Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1909-1975 / (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.029 metrau ciwbig (3 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Roedd 'Amanwy', sef David Rees Griffiths (1882-1953) o'r Betws, Rhydaman, sir Gaerfyrddin, yn fardd, yn awdur ac yn ddarlledwr. Cafodd ei eni yn y Betws ar 6 Tachwedd 1882, ac roedd yn frawd hŷn i James Griffiths (1897-1975), yr AS dros Lanelli ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Gadawodd yr ysgol yn 12 mlwydd oed, a bu'n gweithio ym Mhantyffynnon a gweithfeydd glo eraill yn ardal Rhydaman. Oherwydd salwch, gadawodd y gwaith glo yn 1927, a chymryd swydd gofalwr Ysgol y Sir yn Rhydaman. Yn 1907, wrth wella ar ôl damwain ddifrifol yn y pwll, dechreuodd ymddiddori mewn llenyddiaeth, yn enwedig gwaith John Milton a Thomas Hardy. Dechreuodd ysgrifennu a chystadlu mewn eisteddfodau lleol a'r genedlaethol, gan ennill i gyd tua 80 cadair a sawl coron. Bu hefyd yn feirniad eisteddfodol cyson. Cyfrannodd golofnau cyson i'r Amman Valley Chronicle a Y Cymro ac ysgrifennodd hefyd i adran Radio y BBC, a bu ef ei hun yn ddarlledwr. Tua'r flwyddyn 1950 ymddangosodd yn David, ffilm a seiliwyd ar ei fywyd. Cyhoeddwyd casgliad o waith Amanwy dan y teitl Ambell Gainc (Rhydaman, 1919), ac ef oedd golygydd O lwch y lofa (Rhydaman, 1924), sef casgliad o waith chwech o lowyr sir Gaerfyrddin. Cyhoeddwyd cyfrol bellach, Caneuon Amanwy (Llandysul, 1956) ar ôl ei farw. Roedd gan Amanwy bedwar o blant o'i ddwy briodas; Gwilym, Ieuan, Menna a Mallt. Bu farw yn Ysbyty Middlesex, Llundain, ar 27 Rhagfyr 1953 a'i gladdu yng Nghapel Gellimanwydd. Rhydaman.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Miss Menna Griffiths; Rhydaman; Rhodd; 1972
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau llenyddol Amanwy, yn cynnwys cerddi, caneuon a gweithiau mewn amryw ffurf, 1909-1953, yn enwedig pryddestau, 1909-1953, telynegion, 1910-1946, a sonedau, 1929-[1953]; rhyddiaith, 1924-1949, sy'n cynnwys darlithoedd, anerchiadau, storiâu byrion a nodiadau; sgriptiau radio,1942-1953; deunydd printiedig yn cynnwys emynau gan Amanwy a gweithiau ganddo ef ac eraill, 1919-1953; torion o'r wasg,1919-1945; a llythyrau,1950-1975. Gweler hefyd Trefniant = Literary papers of Amanwy, comprising poems, songs and other works of various forms, 1909-1953, notably pryddestau, 1909-1953, lyrics, 1910-1946, and sonnets, 1929-[1953]; prose works, 1924-1949, which include lectures, addresses, short stories and notes; radio scripts, 1942-1953; printed materials including hymns by Amanwy and works by him and others, 1919-1953; newspaper cuttings, 1919-1954; and letters, 1950-1975. See also Arrangement.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd fel a ganlyn: pryddestau; pryddestau; telynegion; sonedau, caneuon coffa; darnau adrodd; emynau a charolau; achlysuron arbennig; penillion i'r delyn a thribannau; baledi a dychan; llythyrau; ryddiaith; sgriptiau radio; deunydd printiedig, torion o'r wasg; ac amrywiol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, ambell eitem yn Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Mae copi caled o'r catalog, 'Papurau Amanwy', ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir mynediad i'r catalog ar lein.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Nodyn cyhoeddiad
Walters, Huw, Canu'r Pwll a'r Pulpud - Portread o'r Diwylliant Barddol Cymraeg yn Nyffryn Aman (Abertawe, 1987); Walters, Huw, 'Yng Nghwmni'r Cerddetwr', yn Hywel Teifi Edwards (gol.), Cwm Aman(Llandysul, 1996), tt. 131-172.
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Project identifier
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Medi 2003.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau Amanwy; Gomer M. Roberts Caneuon Amanwy (Llandysul, 1956); Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 (Llundain, 2001);