Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- [1986] (Creation)
Level of description
File
Extent and medium
1 amlen
Context area
Name of creator
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Content and structure area
Scope and content
Rhaglen brintiedig ar gyfer y ddrama Waldo's Witness gan y bardd a'r llenor Nigel Jenkins a lwyfanwyd gan Gwmni Theatr Coracle.
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Conditions governing reproduction
Language of material
- English
Script of material
Language and script notes
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Ganed y bardd a'r llenor Eingl-Gymraeg Nigel Leighton Rowland Jenkins yng Ngorseinon, Abertawe a'i fagu ym Mhenrhyn Gŵyr. Fe'i addysgwyd ym Mhrifysgol Essex, lle'r astudiodd llenyddiaeth gymharol a ffilm. Gweithiodd am gyfnod fel newyddiadurwr a theithiodd yn eang drwy Ewrop, Affrica a'r Unol Daleithiau. Erbyn iddo ddod i'r amlwg fel bardd gyda chyhoeddiad Three Young Poets ym 1974, sef blodeugerdd o weithiau gan Jenkins, Tony Curtis a Duncan Bush, 'roedd eisioes wedi'i wobrwyo â Gwobr Beirdd Ifanc Cyngor y Celfyddydau. Tra'r ysbrydolwyd y rhan helaeth o'i fynych weithiau barddonol a rhyddieithol gan fro ei febyd yn Abertawe a Gŵyr, ffrwyth ei arhosiad mewn mannau mwy pellennig o'r byd oedd y cyfrolau teithio Gwalia in Khasia (1995), a ennillodd Lyfr y Flwyddyn 1996, a Footsore on the Frontier (2001). Bwriadodd Jenkins i'w farddoniaeth, a oedd yn aml yn ddadleuol ddi-flewyn-ar-dafod, ysbrydoli yn ogystal â chondemnio a chyfeirio bys. 'Roedd ei bresenoldeb carismatig a'i berfformiadau o'r galon yn sicrhau ei boblogrwydd fel arweinydd gweithdai a thrafodaethau cyhoeddus yn ogystal ag fel darlithydd o fewn rhaglen Ysgrifennu Creadigol a Chyfryngol Prifysgol Abertawe. Bu'n ymgyrchu ar hyd ei fywyd dros hawliau ac anghyfiawnderau gwleidyddol a chymdeithasol ac 'roedd hefyd yn weithredol o fewn y mudiad heddwch - treuliodd gyfnod yng Ngharchar Abertawe am wrthod talu dirwy a ddyfarnwyd iddo tra'n gwrthdystio yn erbyn y gwersyll milwrol ym Mreudeth - ac o fewn mudiadau gwerinol megis y Swansea Writers and Artists Group (a sefydlwyd gan Jenkins) a'r Welsh Union of Writers. Mynegodd ei hoffter o gerddoriaeth gwerin a'r felan trwy berfformio barddoniaeth i gyfeiliant cerddorol gyda'r Salubrious Rhythm Company. Astudiodd y ffurf farddonol Siapanëaidd a elwir haiku, a bu'n gyfrifol am y gyfrol gyntaf o farddoniaeth haiku i'w chyhoeddi yng Nghymru.
Alternative identifier(s)
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
- Jenkins, Nigel, 1949-2014 (Subject)