fonds GB 0210 GWILBOW - Papurau Gwilym Bowyer,

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 GWILBOW

Teitl

Papurau Gwilym Bowyer,

Dyddiad(au)

  • 1901-1967 / (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.14 metrau ciwbig (14 bocs)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Yr oedd Gwilym Bowyer (1906-1965) yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn brifathro coleg. Yr oedd yn frodor o Bonciau. Rhosllannerchrugog a chafodd ei addysg gynnar yn Ysgol y Cyngor, Ponciau. Gweithiodd yn gyntaf mewn siop groser lleol cyn mynd i Goleg Bala-Bangor yn 1928 lle graddiodd mewn athroniaeth yn 1932 a derbyn gradd BD yn 1938. Cafodd ei ordeinio yn 1935 a bu'n weinidog yn Llundain a Bangor cyn cymryd swydd Prifathro Coleg Bala-Bangor yn 1946. Bu yma tan ei farwolaeth annhymig yn 1965. Cyhoeddodd dau bamffled a thua phump ar hugain o erthyglau, pregethau ac adolygiadau. Yr oedd yn bregethwr a darlledwr nodedig, yn heddychwr ac yn ddadleuwr cryf dros addysg Gymraeg.

Hanes archifol

Bu'r papurau ym meddiant y teulu wedi marwolaeth Gwilym Bowyer yn 1965.

Ffynhonnell

Mr Gwynn Bowyer, Mrs Ann Owen a Mrs Mair Gibbard; Caerfyrddin; Rhodd; Ionawr a Mai 2000

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Mae'r archif yn cynnwys papurau, 1924-1966, yn deillio o waith Gwilym Bowyer fel gweinidog, yn eu plith papurau'n ymwneud ag Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, 1924-1963, gohebiaeth a phapurau,1937-1966, ynghylch Coleg Bala-Bangor; papurau c. 1938-1965, yn ymwneud â darlledu ac ysgrifau gan Gwilym Bowyer; papurau personol c. 1921-1966 yn cynnwys dyddiaduron yn cofnodi apwyntiadau,1928-1966, a gohebiaeth, c. 1932-1965; deunydd printiedig,1901-1965; a phapurau amrywiol, c. 1940-1967. = The archive includes papers, 1924-1966, deriving from Gwilym Bowyer's work as a minister, among them papers relating to the Union of Welsh Independents, 1924-1963; correspondence and papers, 1937-1966, concerning Bala-Bangor College; papers, c. 1938-1965, relating to broadcasts and writings by Gwilym Bowyer; personal papers, c. 1921-1966, including appointment diaries, 1928-1966, and correspondence, c. 1932-1965; printed materials, 1901-1965; and miscellaneous papers, c. 1940-1967.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl bapurau a gyflwynwyd i LlGC.

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd fel a ganlyn: papurau'n ymwneud â gwaith Gwilym Bowyer fel gweinidog; papurau'n ymwneud â Choleg Bala Bangor; papurau'n deillio o'i waith fel darlledwr ac awdur; papurau personol; deunydd printiedig; a phapurau amrywiol.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Mân Restri a Chrynodebau 2000, tt. 2-3, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir mynediad i'r catalog ar lein.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Llun o fyfyrwyr Coleg Bala-Bangor yn Adran Darluniau a Mapiau (MC/03).

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004169906

GEAC system control number

(WlAbNL)0000169906

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad pwnc

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Agraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mai 2006.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan J. Graham Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 2000; Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 (Llundain, 2001), t. 16;

Ardal derbyn

Pynciau cysylltiedig

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: Papurau Gwilym Bowyer.