Papurau'r Parchedig Derwyn Morris Jones
- GB 0210 DEMOJO
- Fonds
Papurau'r Parchedig Derwyn Morris Jones (m. Ebrill 2021), yn cynnwys gohebiaeth a dyddiaduron.
Y Parchedig Derwyn Morris Jones
208 results with digital objects Show results with digital objects
Papurau'r Parchedig Derwyn Morris Jones
Papurau'r Parchedig Derwyn Morris Jones (m. Ebrill 2021), yn cynnwys gohebiaeth a dyddiaduron.
Y Parchedig Derwyn Morris Jones
Papurau'r Parchedig D. S. Owen = Reverend D. S. Owen Papers
Papurau'r Parchedig David Samuel Owen (1887-1959), gweinidog Capel Jewin, Llundain, yr eitemau'n cynnwys deunydd yn ymwneud á chyhoeddiadau, digwyddiadau a dathliadau yn hanes Capel Jewin ac o fewn y gymuned Fethodistaidd Galfinaidd/Bresbyteraidd ehangach yn bennaf yn Llundain a Chymru, = Papers of the Reverend David Samuel Owen (1887-1959), minister of Jewin Chapel, London, the items comprising material relating to publications, events and celebrations in the history of Jewin Chapel and within the wider Calvinistic Methodist/Presbyterian community mainly in London and Wales.
Owen, David Samuel, Reverend, 1887-1959
Papurau ychwanegol y Parchedig W J Griffiths yn cynnwys deunydd yn ymwneud â'r Parchedig Cornelius Griffiths (1829-1905), pregethau'r Parchedig W J Henderson, 1883-7, a phapurau'n ymwneud â'r Parchedig David Rees (1804-85)
Papurau'r grŵp pop Cymraeg 'Y Blew'/Papers of the Welsh pop group 'Y Blew'.
Papurau'r Blew, 1967-2001, y grŵp pop Cymraeg cyntaf, gan gynnwys llythyron yn ymwneud â'u perfformiadau, 1967-1969, copïau o gyfweliadau ag aelodau o'r grŵp, hanes sefydlu'r Blew, copïau o ffotograffau a deunydd hyrwyddo, rhai papurau ariannol, 1967-1968, a ffeil sylweddol, 1978-2001, ar y sylw mae'r Blew wedi ei gael ers chwalu.
Blew (Musical group)
Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers,
Mae'r casgliad yn cynnwys papurau sy'n adlewyrchu gwahanol weithgareddau'r Academi yn ogystal â gweithgaredd aelodau o staff cyflogedig a swyddogion gwirfoddol y gymdeithas. Mae'n adlewyrchu y trefniant cwbl wirfoddol oedd yn bodoli rhwng 1960 a 1977, cyfraniad staff cyflogedig yn y cyfnod ers derbyn nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru ym 1977, a'r ychwanegu a fu at weithgaredd y gymdeithas wrth greu Adran Saesneg ym 1968. Mae papurau'r Adran Gymraeg yn adlewyrchu'r cyfan o weithgaredd yr Academi hyd at sefydlu'r Adran Saesneg. O hynny ymlaen ymranna'n Adran Gymraeg, Adran Saesneg a Gweinyddiaeth Ganolog. Cynnwys ohebiaeth gyffredinol a phapurau gweinyddol cyffredinol megis cofnodion pwyllgorau, ymgyrchoedd aelodaeth, deunydd yn ymwneud â'i gwahanol gyhoeddiadau a'i amrywiol weithgareddau. Derbyniwyd 13 bocs mawr o gofysgrifau ym mis Gorffennaf 2013 a 2 focs mawr mis Hydref 2013. Nid yw'r papurau hyn wedi eu catalogio eto. = The collection consists of papers which reflect the various activities of the Academi as well as the activities of paid officials and voluntary members. They reflect the voluntary arrangement that existed between 1959 and 1977, the expansion of activities which followed the formation of the English Language Section in 1968 and the contribution made by paid staff in the period after the award of a Welsh Arts Council Grant in 1977. The papers of the Welsh Language Section reflect the whole activities of the Academi up to the formation of the English Language Section. From then on, the papers are split into those of the Central Administration, the Welsh Language Section and the English Language Section. The collection includes general correspondence, administrative papers such as committee minutes, membership details and material relating to various publications, events and activities. Thirteen large boxes of records were received July 2013 and a further 2 large boxes in October 2013. These groups remains uncatalogued.
