Showing 255 results

Archival description
Only top-level descriptions fonds
Print preview View:

Papurau yr Ymgyrch Newydd yng Nghymru,

  • GB 0210 YMGMRU
  • fonds
  • 1944-1983 /

Gohebiaeth a phapurau eraill,1944-1952, 1974,1982-1983, yn ymwneud â gweinyddiad y mudiad a'i ymgyrchoedd; copïau o adroddiadau, erthyglau a chylchlythyron, [1944x1952]; a phamffledi a thorion papur newydd, [1944x1952] = Correspondence and other papers, 1944-1952,1974, 1982-1983, relating to the administration of the movement and its campaigns; copies of reports, articles and circulars, [1944x1952]; and pamphlets and newspaper cuttings, [1944x1952].

Ymgyrch Newydd yng Nghymru (Missionary movement)

Papurau Owen Parry,

  • GB 0210 OPARRY
  • fonds
  • 1696-1957 /

Papurau Owen Parry, Llanegryn, hynafiaethydd, yn cynnwys grŵp sylweddol o farddoniaeth a phapurau William John Roberts, 'Gwilym Cowlyd', 1827-1904; nodiadau ar y diwydiant wlân,1696-1780; llawysgrif o bregethau ac emynau gan Thomas Phillips, Neuadd-lwyd,1809; papurau'n ymwneud ag Arwest Glan Geirionydd, 1890-1896, ac Eisteddfodau, 1878-1890; cofnodion dau ddosbarth efrydiau allanol dan arweiniad y rhoddwr,1929-30; arolygon ac adroddiadau'n ymwneud â Thywyn, Ffestiniog, sir Feirionnydd a Dolgellau, 1940-1957; chwe dogfen a oedd gynt yn eiddo i gyfreithiwr o Amlwch, 1793-1914 = Papers of Owen Parry, Llanegryn, antiquary, including a significant group of poetry and papers of William John Roberts, 'Gwilym Cowlyd', 1827-1904; notes on the woollen industry, 1696-1780; a manuscript of sermons and hymns by Thomas Phillips, Neuadd-lwyd, 1809; papers relating to Arwest Glan Geirionydd, 1890-1896, and to Eisteddfodau, 1878-1890; minutes of two extra-mural classes conducted by the donor, 1929-30; surveys and reports relating to Towyn, Ffestiniog, Meirionethshire and Dolgellau, 1940-1957; six documents previously belonging to a solicitor from Amlwch, 1793-1914.

Parry, Owen, of Llanegryn.

Papurau'r Parch. Iorwerth Jones,

  • GB 0210 IORNES
  • fonds
  • 1939-1992 /

Papurau'r Parch. Iorwerth Jones, 1939-1992, o ddiddordeb diwinyddol yn bennaf, yn cynnwys gohebiaeth yn ymwneud â'r Dysgedydd, 1952-1968, Porfeydd, 1967-1978, ac Y Tyst, 1972-1989; gohebiaeth bersonol a chyffredinol, [c. 1955]-1991; papurau ymchwil, 1980-1986; a thorion o'r wasg, 1941-1992. = Papers of the Rev. Iorwerth Jones, 1939-1992, mainly of religious interest, including correspondence relating to Y Dysgedydd, 1952-1968, Porfeydd, 1967-1978, and Y Tyst, 1972-1989; personal and general correspondence, [c. 1955]-1991; research papers, 1980-1986; and press cuttings, 1941-1992.

Jones, Iorwerth, 1913-1992.

Papurau D. Myrddin Lloyd,

  • GB 0210 DMYRLLOYD
  • fonds
  • 1915-1981 /

Papurau, 1915-1981, D. Myrddin Lloyd, yn cynnwys llythyrau a anfonwyd ato, 1926-1981; gohebiaeth, 1977-1980, ynglŷn â chyfrol Euros Bowen, Beirdd Simbolaidd Ffrainc (Caerdydd, 1980); llyfrau nodiadau, 1937-1953, yn ymwneud â llenyddiaeth Cymru a gwledydd eraill Ewrop; nodiadau ar Emrys ap Iwan (Robert Ambrose Jones); papurau yn ymwneud â'i ymchwil ar y Gogynfeirdd; sgriptiau radio, 1946-1978; a chopïau llawysgrif a theipysgrif o'i waith; ynghyd â phapurau yn ymwneud â'i wraig, Elizabeth Mary Lloyd. = Papers, 1915-1981, of D. Myrddin Lloyd, including letters addressed to him, 1926-1981; correspondence, 1977-1980, relating to the volume by Euros Bowen, Beirdd Simbolaidd Ffrainc (Cardiff, 1980); notebooks, 1937-1953, pertaining to Welsh and other European literature; notes on Emrys ap Iwan (Robert Ambrose Jones); papers relating to his research on the Gogynfeirdd; radio scripts, 1946-1978; and manuscript and typescript copies of works by him; together with papers relating to his wife, Elizabeth Mary Lloyd.

