Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1929-1969 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Ffeil
Maint a chyfrwng
145 ff.
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Maurice A. Johnson (died [c. 1987]) accumulated a variety of genealogical papers while researching into the history of his family, who lived in Montgomeryshire, Merionethshire, Norfolk, Suffolk, Essex, Middlesex, Oxfordshire and Gloucestershire.
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Yr oedd David James Jones ('Gwenallt',1899-1968) yn fardd ac ysgolhaig. Ganwyd ef yn Alltwen, Pontardawe, Morgannwg, ar 18 Mai 1899. Addysgwyd ef ym Mhontardawe ac Ysgol y Sir Ystalyfera. Treuliodd y cyfnod Mehefin 1917 hyd Mai 1919 yng ngharchar fel gwrthwynebydd cydwybodol. Ar ôl cael ei ryddhau, aeth i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio mewn Cymraeg a Saesneg. Yma cyfarfu ag Idwal Jones (1895-1937), y dramodydd a diddanwr. Bu'n athro Cymraeg yn y Bari cyn dychwelyd i Aberystwyth yn 1927 yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, gan dod yn ddarlithydd hŷn ac yna'n ddarllenydd. Enillodd radd M.A. yn 1929. Ymysg ei diddordebau ymchwil yr oedd bywyd y saint, ysgol farddol diwedd yr oesoedd canol, a barddoniaeth y ddeunawfed ganrif, ond ei brif waith oedd ar hanes llenyddiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ymysg ei weithiau ysgolheigaidd mae Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1936, Y Ficer Pritchard a 'Cannwyll y Cymry' (Caernarfon, Cwmni'r Llan,1946) a chofiant Idwal Jones (Aberystwyth, 1958). Ymddeolodd yn 1966. Fel bardd cafodd gryn lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ennill y Gadair yn 1926 ar 'Y Mynach' ac yn 1931 ar 'Breuddwyd y Bardd'. Cyhoeddodd sawl gyfrol o farddoniaeth: Ysgubau'r Awen (Llandysul: Gomer, 1939), Cnoi Cil (Aberystwyth, 1942), Eples (Llandysul: Gomer, 1951), Gwreiddiau (Aberystwyth, 1959) a Coed (Llandysul: Gomer, 1969).
Enw'r crëwr
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Enw'r crëwr
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Yr oedd y Parch. Iorwerth Jones (1913-1992) yn weinidog Eglwys Annibynnol Pant-teg, Ystalyfera, 1938-1959, a Chapel Als, Llanelli, 1959-1979. Bu'n Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Yr Annibynwyr Cymraeg, 1975-1985, a golygydd y cyhoeddiadau enwadol Y Dysgedydd, Porfeydd ac Y Tyst.
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Yr oedd John William Jones (1883-1945) yn awdur, bardd gwerin, cyhoeddwr a chasglwr. Ganwyd yn Nhanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, sir Feirionnydd, ar 5 Mawrth 1883, yn fab i David Jones (?1848-1922), saer a oedd yn barddoni dan yr enw 'Glan Barlwyd'. Mynychodd Ysgol Gynradd Glan-y-pwll ac Ysgol Uwchradd Blaenau Ffestiniog. Aeth i weithio yn chwarel Oakley, Blaenau Ffestiniog, yn bedair ar ddeg oed, a bu yno am 53 mlynedd. Fel bardd, cyfrannai'n gyson i amryw o bapurau wythnosol Gymraeg a chyfnodolion. O 1940 ymlaen cyfrannodd golofn wythnosol boblogaidd o'r enw 'Y Fainc Sglodion' i'r Cymro. Golygodd a chyhoeddodd waith beirdd eraill oedd yn gysylltiedig â Blaenau Ffestiniog gan gynnwys: Ap Alun Mabon, Gwrid y Machlud (Blaenau Ffestiniog, 1941), Ioan Brothen, Llinell neu Ddwy (Blaenau Ffestiniog, 1942), Gwilym Deudraeth, Yr Awen Barod (Llandysul, 1943), Rolant Wyn, Dwr y Ffynnon (Blaenau Ffestiniog, 1949), a Caneuon R. R. Morris (Lerpwl, 1951).
