Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1975-1990 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Is-is-is-fonds
Maint a chyfrwng
31 ffolder
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Nid oedd llunio geiriadur yn un o ddibenion gwreiddiol sefydlwyr yr Academi ond ar ôl i'r Dr Bruce Griffiths a Mr Dafydd Glyn Jones gyflwyno dadl gref o blaid syniad o'r fath mewn cyfarfod ym 1974 fe gytunodd yr Academi i fwrw ymlaen â'r gwaith gyda chefnogaeth Cyngor y Celfyddydau. Fe gymerodd y gwaith lawer iawn mwy o amser i'w gwblhau nac a fwriadwyd ar y dechrau ond fe gynhyrchwyd cyfrol llawer helaethach na'r disgwyl hefyd. Cyhoeddwyd argraffiad cyntaf Geiradur yr Academi, neu'r Welsh Academy English-Welsh Dictionary, ym 1995.
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Un nod a osododd yr Academi iddi hi ei hun yn bur fuan yn ei hanes oedd sicrhau bod clasuron tramor yn cael eu cyfieithu i Gymraeg. Cyhoeddwyd y cyfieithiad cyntaf, o waith Camus, ym 1972. Fodd bynnag fe alwodd yr Academi, dan gadeiryddiaeth Harri Pritchard Jones, ar y cyd â Chymdeithas Emrys ap Iwan, dan gadeiryddiaeth Ned Thomas, gyfarfod ym mis Mawrth 1975 i geisio sefydlu Canolfan Cyfieithu i Gymru gan geisio ennyn cefnogaeth gwahanol gymdeithasau a sefydliadau Cymraeg. Ychydig o effaith a gafodd hynny ond ymhen ychydig, ym mis Ebrill 1977, fe gyfarfu Is-bwyllgor Cyfieithiadau'r Academi am y tro cyntaf. Aelodau'r Pwyllgor gwreiddiol oedd Bruce Griffiths, Bobi Jones, Gwyn Thomas, Islwyn Ffowc Elis a D. Myrddin Lloyd. Eu nod oedd cynhyrchu cyfres o gyfieithiadau Cymraeg o ryddiaith a barddoniaeth Ewropeaidd gan benodi swyddog cyflogedig i fod yn gyfrifol am y gwaith. Ni phenodwyd swyddog ac fe gychwynwyd ar y gwaith trwy ganolbwyntio ar y gyfres farddoniaeth dan olygyddiaeth D. Myrddin Lloyd.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae'r grŵp yn cynnwys peth gohebiaeth gefndirol i gyfarfod 1975 a phapurau yn ymwneud â chyhoeddi rhai o'r cyfrolau unigol, 1975-1990.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Trefnwyd yn dair cyfres yn nhrefn amser: cofnodion a phapurau cyffredinol, cyfieithiadau rhyddiaeth a chyfieithiadau barddoniaeth.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Preferred citation: CCC
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Cymdeithas Emrys ap Iwan (Pwnc)
- Humphreys, Emyr (Pwnc)
- Jones, Bobi, 1929-2017 (Pwnc)
- Thomas, Gwyn, 1936- (Pwnc)
- Lloyd, D. Myrddin (David Myrddin), 1909-1981 (Pwnc)