Ffeil / File YH/1 - Papurau'r Parchedig T. (Thomas) Elfyn Jones

Identity area

Reference code

YH/1

Title

Papurau'r Parchedig T. (Thomas) Elfyn Jones

Date(s)

  • 1937-2012 (Creation)

Level of description

Ffeil / File

Extent and medium

1 ffolder

Context area

Name of creator

(1951-)

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Content and structure area

Scope and content

Papurau'r Parchedig T. (Thomas) Elfyn Jones, tad Menna Elfyn, yn cynnwys: llyfryn a argraffwyd ar gyfer Cyfarfodydd Ordeinio T. Elfyn Jones yn weinidog ar gapeli Annibynnol Llanboidy a Rhydyceisiaid, Mai 5 & 6 1937; cerdyn post, 8 Mawrth 1949, oddi wrth y Parchedig T. Elfyn Jones o Ficerdy Christ Church, Caerwynt (Winchester) at Mr & Mrs B. Stephens, Llysderi, Tymbl Uchaf, ger Llanelli; llyfryn a argraffwyd ar gyfer Cyfarfodydd Sefydlu'r Parchedig T. Elfyn Jones yng Nghapel Annibynnol y Tabernacl, Pontardawe, 6 Hydref 1949; copi o erthygl ysgrifennwyd gan T. Elfyn Jones i'r Tyst, cylchgrawn Undeb yr Annibynnwyr a'r capeli Annibynol (rhifyn 19 Ebrill 1973); llyfrau nodiadau yn cynnwys lloffion o erthyglau argraffedig, 1981, 1986, 1988-1997, a gyfrannodd y Parchedig T. Elfyn Jones i'r Tyst (arnodiadau yn llaw T. Elfyn Jones), ynghyd ag un erthygl yn llaw T. Elfyn Jones; erthygl o rifyn Tachwedd 2005 o Papur y Cwm, papur bro Cwm Gwendraeth, yn adrodd hanes lansio Seinio Clod (Gwasg Morgannwg, 2005), cyfrol o emynau'r Parchedig T. Elfyn Jones (gweler nodyn bywgraffyddol T. Elfyn Jones ym mhrif weithlen y rhan hon o'r archif); taflen wasanaeth angladdol y Parchedig T. Elfyn Jones, 15 Hydref 2008; llythyrau, ebyst a cherdyn cydymdeimlad a anfonwyd at Menna Elfyn ar achlysur marwolaeth ei thad, y Parchedig T. Elfyn Jones, y gohebwyr yn cynnwys y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor (mab y gwleidydd, cyfreithiwr ac awdur Gwynfor Evans), John Roberts (Radio Cymru), Dr Medwin Hughes (Prifathro Coleg y Drindod, Caerfyrddin), y bardd a'r llenor Nigel Jenkins, yr awdur a'r cynghorydd tref Peter Hughes Griffiths a'r academydd, hanesydd, darlledydd ac awdur Hywel Teifi Edwards; ysgrif goffa i'r Parchedig T. Elfyn Jones gan Alun Lenny a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Barn, Tachwedd 2008; llyfrynnau a argraffwyd ar gyfer Oedfaon Teyrnged i'r Parchedig T. Elfyn Jones yng Nghapel y Tabernacl, Pontardawe, 23 Tachwedd [2008] (y daflen yn cynnwys detholiad o gerdd yn dwyn y teitl 'Nhad gan Menna Elfyn, un o'r cerddi a ymddangosodd yn ei chasgliad 'Stafelloedd Aros (Gwasg Gomer, 1978)), ac yng Nghapel Seion, Drefach, 22 Chwefror 2009; teyrnged (teipysgrif) i'r Parchedig T. Elfyn Jones gan y Parchedig Wilbur Lloyd Roberts (gweler hefyd lyfryn yr Oedfa Deyrnged i'r Parchedig T. Elfyn Jones); taflen argraffedig ar gyfer gwasanaeth i ddathlu bywyd y Parchedig T. Elfyn Jones, 30 Tachwedd [2008]; a llyfryn a argraffwyd ar gyfer Oedfa o Fawl i'r Parchedig T. Elfyn Jones a J. Rhyddid Williams yng Nghapel Seion, Drefach, 23 Medi 2012.

Appraisal, destruction and scheduling

Accruals

System of arrangement

Disgrifiad yn ôl trefn gronolegol y deunydd, o'r eitem gynharaf i'r un diweddaraf. Dim trefn benodol ar y deunydd ei hun o fewn y ffolder.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Conditions governing reproduction

Language of material

  • Welsh

Script of material

Language and script notes

Y rhan helaethaf o'r deunydd yng Nghymraeg, gyda pheth Saesneg.

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Related descriptions

Notes area

Note

Mae Peter Hughes Griffiths yn un o gynghorwyr tref Caerfyrddin ac yn un o sefydlwyr Cwlwm, papur bro Caerfyrddin a'r cylch. Mae'n awdur, a bu'n gyfrannwr cyson i raglenni teledu megis Noson Lawen a Dros Ben Llestri (https://www.ylolfa.com/awduron/400/peter-hughes-griffiths; https://democracy.carmarthenshire.gov.wales/mgUserInfo.aspx?UID=161).

Note

Note

Mae Alun Lenny yn newyddiadurwr, yn awdur ac yn un o gynghorwyr tref Caerfyrddin (https://www.ylolfa.com/awduron/1049/alun-lenny; https://democracy.carmarthenshire.gov.wales/mgUserInfo.aspx?UID=177).

Note

Mae'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, mab y gwleidydd, cyfreithiwr a'r awdur Gwynfor Evans, yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn awdur (https://www.ylolfa.com/authors/1157/guto-prys-ap-gwynfor).

Note

Bu John Roberts yn weinidog am ddeuddeg mlynedd cyn mynd yn gynhyrchydd rhaglenni crefydd ac yna yn is-olygydd BBC Radio Cymru; mae hefyd yn awdur (https://www.ylolfa.com/awduron/841/john-roberts).

Note

'Roedd Dr Medwin Hughes yn Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru o 2011 hyd at Awst 2023. Cyn hynny, bu'n Brifathro Coleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin ac yn Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, Llanbedr-Pont-Steffan (https://en.wikipedia.org/wiki/Medwin_Hughes).

Note

Ganed y bardd, llenor, golygydd, gohebydd, seicoddaearyddwr a'r darlledydd Eingl-Gymreig Nigel Jenkins yng Ngorseinon, Abertawe. Bu'n ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Abertawe ac yn Gyfarwyddwr y cwrs Ysgrifennu Creadigol yno (https://en.wikipedia.org/wiki/Nigel_Jenkins).

Note

'Roedd Hywel Teifi Edwards yn academydd, yn hanesydd, yn genedlaetholwr nodedig, yn ddarlledydd ac yn awdur (https://en.wikipedia.org/wiki/Hywel_Teifi_Edwards).

Alternative identifier(s)

Access points

Place access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Rules and/or conventions used

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Language(s)

Script(s)

Sources

Accession area