Print preview Close

Showing 159 results

Archival description
Papurau Menna Elfyn Ffeil / File English
Print preview View:

Canto

Deunydd yn ymwneud â chwmni Canto, a sefydlwyd ym 1997 fel is-gwmni o fewn Antur Teifi er hybu llenyddiaeth Gymraeg, gan gynnwys cynlluniau strwythur a chynlluniau gwaith, swydd ddisgrifiadau, datganiadau i'r wasg, ceisiadau ariannol wedi'u cyfeirio at Gyngor y Celfyddydau, cyfrifon, cofnodion, newyddlenni, gohebiaeth a manylion am deithiau awduron/llenorion; ynghyd â deunydd yn ymwneud â chais a wnaed Ebrill 2008 gan gwmni Dyddiol Cyf, wedi'i gyfeirio at Gyngor Llyfrau Cymru, i sefydlu wythnosolyn am ddim dan y teitl arfaethedig Y Byd. (Rhoddwyd y gorau yn y diwedd i'r cynlluniau i sefydlu Y Byd ar sail diffyg ariannu.)

Gohebiaeth

Gohebiaeth amrywiol at, oddi wrth neu sydd yn ymwneud â Menna Elfyn, gan gynnwys: cylchlythyr ('Annwyl gyfaill') drafft, 1986, oddi wrth Menna Elfyn yn ymddiheuro am fethu mynychu cyfarfod; llythyr, 1986, oddi wrth Goleg Prifysgol Dewi Sant (bellach Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant), Llanbedr-Pont-Steffan at Lysgenhadaeth America yn Llundain yn cefnogi cais Menna Elfyn am ysgoloriaeth deithiol i'r Unol Daleithiau; llythyr, 1992, at Menna Elfyn oddi wrth Gwmni Theatr Dalier Sylw, Caerdydd ynghylch ymarferion ar gyfer y ddrama Y Forwyn Goch, a sgriptiwyd gan Menna Elfyn (gweler dan bennawd Am Menna Elfyn: Erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg a dan bennawd Y Forwyn Goch o fewn yr archif hon); llythyr, 1993, at Menna Elfyn oddi wrth gwmni Poetry International Rotterdam; llythyr, 1995, at Menna Elfyn oddi wrth y Cyngor Prydeinig yn Barcelona ynghylch trefniadau ar gyfer ei hymweliad â'r ddinas; ebost, 2000, oddi wrth Menna Elfyn at y bardd Gillian Clarke ynghylch cyfieithu un o gerddi Menna Elfyn; ebost, 2012, at Menna Elfyn oddi wrth Cathey Morgan, swyddog addysg ac allanol yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu; ebost, 2012, at Menna Elfyn ac eraill oddi wrth y bardd a'r llenor Nigel Jenkins, yn cynnwys erthygl hunangofiannol; a llythyr, 2013, at Menna Elfyn oddi wrth Regina Dyck a Michael Augustin, trefnwyr Poetry on the Road, sef gŵyl farddoniaeth ryngwladol a gynhelir yn Bremen, yr Almaen.

Stafelloedd Aros

Deunydd yn ymwneud â Stafelloedd Aros (1978), sef ail flodeugerdd Menna Elfyn, gan gynnwys drafftiau gwreiddiol o'r cerddi (a luniwyd tra'n yr ysbyty) a chyfieithiadau o rai o'r cerddi gorffenedig i'r Saesneg.

Hel Dail Gwyrdd

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd Hel Dail Gwyrdd (1985), gan gynnwys adolygiadau o'r casgliad.

Eucalyptus

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd ddwyieithog Eucalyptus (1995), gan gynnwys adolygiadau, datganiadau i'r wasg, llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth Tony Conran a Joseph Clancy, dau o gyfieithwyr y cerddi, a chyfieithiad o un o'r cerddi i'r Galiseg; ynghyd â deunydd yn ymwneud â chyfieithiad o Eucalyptus i Fietnameg, sy'n cynnwys gan fwyaf lythyrau a chardiau at Menna Elfyn oddi wrth ei chyswllt llenyddol yn Hanoi, Trinh Thi Dieu.

