Diwrnod gwobrwyo Ysgol Sir Arberth
- 1/3/15
- File
- [1990x2018]
Part of Papurau Waldo Williams
Llungopi o doriad a gymerwyd o rifyn 27 Rhagfyr 1923 o'r Narberth, Whitland & Clynderwen Weekly News yn adrodd am ddiwrnod gwobrwyo Ysgol Sir Arberth, achlysur a oedd yn cyd-ddigwydd ag ymddeoliad y prifathro, John Morgan. Ceir cyfeiriadau at lwyddiannau academaidd Waldo Williams tra bu'n ddisgybl yn yr ysgol a hefyd at yr araith a draddododd er clod am John Morgan ar ddiwrnod y gwobrwyo. Fe ymddengys mai ysgrifen Albert Lewis (gweler Canmlwyddiant geni Waldo Williams dan bennawd Deunydd yn ymwneud รข Waldo Williams) a geir ar gefn yr eitem.