbNL.
Item: 1.2 Dogfennau Rhydd (NLW MS 23888D). Action: Gwnaed gwaith cadwraeth. Action identifier: 4252619. Date: 20031219. Authorizing institution: LlGC. Action agent: G. Edwards. Status: Dogfennau Rhydd (NLW MS 23888D) : Trwsiwyd deg dogfen, gardiwyd a ffeiliwyd dogfennau rhydd a’u llythrennu’n ddu. Institution: WlAbNL.
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.
Nodiadau
Preferred citation: NLW MS 23888D.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Anthropos, 1853?-1944 -- Correspondence. (Pwnc)
- Roberts, Helena -- Correspondence. (Pwnc)
- Roberts, Helena. (Pwnc)
- Roberts, Evelyn, of Porthmadog. (Pwnc)
- Roberts, John, 1910-1984 (Pwnc)
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Mawrth 2012.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd y disgrifiad gan Maredudd ap Huw, a'i adolygu gan Rhys Morgan Jones;