Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1858-1996 (crynhowyd 1924-1996) (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.085 metrau ciwbig (5 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Yr oedd Robert William Jones ('Erfyl Fychan', 1899-1968) yn hanesydd, llenor, athro ac eisteddfotwr.
Fe'i ganwyd ar 1 Ionawr 1899, yn fab i Robert William Jones a'i wraig Jane ym Mhenygroes, Sir Gaernarfon. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir Penygroes. Bu'n gweithio fel clerc mewn siop yn Lerpwl yn 1916 a gwasanaethodd yn y ddau Ryfel Byd. Wedi gadael y fyddin ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf bu'n dilyn cwrs hyfforddi athrawon yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Dysgodd am ddwy flynedd yn Birmingham ac yn 1922 fe'i penodwyd yn brifathro ar Ysgol Trisant, Ceredigion, ac yn 1924 fe'i penodwyd yn brifathro Ysgol Llanerfyl. Bu'n cynnal dosbarthiadau nos ar hanes a llenyddiaeth Cymru am dros ddeng mlynedd ar hugain.
Yn 1928 derbyniodd ysgoloriaeth a roddodd y cyfle iddo astudio bywyd cymdeithasol Cymru yn y ddeunawfed ganrif gyda T. Gwynn Jones yn arolygwr iddo yn y Brifysgol yn Aberystwyth. Yn 1931 cyhoeddwyd y gwaith fel llyfr Bywyd Cymdeithasol Cymru yn y 18fed Ganrif ac ysgrifennwyd y rhagair gan T. Gwynn Jones. Enillodd ysgoloriaeth Owen-Templeman yn 1931 a bu'n astudio ym Mhrifysgol Lerpwl o dan J. Glyn Davies, ac yn 1939 dyfarnwyd MA iddo am ei draethawd 'The Wayside Entertainer in Wales in the Nineteenth Century'. Yn yr un flwyddyn fe'i penodwyd yn brifathro ar Ysgol Berriew Road yn Y Trallwng a bu yn y swydd honno nes iddo ymddeol yn 1961. Yn 1944 cafodd ei ethol yn Gymrawd o'r Royal Historical Society.
Enillodd y wobr gyntaf am ganu Cerdd Dant yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1926 a daeth yn aelod o'r Orsedd yn yr un flwyddyn. Ef a sefydlodd Gymdeithas Cerdd Dant yn Y Bala yn 1934 a bu'n gyfrifol am drefnu sawl Ysgol Haf rhwng 1936 a 1939. Bu'n ysgrifennydd y Gymdeithas tan 1949 pan gafodd ei ethol yn Gofiadur yr Orsedd. Bu'n Arwyddfardd yr Orsedd hefyd ac yn 1960 fe'i penodwyd yn Drefnydd yr Arholiadau. Cafodd ei ddewis yn Dderwydd Gweinyddol Gorsedd Powys yn 1958. Cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth Rhigwm i'r Hogiau (Dinbych, 1949).
Cyfrannodd sawl rhaglen i wasanaeth ysgolion y BBC yng Nghymru a sawl erthygl i Allwedd y Tannau, Y Ford Gron, Powysland Collections a Journal of the Gypsy Lore Society.
Priododd Gwendolen (Gwenno) Jones yn 1929 a ganwyd dau fab iddynt, Geraint James Vaughan-Jones ac Elidir ap Robert Jones. Bu farw ym Mynytho ar 7 Ionawr 1968 ac fe'i claddwyd ym Mhenygroes.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Adneuwyd y grŵp cyntaf o bapurau Erfyl Fychan ym mis Ebrill 1965, ynghyd â chofnodion plwyfol Llanerfyl ym mis Chwefror 1966. Ym mis Mehefin 2001 derbyniwyd papurau ychwanegol Erfyl Fychan fel rhodd gan ei fab y Parchedig Ganon Geraint Vaughan-Jones. Cytunodd hefyd i drosi'n rhodd y papurau a roddwyd ar adnau i'r Llyfrgell gan ei dad. Derbyniwyd pedair cyfrol ychwanegol ym mis Medi 2003 trwy law Marian Delyth yn rhan o gymynrodd o lyfrau y diweddar Barchedig Ganon Geraint Vaughan-Jones.; A2001/34, 0200310931
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau Erfyl Fychan, 1858-1996, gan gynnwys llythyrau a anfonwyd ato, rhai oddi wrth ei gyd-aelodau yn yr Orsedd, copi o'i draethawd MA, 1939, sgriptiau radio, llyfr 'testimonials' John Roberts ('Telynor Cymru') a chyfrolau eraill yn cynnwys adysgrifau a ddaeth i'w feddiant, ynghyd â phapurau ei fab Geraint Vaughan-Jones.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd y papurau i gyd..
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd ar sail profiant yn LlGC yn bum cyfres: gohebiaeth gyffredinol, traethawd MA, Yr Eisteddfod Genedlaethol, 'Telynor Cymru', llyfrau nodiadau ac adysgrifau; ynghyd â phum ffeil: sgriptiau radio, Efrydiau Allanol, 'Hen faledau 1780-1890', deunydd printiedig a thorion o'r wasg.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg a Saesneg oni noder yn wahanol
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r rhestr hon yn LlGC.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Mae dyddiad olaf y creu yn ddiweddarach nag oes Erfyl Fychan oherwydd ceir papurau ei fab Geraint Vaughan-Jones hefyd. Crewyd y teitlau ar sail cynnwys y papurau. Rhoddwyd y teitlau gwreiddiol mewn dyfynodau.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Gorffennaf 2004
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd y rhestr gan Ann Francis Evans.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: The Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 (Llundain, 2001); Y Bywgraffiadur Cymreig, 1951-1970 (Llundain, 1997); Geraint a Zonia Bowen, Hanes Gorsedd y Beirdd ([Felindre, Abertawe], 1991); ac eitemau yn yr archif.