fonds GB 0210 ALUIES - Papurau Syr Alun Talfan Davies,

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 ALUIES

Teitl

Papurau Syr Alun Talfan Davies,

Dyddiad(au)

  • 1938-1999 / (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.335 metrau ciwbig (22 bocs)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Yr oedd Syr Alun Talfan Davies (1913-2000) yn fargyfreithiwr, barnwr a chyhoeddwr. Fe'i ganwyd yng Ngorseinon, Abertawe, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Bro Gŵyr, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, a Choleg Gonville a Caius, Caergrawnt. Fe'i galwyd at y Bar yn Gray's Inn yn 1939 ac i'r Fainc yn 1969 ac enillodd enw iddo'i hun fel arbenigwr mewn achosion diwydiannol. Safodd fel ymgeisydd mewn sawl etholiad, fel ymgeisydd Annibynnol yn isetholiad Prifysgol Cymru yn 1943, ac fel Rhyddfrydwr yn sir Gaerfyrddin, 1959 a 1964, a Dinbych yn 1966. Bu'n Gofiadur Merthyr Tudful, 1963-1968, Abertawe,1968-1969, Caerdydd, 1969-1971, a Llys y Goron,1972-1985, ac yr oedd hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd Sesiwn Chwarter Sir Aberteifi, 1963-1971. Gwasanaethodd hefyd fel Cadeirydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1977-1980, ac yr oedd yn aelod o Lys Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Yr oedd yn gyfarwyddwr cwmni HTV, 1967-1983, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Cronfa Trychineb Aberfan, 1969-1988, a chadeirydd Banc Brenhinol Cymru o1991. Gyda'i frawd hyn Aneirin (1909-1980) sefydlodd Gwasg y Dryw, Llandybïe,a chyfrannodd yn sylweddol at waith y wasg honno, gan gyhoeddi cyfrolau llenyddol pwysig yn y Gymraeg. Wedi hynny daeth ei fab Christopher yn berchennog ar y cwmni. Priododd Eiluned Christopher Williams yn 1942 a chawsant un mab a thair merch. Fe'i hurddwyd yn farchog yn Ionawr 1976. Bu farw ym Mhenarth, Bro Morgannwg, ar 11Tachwedd 2000.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Talfan Davies,; Rhodd,; 1972, 1993, 1999 a 2000

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Gohebiaeth a phapurau eraill yn ymwneud â Llyfrau'r Dryw/Cristopher Davies (Cyhoeddwyr) Cyf, Landybïe, 1938-1972, yn cynnwys llythyrau at, ac oddi wrth lawer o lenorion pennaf Cymru; gohebiaeth yn ymwneud ag amrywiaeth o bynciau a sefydliadau gan gynnwys y diwydiant cyhoeddi, yr Eisteddfod Genedlaethol, y Blaid Ryddfrydol, y Swyddfa Gymreig, Prifysgol Cymru, y BBC a HTV, Urdd Gobaith Cymru, Cronfa Trychineb Aberfan a Banc Brenhinol Cymru, 1943-1999; papurau cyfreithiol, 1964-1972; memoranda a chylchlythyrau, 1941-1986; a ffeiliau amrywiol yn cynnwys papurau personol, darlithoedd, torion papur newydd, ffotograffau a deunydd printiedig,1938-1987 = Correspondence and other papers concerning Llyfrau'r Dryw/Christopher Davies (Publishers) Ltd, Llandybïe, 1938-1972, including letters to and from many significant Welsh literary figures; correspondence concerning a variety of subjects and institutions including the publishing industry, the National Eisteddfod, the Liberal Party, the Welsh Office, the University of Wales, the BBC and HTV, Urdd Gobaith Cymru, the Aberfan Disaster Fund and the Royal Bank of Wales, 1943-1999; legal papers, 1964-1972; memoranda and circulars, 1941-1986; and miscellaneous files including personal papers, lectures, newspaper cuttings, photographs and printed matter, 1938-1987.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl gofnodion..

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd fel a ganlyn: papurau llenyddol, papurau cyfreithiol, a ffeiliau wedi'u trefnu yn ôl pwnc (rhodd 1998); gohebiaeth, gohebiaeth gyffredinol, a ffeiliau amrywiol (rhodd 1999); memoranda a chylchlythyrau, papurau cyfreithiol, amrywiol, a deunydd printiedig (rhodd 1993); a gohebiaeth gyffredinol, ac amrywiol (rhodd 2000).

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog (ac eithrio rhoddion 1999 a 2000) ar gael ar lein.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Mae llawysgrif, rhan o rodd 1993, yn awr yn NLW MS 23181C.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Catalogiwyd rhodd 1993 yn LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1994, tt. 10-12 yn wreiddiol.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls003844085

Project identifier

ANW

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mai 2003.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau Syr Alun Talfan Davies; LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1994; LlGC, Mynegai i Ysgrifau Coffau Cymreig (2000).

Ardal derbyn