Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [1874], 1917-2003 / (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.425 metrau ciwbig (24 bocs); 1 bocs bychan (Tachwedd 2007)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Yr oedd Norah Isaac (1914-2003) yn awdur, cynhyrchydd dramâu a Phrifathrawes gyntaf yr Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth yn 1939.
Fe'i ganwyd ar 3 Rhagfyr 1914 a'i magu yn 71 Heol Treharne yn y Caerau, Maesteg, yn ferch i David Isaac a'i wraig Margaret (née Jones). Yr oedd ei gwreiddiau'n ddwfn yn ardal Drefach Felindre, Sir Gaerfyrddin. Mynychodd Ysgol Gynradd Blaenllyfni ac enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Ramadeg Maesteg yn 1924 lle bu'n Brif Ferch. Fe'i hyfforddwyd fel athrawes yng Ngholeg Y Barri gan orffen ei chwrs yn 1935. Ei swydd gyntaf oedd Trefnydd Ymarfer Corff Urdd Gobaith Cymru, 1935-1938, yn Siroedd Morgannwg a Mynwy. Bu'n gweithio ym Mhencadlys yr Urdd yn Aberystwyth, 1938-1939, gan weithio'n bennaf ar Cymru'r Plant. Fe'i penodwyd yn Brifathrawes gyntaf Ysgol Gymraeg Aberystwyth a agorwyd 25 Medi 1939 gyda saith o blant yn ei gofal a bu yn y swydd tan ddiwedd 1949 gyda phedwar ugain o blant ar y gofrestr. Bu'n darlithio yn ei hen goleg yn Y Barri, 1950-1958, ac yna fe'i penodwyd yn Brif Ddarlithydd Cymraeg a Drama yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Norah Isaac sefydlodd yr Adran Ddrama Gymraeg gyntaf erioed mewn Coleg yng Nghymru.
Bu'n adroddwraig frwd mewn eisteddfodau a bu'n actio rhan 'Puck' yn A Midsummer Night's Dream. Yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pwl 1924 cafodd y wobr gyntaf am adrodd 'Y Gwynt' gan J. J. Hughes a bu hefyd yn adrodd ar lwyfan Hammersmith Palace, Llundain. Cafodd llun ohoni 'the brilliant child elocutionist' ei gynnwys yn y News Chronicle. Cyfrannodd nifer o sgriptiau radio i'r BBC ar hyd y blynyddoedd. Pan gynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin yn 1974 hi oedd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith. Yn 1988 hi oedd y ferch gyntaf i'w dyrchafu yn Gymrawd o'r Eisteddfod Genedlaethol ac yn 1991 fe'i gwnaed yn Gymrawd Anrhydeddus yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Yn 1995 derbyniodd radd Doethur Er Anrhydedd Prifysgol Cymru. Dyfarnwyd Medal y Cymmrodorion iddi yn 2003, ond bu farw cyn ei derbyn. Cyflwynwyd y bathodyn i ofal tref Caerfyrddin mewn seremoni arbennig er cof amdani yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, 30 Tachwedd 2003.
Bu Norah Isaac farw 3 Awst 2003 a chynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yn Amlosgfa Margam, 11 Awst, a chladdwyd ei gweddillion ym medd ei rhieni ym mynwent Llangynwyd. Cynhaliwyd rhaglen deyrnged 'Llwybrau' iddi dan ofal Cefin Roberts yn y Babell Lên, 2 Awst 2004, yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Rhodd gan Miss Norah Isaac, Caerfyrddin, Awst a Rhagfyr 1996, Rhagfyr 1998, a gan Mr Dewi James, Llandysul, Awst a Hydref 2003. Daeth grŵp arall trwy law Dr R. Brinley Jones, Llanwrda, Tachwedd 2007.; A1996/106, A1996/167, A1998/154, 0200309660, 0200311627
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau Norah Isaac, [1874], 1927-2003, gan gynnwys gohebiaeth, sgriptiau llwyfan, sgriptiau radio a theledu, cyfansoddiadau, beirniadaethau, darlithiau ac anerchiadau, a dyddiaduron; ynghyd â phapurau personol a theuluol. Ymhlith y papurau hyn ceir deunydd yn ymwneud â'r Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth. = Papers of Norah Isaac, [1874], 1927-2003, including correspondence, stage scripts, radio and television scripts, compositions, adjudications, lectures and addresses, and diaries; together with personal and family papers. Material relating to the Welsh School in Aberystwyth is included among these papers.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Gwaredwyd copïau dyblyg o sgriptiau a hefyd cylchlythyrau a anfonwyd at Norah Isaac fel aelod o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, 1998-1999. Mae awdurdod i ddinistrio'r papurau hyn yn Ffurflen Werthuso Adrannol AFE/2004-05/4..
Croniadau
Mae ychwanegiadau yn annhebygol.
System o drefniant
Trefnwyd yn ôl grwpiau derbyn i dri grŵp : Rhoddion 1996, Rhodd 1998 a Rhodd 2003, a mathau o ddeunydd o fewn y grwpiau hynny. Nid yw grŵp Tachwedd 2007 wedi ei gatalogio.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg oni nodir yn wahanol. Gweler disgrifiadau lefel ffeil.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Mae'r dyddiad creu cynharaf yn gynt na blwyddyn geni Norah Isaac oherwydd ceir hefyd bapurau a grynhowyd ganddi. Crewyd y teitlau ar sail cynnwys y papurau. Rhoddwyd y teitlau gwreiddiol mewn dyfynodau.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Isaac, Norah -- Archives. (Pwnc)
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Hydref 2004 ac Awst 2012.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd y rhestr gan Ann Francis Evans.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Hywel Teifi Edwards (golygydd), Llynfi ac Afan, Garw ac Ogwr (Cyfres y Cymoedd, Llandysul, 1998); Dafydd Ifans (golygydd), Dathlwn Glod. Ysgol Gymraeg Aberystwyth 1939-1989 (Aberystwyth, 1989); Thomas H. Davies, Pwy yw pwy yng Nghymru (Lerpwl a Llanddewi Brefi, 1981); 'Colli Norah' gan Peter Hughes Griffiths yng nghylchgrawn Carmarthenshire Life, Hydref 2003; Rhaglen Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd a'r Cylch 2004; cyflwyniad yr Athro Derec Llwyd Morgan i anrhydeddu Norah Isaac gyda Medal y Cymmrodorion yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, cyfrol 10, 2004; ac eitemau yn yr archif.