Lloyd, D. Myrddin (David Myrddin), 1909-1981

CMA: Cofysgrifau Capel y Ton, Tonyrefail,

  • GB 0210 TONAIL
  • fonds
  • 1852-2002 /

Cofysgrifau Capel y Ton, Tonyrefail, yn cynnwys cofnodion y Blaenoriaid, 1940-1981; derbyniadau a thaliadau, 1933-2002; cyfraniadau tuag at y Weinidogaeth, 1958-2002; a rhestr o enwau perchnogion y beddau, 1852-1980.

Capel-Y-Ton (Tonyrefail, Wales)

Papurau William Williams, Llangynog,

  • GB 0210 WILGYNOG
  • fonds
  • 1864-1995 /

Mae'r casgliad yn cynnwys ysgrifau yn dwyn y teitl 'Yr Hen Ysgol - 1864-1867', sy'n cyfeirio at ddefnydd o'r 'Welsh Not'; llyfrau nodiadau a gadwyd gan William Williams,1871-1888, yn cynnwys nodiadau ysgrythurol; ysgrifau heb ddyddiad; llyfr nodiadau yn cynnwys adroddiad heb ddyddiad am ordeinio'r Parch. D. R. Jones yn weinidog Bethania, Llanelli; a ffotograffau, ynghyd â manylion bywgraffyddol am aelodau o'r teulu Williams, ynghyd â darlith perthynol gan Eluned Jones. = The collection comprises writings entitled 'Yr Hen Ysgol - 1864-1867', referring to the use of the 'Welsh Not'; notebooks kept by William Williams, 1871-1888, containing scriptural notes; undated writings; a notebook containing an undated report of the ordination of Rev. D. R. Jones at Bethania, Llanelli; and photographs, together with biographical details, of members of the Williams family, together with a related lecture by Eluned Jones.

Williams, William, 1856-1936.

CMA: Cofysgrifau Eglwys Nazareth, Pentre,

  • GB 0210 NAZRHON
  • fonds
  • 1882-1969 /

Llyfrau’r weinidogaeth, 1888-1944; llyfrau cyfrifon, 1882-1946; llyfrau'r eisteddleoedd, 1886-[1930]; cofnodion gweinyddol, 1898-1969; a chofnodion yr Ysgol Sul, 1875-[1915].

Nazareth (Church : Pentre, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Bethel, Dyserth

  • GB 0210 BETDYS
  • fonds
  • 1854-1974

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau gweinyddol ac ariannol Eglwys Bethel, Dyserth. Ceir yn eu plith llyfrau cyfrifon, 1854-1951, llyfrau casgliad y weinidogaeth, 1915-1967, cofrestri eglwysig, 1900-1974, llyfrau cofnodion, 1916-1966, a thaflenni ystadegol, 1952-1962.

Eglwys (MC) Bethel (Dyserth, Wales)

Papurau John Stoddart

  • GB 0210 JOSTOD
  • fonds
  • 1943-2001

Mae'r fonds yn cynnwys cyfieithiadau a gweithiau llenyddol John Stoddart yn bennaf, [1943]-2001, yn eu plith drafftiau o'i weithiau cyhoeddedig; gohebiaeth yn ymwneud â chyfieithiadau cerddorol ar gyfer Eisteddfodau Cenedlaethol yn ogystal â'i amryw ddiddordebau; papurau ymchwil amrywiol yn cynnwys yn bennaf nodiadau yn ymwneud â'i waith am y bardd Osian a'i ddiddordeb mewn ieithoedd megis yr Aeleg a'r Wyddeleg.

