fonds GB 0210 ENGFFE - CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Ffestiniog

Identity area

Reference code

GB 0210 ENGFFE

Title

CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Ffestiniog

Date(s)

  • 1881-1948 (Creation)

Level of description

fonds

Extent and medium

0.077 metrau ciwbig (17 cyfrol)

Context area

Name of creator

Administrative history

Rhwng 1874 a 1881 cafwyd twf yn y boblogaeth yn ardal Ffestiniog oherwydd llwyddiant y diwydiant llechi. Yr oedd Capel Peniel gan yr enwad yn barod ond yr oedd angen lle o addoliad arall i gwrdd ag anghenion y bobl. Agorwyd Eglwys Engedi ar 15 Mai 1881 a'i sefydlu yn eglwys ar 23 Mai 1881. Daeth 160 o aelodau Peniel yn aelodau yn Engedi. Roedd lle i 500 eistedd yn yr addoldy. Yn 1898 codwyd tŷ i'r gweinidog ac yn 1904 cafwyd trydan yn y capel. Yn 1905 cynhaliwyd Sasiwn yno. Unwyd Eglwysi Peniel ac Engedi yn un ofalaeth yn 1920. Atgyweiriwyd Engedi yn 1925 a derbyniwyd gwahoddiad i gyd-addoli yn Eglwys Peniel yn ystod y cyfnod hwnnw.

Bu'r capel yn rhan o Ddosbarth Ffestiniog yn Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd a chredir iddo gau yn 1948 gan nad yw'n cael ei gynnwys yn Eglwys Methodistiaid Calfinaidd Cymru. Dyddiadur am 1949.

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Adneuwyd gan Mr Alun Williams, Dolgellau, ym mis Mawrth 2000, ymysg casgliad o ddeunydd o Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd.

Content and structure area

Scope and content

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau yn ymwneud â materion ariannol y capel, yr ochr weinyddol a'r Ysgol Sul. Ceir llyfr yr eisteddleoedd, 1881-1945, llyfrau casgliad y Weinidogaeth, 1881-1948, llyfrau aelodaeth yr eglwys, 1887-1948, llyfr y Trysorydd, 1888-1930, cofrestri'r Ysgol Sul, 1911-1946, a llyfr Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1939-1948, yn eu plith.

Appraisal, destruction and scheduling

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell..

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System of arrangement

Trefnwyd y cyfan o'r archif yn LlGC yn dair cyfres: cofnodion ariannol, cofnodion gweinyddol a chofnodion yr Ysgol Sul.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Conditions governing reproduction

Amodau hawlfraint arferol.

Language of material

  • Welsh

Script of material

Language and script notes

Cymraeg

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LLGC 2001-.

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Ceir adroddiadau blynyddol, 1931-1939, yn Archifdy Meirionnydd yn Nolgellau.

Related descriptions

Notes area

Note

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls004242059

GEAC system control number

(WlAbNL)0000242059

Access points

Place access points

Name access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Rules and/or conventions used

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Mehefin 2002.

Language(s)

  • Welsh

Script(s)

Sources

Archivist's note

Lluniwyd gan Ann Francis Evans.

Archivist's note

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Cronfa CAPELI yn LlGC; Eglwys Engedi M.C. Ffestiniog 1881-1931 - blwyddyn ei jiwbili (Adroddiad blynyddol ar gyfer 1930 yn cynnwys ychydig o brif ddigwyddiadau'r cyfnod); Ellis, Hugh, Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd, cyfrol III (Dolgellau, 1928); Owen, Robert, Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd, cyfrol II (Dolgellau, 1891); a CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Ffestiniog 1/7.

Accession area