Academi Gymreig
Papurau'n ymwneud â'r ymgyrch i sefydlu ysgol Gymraeg yng Nghaergybi. Rhoddwyd gan bwyllgor yr ymgyrch i sefydlu'r ysgol, trwy law'r Parchedig I. W. Gruffydd.
Papurau'n ymwneud ag Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Papurau, 1939-46, yn ymdrin ag Ysgol Gymraeg Aberystwyth a sefydlwyd yn 1939, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Syr Ifan ab Owen Edwards yn ymwneud yn bennaf â chynnal yr ysgol yn ariannol; cylchlythyrau a chofnodion cyfarfodydd llywodraethwyr yr ysgol, 1944-6; a llyfrynnau printiedig yn ymwneud â'r ysgol.
Edwards, Ifan ab Owen, 1895-1970
Papurau'n ymwneud â mordeithiau Urdd Gobaith Cymru.
Deunydd yn ymwneud â mordeithiau aelodau Urdd Gobaith Cymru i wahanol wledydd ar fwrdd y llong Orduña rhwng 1934 a 1939, gan gynnwys rhestr o'r teithwyr, teithlyfrau, traethodau llawysgrif ynglyn â'r mordeithiau, ffotograffau a phapurau amrywiol eraill, gan gynnwys llythyr, 1950, yn gresynu bod yr Ail Ryfel Byd wedi rhoi terfyn ar y mordeithiau.
Urdd Gobaith Cymru
Papurau'n ymwneud â John Murray Thomas, Patagonia
Llungopïau o bapurau'n ymwneud â John Murray Thomas (1847-1924) a ychwanegwyd at y rhai a roddwyd gan Olivia Hughes de Mulhall ym mis Medi 1975; yr oedd John Murray Thomas o Ferthyr Tudful yn wreiddiol ac ymfudodd i'r Wladfa ar y Mimosa gyda'r fintai gyntaf yn 1865. Casglwyd y papurau ynghyd gan Olivia Hughes de Mulhall, gwraig ei ŵyr, tra'n gweithio ar ei llyfr John Murray Thomas: pequeño hombre pero gran héroe para la historia de Chubut (Trelew, 1999), gydag adolygiadau, 2000, ohono. Ymhlith y papurau ceir rhannau o'i ddyddiaduron, 1877, 1878 ac 1893; ei gynllun o Gwm Hyfryd, 1885; ei ohebiaeth, 1888-1911, gan gynnwys deiseb a luniwyd ganddo, 1893, ynglŷn â hawliau tir; pedwar llythyr gwreiddiol at John Murray Thomas, 1895-1898, a chytundeb busnes gwreiddiol, 1893. Ceir papurau hefyd yn ymwneud â'i thad y bardd Morris ap Hughes, gan gynnwys enghreifftiau o'i farddoniaeth fel 'Cerdd ymson wrth feddrod Eluned [Morgan]' a 'Gwyl y Glaniad' mewn Sbaeneg; a chyfieithiadau o emynau adnabyddus Cymreig i'r Sbaeneg gan ei fab Osian Hughes, Eisteddfod Chubut 1988
Thomas, John Murray, 1847-1924
Papurau, 1950-1972, yn ymwneud â Chymrodorion Brighton, Hove a'r Cylch wedi eu crynhoi gan Mr Eldon Smith, yr ysgrifennydd yn ystod y 1950au a'r 1960au, gan gynnwys cylchlythyrau, rhaglenni, cardiau aelodaeth a phapurau perthynol eraill.
Brighton, Hove and District Cymrodorion
Papurau'n ymwneud â changen Gwent o Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymreig. Byrddau. Rhoddwyd gan y Parchedig J. S. Marcus Davies, Llanelli, Medi 1958.
Papurau'n eiddo i Miss Elizabeth Roberts, Nantiesin, Aberdyfi yn cynnwys nodiadau ar hanes lleol Aberdyfi, Huw Llwyd Cynfal, ac Arglwydd Corsygedol. (Gynt Bob Owen MS.) Rhwng byrddau. Prynwyd oddi wrth Bob Owen, Croesor, Tachwedd 1960.