Stoddart, John, 1924-2001

Papurau Dafydd Orwig,

  • GB 0210 DAFORWIG
  • fonds
  • [c.1890s]-1995 /

Papurau, [c.1890au]-1995, a gasglwyd gan Dafydd Orwig, yn ymwneud yn bennaf â Phlaid Cymru, yn cynnwys deunydd yn ymwneud â chenedligrwydd, diwylliant, gwleidyddiaeth ac economeg Cymru, yn eu plith amrywiaeth o adroddiadau, datganiadau a chyhoeddiadau Plaid Cymru, 1958-1995, a hefyd peth ddeunydd yn ymwneud â'r Alban ac Iwerddon. = Papers,[c.1890s]-1995, collected by Dafydd Orwig, relating mainly to Plaid Cymru, and comprising material relating to nationality, culture, politics and economics in Wales, including a variety of Plaid Cymru reports, manifestos and publications, 1958-1995, and also some material relating to Scotland and Ireland.

Orwig, Dafydd.

Papurau F. Wynn Jones

  • GB 0210 FRANWYJO
  • fonds
  • [?1872]-[2003] (crynhowyd [1916]-2003)

Papurau, 1916-1971, yn ymwneud â chyhoeddiadau F. Wynn Jones sef Godre'r Berwyn (1953) a Canmlwydd Siloh (1962), ynghyd â phapurau ymchwil yn ymwneud â'r cofiant arfaethedig i'w dad-yng-nghyfraith T. Gwynn Jones. Ceir hefyd rhai o'i bapurau personol ef ei hun sy'n cynnwys llythyrau, 1916-1918, a anfonodd tra'n filwr adeg y Rhyfel Byd Cyntaf ac fel carcharor rhyfel yn 1918; a llythyrau'n ei longyfarch ar gael OBE yn 1957. Ychwanegwyd rhai nodiadau cefndirol gan Emrys Wynn Jones.

Jones, Francis Wynn, 1898-1970

Sgriptiau Eurwyn Williams,

  • [Sgriptiau Eurwyn Williams]
  • fonds
  • 1982-1998/

Mae'r casgliad yn cynnwys sgriptiau ffilm a baratowyd yn ystod y 1980au a'r 1990au gan Eurwyn Williams fel aelod o amrywiol griwiau ffilm, yn bennaf ar gyfer Ffilmiau Eryri. Ceir hefyd nifer o daflenni gan gynnwys amserlenni ffilmio, lleoliadau a rhestri o actorion, y mwyafrif yn ymwneud â'r ffilm 'Owain Glyndwr: Prince of Wales' = The collection consists of film scripts prepared during the 1980s and 1990s by Eurwyn William as a member of various film crews, mainly for Ffilmiau Eryri. There is also a number of leaflets including filming schedules, locations and lists of actors, most of these relating to the film 'Owain Glyndwr: Prince of Wales'.

Eurwyn Williams (ganed 1958)

Papurau'r Parch. D. R. Griffith,

  • GB 0210 DRGRIFF
  • fonds
  • 1929-1984 /

Mae'r papurau yn cynnwys llyfrau nodiadau yn cynnwys nodiadau darlithoedd ar y Testament Newydd yn bennaf; nodiadau pregethau; gohebiaeth, 1929-1980; nodiadau darlithoedd ac ymchwil; drafftiau teipysgrif o gyfieithiadau ar gyfer Beibl Cymraeg newydd; torion o'r wasg, 1947-1984; a rhaglenni gwasanaethau crefyddol a thaflenni angladdau. = Comprises notebooks containing lecture notes mainly on the New Testament; sermon notes; correspondence, 1929-1980; lecture and research notes; draft typescripts of translations for the new Welsh Bible; press cuttings, 1947-1984; and programmes for religious services and funeral service sheets.

Griffith, D. R. (David Robert)

Cofnodion Noddfa, Capel y Bedyddwyr, Corris,

  • GB 0210 NODDFA
  • fonds
  • 1896-1970 /

Mae'r casgliad yn cynnwys cyfriflyfrau, 1896-1970; adroddiadau y capel, 1964-1969; gohebiaeth, 1932-1950, yn ymwneud â phrynu rhydd-ddaliad y capel oddi wrth stad Plas Machynlleth, ynghyd â chatalog gwerthiant perthynol; ac amrywiol bethau, 1897-1968 = The collection comprises account books, 1896-1970; chapel reports, 1964-1969; correspondence, 1932-1950, relating to the purchase of the freehold of the chapel from the Plas Machynlleth estate, together with a related sale catalogue; and miscellanea, 1897-1968.

Noddfa, Capel y Bedyddwyr (Corris, Wales).

Results 241 to 255 of 255