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ganwyd Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd, newyddiadurwr, cyfieithydd, nofelydd, dramodydd, beirniad ac ysgolhaig, yn y Gwyndy Uchaf, Betws yn Rhos, sir Ddinbych. Yn 1899 priododd Margaret Davies, a chawsant ferch a dau fab. Heblaw am addysg elfennol, yr oedd Jones yn hynanddysgedig, er iddo dderbyn gwersi mewn mathemateg, Lladin a Groeg gan gymydog. Rhwystrwyd ei uchelgais o astudio yn Rhydychen gan afiechyd, a gweithiodd fel newyddiadurwr gyda Baner ac Amserau Cymru, Y Cymro (y daeth yn olygydd arno faes o law), Yr Herald Gymraeg a phapurau newydd eraill rhwng 1891 a 1909, pan gymerodd swydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1913, a'i ddyrchafu i Gadair Gregynog mewn Llenyddiaeth Gymraeg yn 1919; ymddeolodd yn 1937. Derbyniodd y CBE yr un flwyddyn. Dylanwadwyd Jones yn gryf gan y llenor Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan,1851-1906) ac yn arbennig gan y newyddiadurwr a'r cyfieithydd Daniel Rees (1855-1931), gyda'r hwn y magodd berthynas glos. Yn ogystal ag ymhyfrydu mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg cyfoes ac o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygodd ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg yr oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar, a hefyd llên gwerin ac ieithoedd tramor, yn enwedig Gwyddeleg ac ieithoedd Celtaidd eraill; bu ar ymweliad ag Iwerddon deirgwaith rhwng 1892 a 1913, daeth i gysylltiad ag ysgolheigion Gwyddelig, a defnyddiodd lysenwau fel Fionn mhac Eóghain yn ei ohebiaeth atynt. Ei brif lwyddiant oedd fel bardd pwysicaf ei genhedlaeth, yn cyfansoddi'n bennaf yn y mesurau caeth. Cyfansoddodd a chyhoeddodd farddoniaeth yn y 1880au, ac enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1902 a 1909 (am 'Ymadawiad Arthur a 'Gwlad y bryniau'); ymhlith gweithiau eraill o'i eiddo mae 'Tir na nOg', 'Madog' ac 'Y Dwymyn'. Cyfieithodd Jones waith Goethe, Ibsen, Shakespeare ac eraill i'r Gymraeg, a chyhoeddodd gyfieithiad Saesneg o Gweledigaethau y Bardd Cwsc Ellis Wynne (1670/1-1734). Mae ei brif gyhoeddiadau academaidd yn cynnwys astudiaeth ar waith y bardd Tudur Aled (bl. 1480-1526), ac roedd yn awdur nofelau, dramâu, cofiannau a llyfr taith hefyd. Yn ogystal, yr oedd yn beirniadu a darlithio mewn eisteddfodau yn rheolaidd, ac yn athro dylanwadol.
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ganwyd Thomas Owen Jones (Gwynfor, 1875-1941), dramodydd, ym Mhwllheli, sir Gaernarfon. Aeth yn brentis i groser yn bymtheg oed, a symudodd i Gaernarfon yn 1893, lle agorodd ei siop gigydd ei hun ymhen amser. Yn ei oriau hamdden bu Gwynfor yn cynorthwyo Beriah Gwynfe Evans (1848-1927) gyda hyrwyddo drama yng Nghaernarfon, a daeth ef ei hun yn actor a dramodydd medrus. Sefydlodd Cwmni Theatr y Ddraig Goch yn 1900, a bu'n gyfarwyddwr iddo tan 1935, a dyma'r cwmni a berfformiodd y ddrama Gymraeg gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yng Nghaernarfon yn 1906. Enillodd Gwynfor ei hun nifer o gystadlaethau drama mewn eisteddfodau, a bu'n feirniad cenedlaethol o 1924 ymlaen. Datblygodd ddiddordeb dwfn mewn barddoniaeth a llenyddiaeth Cymraeg o bob math, yn enwedig hynny'n ymwneud â'r môr, gan gasglu storiâu a gwybodaeth gan hen forwyr Pwllheli a Chaernarfon, yn ogystal â chan faledwyr sir Gaernarfon. Yn 1917 cafodd Gwynfor ei benodi'n Llyfrgellydd Sirol cyntaf sir Gaernarfon, yn gyfrifol am ddosbarthu llyfrau trwy ysgolion a phentrefi gwledig y sir. Priododd Margery Winifred ('Madge') Jones, aelod o Gwmni Drama'r Ddraig Goch, yn 1922, a bu'n byw yng Nghaernarfon hyd ei farwolaeth yn 1941.
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Olynodd D. Tecwyn Lloyd, Gwenallt, a fu'n olygydd Taliesin rhwng 1961 a 1964, a pharhaodd yn Olygydd o 1965 hyd at 1987. Fe'i penodwyd ef ac Islwyn Ffowc Elis yn gyd-olygyddion ym 1965, fe barhaodd Tecwyn Lloyd yn y swydd ar ôl ymddiswyddiad Islwyn Ffowc Elis ym 1966.