Papurau'n dwyn y teitl 'Ardal Llangwnadl' a 'Crynhodeb o hanes y diweddar Barch. W. Williams, Pwllcrwn'. (Gynt Bob Owen MS.) Rhwng byrddau. Prynwyd oddi wrth Bob Owen, Croesor, Hydref 1959.
PapurauD. E[mrys] Lewis, Port Talbot, bardd coronog Eisteddfod Genedlaethol Castellnedd 1918, sy'n cynnwys drama anorffenedig ar gyfer plant a dwy gerdd. Rhwng byrddau. Rhoddwyd gan Dr Iorwerth Hughes Jones, Abertawe, Awst 1962. (Teipysgrifau.).
Papurau, cyfansoddiadau, etc yn ymwneud â Gwyl Lenyddol a Cherddorol Aberdaron. (Gynt Bob Owen MS.) Rhwng byrddau. Prynwyd oddi wrth Bob Owen, Croesor, Hydref 1959.
Papurau yn ymwneud â Richard Bennett
Deunydd, 1888-1969, yn ymwneud â Richard Bennett, Cwm Pennant, Llanbrynmair, sir Drefandwyn, yn cynnwys gwaith prydyddol, gohebiaeth, anerchiadau, llyfr nodiadau, a thorion o'r wasg.
Bennett, Richard, 1860-1937
Papurau yn ymwneud â chanmlwyddiant y Wladfa
Papurau a gasglwyd ynghyd gan y diweddar Miss Catherine (Katie) Richards ar ôl ymweliad â'r Ariannin i ddathlu canmlwyddiant y Wladfa ym 1965. Mae'r papurau yn cynnwys rhaglenni gweithgareddau dathlu, torion o'r wasg, rhestr o aelodau Undeb Cymry Ariannin, yn ogystal â rhai cardiau post a ffotograffau yn ymwneud â'r achlysur.
Papurau yn perthyn i neu'n ymwneud â'r Parchedig John Roberts (1781?-1853), gweinidog y Bedyddwyr ym Mhen-sarn (Sir Fôn), Fforddlas, a Llansilin. Rhwng byrddau. Rhoddwyd gan Miss Parry, Pontfadog, Wrecsam, Tachwedd 1963.
Papurau ychwanegol Mudiad Ysgolion Meithrin
Additional papers, 1971-96, of Mudiad Ysgolion Meithrin (the National Association of Welsh Medium Nursery Schools and Play-groups) (see Annual Report 1989-90, p 61)
Papurau ychwanegol Mudiad Ysgolion Meithrin o'r cyfnod 1971-96(gweler Adroddiad Blynyddol 1989-90, t 61). Ar wahân i'r deunyddiau printiedig a theipiedig trosglwyddwyd hefyd gasetiau, disgiau sain, a thapiau fideo i'r Casgliad Sain a Delweddau Symudol (cyfeirnodau casetiau CM 8145-7, 8150-60, tâp DAT: DT/93; disgiau sain, 45/1123-5, tapiau fideo VM 5649-50), a rhai ffotograffau i'r Adran Darluniau a Mapiau (rhifau derbyn: 199800115-17)
Papurau ychwanegol Huw Llewelyn Williams
Papurau ychwanegol yn ymwneud â'r Parchedig Huw Llewelyn Williams (1904-79), brawd y rhoddwraig, gan gynnwys llyfr lloffion, 1947-64 a heb ddyddiad, yn ymwneud yn bennaf ag ardal Blaenau Ffestiniog, ei rieni, a Chapel Maenofferen; torion o'r wasg, 1952-94, gydag adolygiadau o'i gyhoeddiadau a'r cofiant Gwas yr Achos Mawr (Dinbych, 1992) a luniwyd iddo gan ei fab Meirion Llewelyn Williams; taflen ei gyfarfod sefydlu yn Eglwysi y Fali a Rhoscolyn, 1952; cyfrol yn cynnwys taflenni angladd ei wraig Gaynor Williams ac yntau, 1979; torion o'r wasg o deyrngedau ac ysgrifau coffa iddynt, a ffotograffau teuluol; ynhgyd â Medal Gee a gyflwynwyd i'w mam Margaret Williams yng nghapel Maengwyn, Machynlleth, 1964
Williams, Huw Llewelyn, 1904-1979