Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [1950au] (Creation)
Lefel y disgrifiad
eitem
Maint a chyfrwng
3 ff. (ff. 86 recto-verso ac 86a gyda testun â'i wyneb i waered)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Yr oedd John Gwyn(edd) Griffiths (1911-2004) yn fardd, beirniad, golygydd ac ysgolhaig. Fe'i ganwyd yn Y Porth, Y Rhondda, 7 Rhagfyr 1911, yn fab i'r Parchedig Robert Griffiths, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Eglwys Moreia, a'i wraig Mima. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir y Bechgyn, yn Y Porth, graddiodd mewn Lladin a Groeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a'i addysgu ym Mhrifysgolion Cymru, Lerpwl a Rhydychen. Priododd Kate Bosse yn 1939 a ganwyd dau fab iddynt yn ddiweddarach, Robat a Heini. Sefydlodd Gylch Cadwgan yn ystod yr Ail Ryfel Byd gyda'i briod Kate Bosse-Griffiths yn eu cartref yn Y Porth. Bu'n athro ysgol yn ei hen ysgol yn Y Porth, 1939-1943, ac yn athro Lladin yn Ysgol Ramadeg Y Bala, 1943-1946, cyn cael ei benodi'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe yn 1947. Rhwng 1965 a 1966 bu'n ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgol Cairo. Bu'n gyd-olygydd cylchgrawn Y Fflam gydag Euros Bowen a Pennar Davies ac yn olygydd Y Ddraig Goch hefyd, 1948-1952. Cyhoeddodd bedair cyfrol o gerddi hefyd. Bu'n olygydd cyfres yr Academi Gymreig o drosiadau Cymraeg o weithiau rhyddiaith rhwng 1979 a 1995. Bu’n ysgrifennydd a llywydd Adran Glasurol Urdd y Graddedigion Prifysgol Cymru. Safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru mewn etholiadau lleol a seneddol. Bu farw 15 Mehefin 2004.
Hanes archifol
Darganfuwyd yr eitemau gan y rhoddwr mewn copi o The Poems of Hölderlin, cyf. gan Michael Hamburger ([Llundain], [1943]), a brynwyd ganddo yn y Gelligandryll; mae'r gyfrol honno (sy'n parhau i fod yn eiddo i'r rhoddwr) yn cynnwys arnodiadau yn llaw J. Gwyn Griffiths.
Ffynhonnell
Mr William Dieneman (trwy law Mrs Mary Burdett-Jones); Aberystwyth; Rhodd; Gorffennaf 2007; 004508704.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Drafftiau, [1950au], gan Dr J. Gwyn Griffiths o gyfieithiadau i'r Gymraeg o gerddi Almaeneg gan Hölderlin. Ysgrifennwyd y drafftiau ar lythyr (ac amlen), 13 Awst 1951, a gyfeiriwyd yn wreiddiol oddi wrth Nan Davies o'r BBC, Bangor, at Dr Griffiths (f. 86, 86a), ac ar gefn dalen o ymarferion Groegaidd (f. 87). = Drafts, [1950s], by Dr J. Gwyn Griffiths of translations into Welsh of German poems by Hölderlin. These were written on a letter (and envelope), 13 August 1951, originally sent by Nan Davies of the BBC, Bangor, to Dr Griffiths (f. 86, 86a), and on the back of a page of Greek exercises (f. 87).
Y cerddi a gyfieithiwyd yw 'Die Heimath' (f. 86), pennill cyntaf 'An Die Jungen Dichter' (f. 86 verso), 'Menschenbeifall' (ff. 86 verso, 86a), a'r wyth llinell cyntaf o 'Brot und Wein', rhan IV (ff. 86a verso, 87); mae'r gwreiddiol yn The Poems of Hölderlin, cyf. gan Michael Hamburger ([Llundain], [1943]), tt. 110, 108, 118 a 164 yn eu tro. Cyhoeddwyd 'Adref' ('Die Heimath') a 'Clod Dynion' ('Menschenbeifall') yn J. Gwyn Griffiths, Ffroenau'r Ddraig (Aberystwyth, 1961), tt. 88-89. = The poems translated are 'Die Heimath' (f. 86), the first verse of 'An Die Jungen Dichter' (f. 86 verso), 'Menschenbeifall' (ff. 86 verso, 86a), and the first eight lines of 'Brot und Wein', part IV (ff. 86a verso, 87); for the originals see The Poems of Hölderlin, trans. by Michael Hamburger ([London], [1943]), pp. 110, 108, 118 and 164 respectively. 'Adref' ('Die Heimath') and 'Clod Dynion' ('Menschenbeifall') were published in J. Gwyn Griffiths, Ffroenau'r Ddraig (Aberystwyth, 1961), pp. 88-89.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Groeg, Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Mae f. 86a wedi ei rwygo.
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Text
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.
Nodiadau
Preferred citation: NLW MS 23925E, ff. 86-87.