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Yr oedd Owain Llewelyn Owain (1878-1956), o Gaernarfon, yn newyddiadurwr ac awdur. Bu'n gweithio yn y chwareli lleol am gyfnod cyn cychwyn ar ei yrfa gyda Y Genedl Gymreig fel gohebydd i ddechrau, ac wedyn fel golygydd. Bu hefyd yn athro cerddoriaeth ac yn feirniad eisteddfodol yn ogystal â bod yn un o sylfaenwyr Urdd Gobaith Cymru yng Nghaernarfon. Cyhoeddodd amryw o gofiannau pwysig yn cynnwys un i T. E. Ellis, 1915, a llyfrau eraill ar fywyd llenyddol Caernarfon. Cyhoeddwyd ei gyfrol, Hanes y Ddrama yng Nghymru, 1850-1943, yn 1948.
Enw'r crëwr
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Cant a deuddeg o lythyrau, 1929-1969, at Evan Roberts oddi wrth Leslie Harries, Yr Wyddgrug, 24 Gorffennaf 1953; Herbert Hughes, Dieppe, 20 Medi 1950; Myfanwy [?Hughes], Fron-Deg, Llandrillo, 1953-1954 (2); Y Parch. W. Roger Hughes, Bryneglwys, 1937-1956 (6); Y Parch Ifor O. Huws, Bala, 1950-1951 (2); G. Humphreys, Llandderfel, 10 Awst 1930; Trevor Humphreys, Llanfairfechan, 1952; W. F. Irvine, Corwen, Ionawr-Hydref 1944 (2, Saesneg); R. T. Jenkins, Bangor, 20 Rhagfyr 1955; Y Parch. W. Gwynne John, Christ Church Vicarage, Crewe, [1949]; Maurice A. Johnson, Winchester, 11 Hydref 1961 (1, Saesneg); B. Maelor Jones, Dolgellau, 1947-1960 (4); [D.] Gwenallt Jones, Aberystwyth, 1946-1953 (3); Einion Jones, Cerrigellgwm, 16 Mawrth 1937; Evan D. Jones, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1949-1968 (10); Frank Price Jones, Bangor, 21 Rhagfyr 1959; Gwynn [Jones], Corwen, 1 Mawrth 1958; Cfn [Craftsman] Hefin Jones, Duisburg, [1954] (1, at 'Annwyl Uncle Evan'); [Y Parch.] Idwal J[ones], Llanrwst, 1961 a [d.d.] (2); Ifano Jones, Penarth, 1937-1954 (4); Y Parch. Iorwerth Jones, Llanelli, Mawrth-Gorff. 1964 (5); Islwyn Jones, Aberystwyth, [?1955]; J. Lewis Jones (Arenig), Wrecsam, 9 Medi [?1946]; John W. Jones, Blaenau Ffestiniog, 8 Tachwedd 1952; Llewelyn Jones, Ffynnongroyw, 9 Mai 1959; Marian Henry Jones, Aberystwyth, 1960 (2); Meirion Jones, Y Bala, 1955-1956 (4); M[oses] J. Jones, Blaenau Ffestiniog, 1935 (2); Y Parch. R. Gwynedd Jones, 1934-1968 (5); R. Parry Jones, Dyserth, 26 Ionawr 1942; Richard R. Jones a'r teulu, Pwllheli, 1954-1964 (3); Robin Gwyndaf Jones, Amgueddfa Werin Cymru, Mai-Medi 1969 (2); T. Gwynn Jones, 1937, [?1940] (2); [T. O. Jones] (Gwynfor), Caernarfon, 19 Mawrth 1936; Thomas Jones, Cerrigellgwm, 14 Mehefin 1932; W. O. Jones, Clwb Ffermwyr Ieuainc Llanfor, 4 Rhagfyr 1945; K. W. Jones-Roberts, Ffestiniog, Mehefin 1960 (2); [Owen Lewis] (Glan [Cymerig]), Bala, 12 Tachwedd 1937; D. Tecwyn Lloyd, 1958-1964 (8); J. H. Lloyd [Peryddon], Bala, [d.d.] (3); William Lloyd, Welsh Farm News, Croesoswallt, 1960-1961 (3); Buddug Medi, Bala a Bangor, 1960 (3); William Meredith, Llangwyfan Hospital, 10 Tachwedd 1964; Dei Morris, Chester, 1956-1963 (2); J[ohn] R[ichard] Morris, Wyn-Edwards & Morris, Lerpwl, 29 Ebrill 1929; Myfanwy Morris, Abergele, 7 Ionawr 1958; James Nicholas, Tyddewi, [d.d.]; Louise H. Norton, Geneva, Illinois, 1965 (1, Saesneg); [O.] Llew Owain, 1950-1952 a [d.d.] (3); a Trefor M. Owen, Amgueddfa Werin Cymru, 1958-1959 (3).
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Trefnwyd yn nhrefn yr wyddor.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Saesneg
- Cymraeg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.