Williams, G. J. (Griffith John)

Ardal dynodi

Math o endid

Person

Ffurf awdurdodedig enw

Williams, G. J. (Griffith John)

Ffurf(iau) cyfochrog enw

Ffurf(iau) safonol o enw yn ôl rheolau eraill

Ffurf(iau) arall o enw

  • Williams, Griffith John

Dynodwyr ar gyfer cyrff corfforaethol

Ardal disgrifiad

Dyddiadau bodolaeth

1892-1963

Hanes

Yr oedd Griffith John Williams (1892-1963) yn un o ysgolheigion ac athrawon Cymraeg mwyaf ei gyfnod.
Fe'i ganwyd yng Nghellan Court, sef Swyddfa Post Cellan, Ceredigion, 19 Gorffennaf 1892, yn fab i John ac Anne (neé Griffiths) Williams. Derbyniodd ei addysg gynnar yn ysgolion Cellan a Thregaron. Yn 1911, wedi derbyn Ysgoloriaeth Cynddelw, aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio yn y Gymraeg yn 1914.
Rhwng 1914 ac 1915 bu'n athro yn ysgol sir Dolgellau, ac yna, rhwng 1915 ac 1916, yn ysgol sir y Porth, Rhondda. Yna dychwelodd i Aberystwyth i astudio testunau Cymraeg Canol, gan dderbyn gradd MA am ei draethawd 'The verbal forms in the Mabinogion and Bruts'. Yn y cyfamser, dechreuodd astudio llawysgrifau Llanover a roddwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1917, a dechreuodd ymddiddori ym mywyd a gwaith Iolo Morganwg. Yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-Nedd, 1918, enillodd ar y traethawd 'Beirdd Morgannwg hyd ddiwedd y ddeunawfed ganrif', ac yn 1919 cyhoeddodd erthyglau'n ymwneud â gwaith Iolo yn Y Beirniad. Yn sgîl hyn derbyniodd gymrodoriaeth gan Brifysgol Cymru i barhau gyda'i ymchwil yn y maes a, rhwng 1919 a 1920, bu'n gweithio dan oruchwyliaeth Syr John Morris-Jones. Yn 1921 derbyniodd y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon am draethawd hir a manwl ar gysylltiad Iolo â'r un-ar-bymtheg o gywyddau a gynhwyswyd yn 'Y Chwanegiad' i Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789).
Bu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol fel bardd hefyd. Enillodd yn Eisteddfod Corwen yn 1919 ar y tair telyneg, y soned, y darn barddonol i'w adrodd, ac ar gyfansoddi penillion telyn. Yn y Barri yn 1920 gwobrwywyd ei delyneg 'Gwladys Ddu' a'i soned 'Llanilltud Fawr'. Fodd bynnag, rhoes y gorau i farddoni wrth ymroi i ymchwilio i fywyd a gwaith Iolo a'i benodi yn 1921 yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Yn 1946 olynodd W. J. Gruffydd yng Nghadair y Gymraeg.
Ymhlith ei gyhoeddiadau ceir Gramadegau'r Penceirddiaid (1933), sef testun safonol o ramadeg y beirdd yn yr Oesoedd Canol gyda rhagymadrodd awdurdodol ar y ffynonellau llawysgrif ac ar addysg y beirdd. Gwnaeth hefyd astudiaeth drwyadl o waith ysgolheigion Cymraeg y Dadeni Dysg, a'i gampwaith yn y maes hwn oedd ei olygiad o Ramadeg Cymraeg Gruffydd Robert (1939). Gwnaeth hefyd gyfraniadau i lên a dysg yr ail ganrif-ar-bymtheg, y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif-ar-bymtheg, gan gynnwys astudiaethau safonol o waith Stephen Hughes, Charles Edwards, Edward Lhuyd, William Owen [-Pughe], ac eraill. Dangosodd le allweddol cymdeithasau Cymreig Llundain, yn enwedig y Cymmrodorion a'r Gwyneddigion, yn natblygiad llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod diweddar. Serch hynny, mae'n sicr mai ar draddodiad llenyddol Morgannwg y cyflawnodd G. J. Williams ei waith llawnaf. Yn 1926, cyhoeddwyd traethawd buddugol 1921 o dan y teitl Iolo Morganwg a Chywyddau'r Ychwanegiad. Yn 1948 ymddangosodd Traddodiad Llenyddol Morgannwg, ac yn 1956, ar ôl astudio papurau ychwanegol a drosglwyddwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol gan Iolo Aneirin Williams, ymddangosodd Iolo Morganwg: y gyfrol gyntaf.
Ar ôl ymddeol yn 1957 parhaodd i olygu'r cylchgrawn Llên Cymru, y bu ef yn bennaf gyfrifol am ei sefydlu yn 1950. Yn 1959 traddododd Ddarlith O'Donnell yng ngholegau Prifysgol Cymru ar y testun 'Edward 'Lhuyd'. Beirniadai yn yr Eisteddfod Genedlaethol, darlithiai i gymdeithasau lleol ac yn 1960 etholwyd ef yn llywydd cyntaf yr Academi Gymreig. Bu'n aelod o fwrdd golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru a, rhwng 1959 ac 1961, yn gadeirydd Pwyllgor Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Roedd hefyd yn gasglwr brwd ar hen lyfrau Cymraeg.
Priododd ag Elizabeth Elen Roberts, Blaenau Ffestiniog, yn 1922. Bu hi'n gyd-fyfyriwr ag ef yng Ngholeg Aberystwyth rhwng 1910 ac 1914. Bu'n athrawes y Gymraeg yn ysgol sir y merched, Trefforest, Pontypridd, 1914-1918, ac yn ysgol sir Glynebwy, Mynwy, 1918-1922.
Bu Elizabeth Williams yn gymorth mawr i'w gŵr yn ei waith ymchwil, ac ymddiddorai hithau, fel yntau, ym mywyd Cymru a'r iaith Gymraeg. Roedd y ddau yn rhan o'r criw bychan yn y dau-ddegau a sefydlodd y Mudiad Cenedlaethol a ddatblygodd wedyn yn Blaid Cymru.
Bu Griffith John Williams farw 10 Ionawr 1963, ac Elizabeth Williams, 31 Ionawr 1979.

Lleoedd

Statws cyfreithiol

Ffwythiannau, galwedigaethau a gweithgareddau

Mandadau/ffynonellau awdurdod

Strwythurau/achyddiaeth mewnol

Cyd-destun cyffredinol

Ardal cysylltiadau

Ardal pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad pwnc

Pwyntiau mynediad lleoedd

Galwedigaethau

Ardal rheoli

Dynodwr cofnod awdurdod

n 85039010

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

aacr2

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creu, adolygu a dileu

Iaith(ieithoedd)

Sgript(iau)

Ffynonellau

lcsh

Nodiadau cynnal a chadw

  • Clipfwrdd

  • Allforio

  • EAC

Pynciau cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig