fonds GB 0210 HILLSL - CMA: Cofysgrifau Capel Hill's Lane, Amwythig

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 HILLSL

Teitl

CMA: Cofysgrifau Capel Hill's Lane, Amwythig

Dyddiad(au)

  • 1838-1945 (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

15 cyfrol, 1 bwndel

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes gweinyddol

Bu Methodistiaid Calfinaidd Amwythig yn addoli o 1805 ymlaen yn hen gapel y Wesleaid, Hill's Lane, a adeiladwyd yn 1781. Yn 1826 prynwyd y capel ganddynt ac fe'i chwalwyd er mwyn adeiladu capel newydd ar yr un safle. Yn 1870 adeiladwyd capel newydd eto ar yr un safle. Roedd y capel yn rhan o Henaduriaeth Trefaldwyn Isaf, Dosbarth y trefydd Seisnig.

Bu'r Capel am gyfnod yn hollol Gymreig, ond wedyn cafwyd gwasanaeth cymysg o Gymraeg a Saesneg. O 1886 ymlaen, cafwyd gwasanaeth Cymraeg yn y bore a gwasanaeth Saesneg yn yr hwyr. Caewyd y capel yn 1931 oherwydd gorchymyn pwrcasu gorfodol ac ymunodd yr aelodau â'r Eglwys Saesneg yn St David's, Belmont, yn y flwyddyn honno.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Adneuwyd gan Mr R. M. Edwards, Croesoswallt, Rhagfyr 2002.; 0200301499

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion ariannol amrywiol, 1864-1931, cofrestri a llyfrau cofnodion yr Ysgol Sul, 1838-1914, a gohebiaeth a deunydd perthynol, 1925-1945, Capel Hill's Lane, Amwythig.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau

System o drefniant

Trefnwyd yn ddwy gyfres: cofnodion ariannol a chofnodion yr Ysgol Sul; ac yn ddwy ffeil.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Saesneg
  • Cymraeg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Saesneg, Cymraeg

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LLGC 2001-.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Ceir cofysgrifau Hill's Lane, yn cynnwys cofrestr bedyddiadau, 1812-1829, cofrestr aelodaeth, 1808-1870, cofrestr aelodau'r Gymdeithas Ddirwest, 1836-1855, ac amryw gyfrifon, 1826-1922, yn LLGC, CMA 13130-13138. Ceir gohebiaeth, 1903 a 1932-1933, a gwybodaeth bellach am y capel yn CMA 16510, 4493, 18389, a HZ1/5/25-6. Ceir hefyd adroddiadau blynyddol, 1892-1914 gyda bylchau, yn LLGC.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004285167

GEAC system control number

(WlAbNL)0000285167

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Awst 2003

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Nia Mai Wiliams.

Nodyn yr archifydd

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r catalog hwn: Griffith, Edward, Hanes Methodistiaeth Trefaldwyn Isaf, Caernarfon, 1914; Presbyterian Church of Wales, Hill's Lane, Shrewsbury, Report for 1907.

Ardal derbyn

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: CMA: Cofysgrifau Capel Hill's Lane, Amwythig.