Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [1908]-[2017] (Creation)
Lefel y disgrifiad
Is-fonds
Maint a chyfrwng
7 bocs
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ganwyd Alun Marles Eirug Davies yn 1932 yn Llanbedr Pont Steffan, y chweched o wyth o blant y Parch T. Eirug Davies a’i wraig Jennie. Mynychodd Ysgol Sir Tregaron. Graddiodd mewn hanes o Brifysgol Aberystwyth yn 1954. Enillodd ddiploma mewn llyfrgellyddiaeth ym Mhrifysgol Llundain yn 1960. Yr oedd yn Ddirprwy Lyfrgellydd yn Llyfrgell y Brifysgol yn Aberystwyth gan ymddeol yn 1997 ar ôl 36 mlynedd o wasanaeth.
Priododd Lyn [Eluned] Jones ar 28 Mawrth 1966. Ganwyd dau fab iddynt. Golygodd nifer o lyfrau yn cynnwys gweithiau ei Dad. Cyhoeddwyd Traethodau ymchwil Cymraeg a Chymreig a dderbyniwyd gan Brifysgolion Prydeinig, Americanaidd ac Almaenaidd, 1887-1971 (Caerdydd, 1976) sef rhestr a gasglwyd ganddo. Ef hefyd oedd awdur y gyfrol Papermaking in Wales 1658 - 2000 (Aberystwyth, 2010). Bu Alun Eirug Davies farw ar 21 mis Awst 2019 wedi cystudd byr.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau ymchwil Alun Eirug Davies, [1911]-[2017], yn ymwneud â’i gyhoeddiadau a pharatoi llyfrau am ei Dad y Parch. T. Eirug Davies, bardd a golygydd, ynghyd â phapurau ei Dad.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Trefnwyd yn bum cyfres.