Murmur

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd ddwyieithog Murmur (2012), gan gynnwys adolygiadau, erthyglau, deunydd paratoadol ar gyfer darlleniadau o'r gyfrol yng Ngŵyl y Gelli 2013, llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth Joseph Clancy, un o gyfieithwyr y cerddi gwreiddiol i'r Saesneg, deunydd yn ymwneud â chyfieithu'r gyfrol i'r Gatalaneg, a rhifyn o'r gyfrol wedi'i chyfieithu i'r Fasgeg.

Cyfieithiadau o farddoniaeth Menna Elfyn gan eraill

Deunydd yn ymwneud â chyfieithu gwaith barddonol Menna Elfyn i ystod eang o ieithoedd, gan gynnwys Tsieinëeg, Lithwaneg, Swedeg, Wcreineg, Groeg, Hindi a Slofeneg. Ymysg y cyfieithwyr i'r Saesneg mae Robert Minhinnick, R. S. Thomas, Gwyneth Lewis, Tony Conran, Nigel Jenkins, Joseph Clancy, Elin ap Hywel a Gillian Clarke. Ynghyd â gohebiaeth yn ymdrin â'r gwaith cyfieithu rhwng Menna Elfyn, Nigel Jenkins, Gillian Clarke, Tony Conran a Joseph Clancy.

Llawlyfr: Dim Llais i Drais/Hands Off

Dau gopi o Hands Off, llawlyfr a gyhoeddwyd gan Gronfa Achub y Plant a Chymorth i Fenywod. Ysgrifenwyd testun y cyfieithiad Cymraeg, dan y teitl Dim Llais i Drais, gan Menna Elfyn.

Madog

Deunydd yn ymwneud â'r ddrama lwyfan Madog (1989), gan gynnwys drafft o'r sgript, adolygiadau o'r wasg, posteri printiedig yn hysbysebu'r ddrama a llythyr at Menna Elfyn oddi wrth Nigel Jenkins.

Y Coed

Deunydd yn ymwneud â Y Coed, cyfieithiad Menna Elfyn o ddrama David Mamet The Woods, gan gynnwys copi teg o'r sgript a thoriad papur newydd.

Libretti cynnar: Patagonia & Aber

Sgoriau a geiriau dwy gân yn dwyn y teitlau 'Patagonia' ac 'Aber', a gyfansoddwyd gan Menna Elfyn (geiriau) a Helen Gwynfor (cerddoriaeth) tra'n ddisgyblion ysgol. Dyfarnwyd 'Patagonia', a berfformwyd gan grŵp o'r enw Y Trydan, y gân fuddugol yn Eisteddfod Sir Yr Urdd Caerfyrddin 1968.

Cyfieithiadau o libretti operâu

Deunydd yn ymwneud â chyfieithiadau i'r Gymraeg gan Menna Elfyn o libretti operâu, sef Otello, Don Carlo, Il Trovatore ac Aida gan Verdi ac I Capuleti e i Montecchi gan Bellini, gan gynnwys libretti, sgoriau cerddorol a gohebiaeth.

Agoriad

Rhaglenni cyngerdd dan nawdd Celtic Connections Wales a RTÉ Iwerddon, sy'n cynnwys Agoriad (geiriau gan Menna Elfyn, cerddoriaeth gan John Metcalf); ynghyd â sgôr gerddorol y darn.

Hawdd Amor

Deunydd yn ymwneud â Hawdd Amor, prosiect cerddorol wedi'i chanoli yn Nyffryn Aman (geiriau gan Menna Elfyn a cherddoriaeth gan Peter Stacey), gan gynnwys geiriau'r gerdd, y sgôr gerddorol a gohebiaeth.

Prosiect celf dinesig Abertawe

Deunydd yn ymwneud â phrosiect celf dinesig yn ninas Abertawe, gan gynnwys cynlluniau, drafftiau a nodiadau, torion papur newydd a llythyr at Menna Elfyn oddi wrth ei chyd-weithiwr Nigel Jenkins a'r caligraffydd Ieuan Rees.

Cywaith gyda Howard Bowcott

Deunydd yn ymwneud â phrosiectau ar y cyd ar gyfer celf gyhoeddus rhwng Menna Elfyn (geiriau) a'r cerflunydd Howard Bowcott (gweithiau celf), gan gynnwys brasluniau, drafftiau a nodiadau a gohebiaeth rhwng Menna Elfyn a Howard Bowcott.

Prosiect Ysbyty Treforys

Prosiect celf gyhoeddus ar y cyd rhwng y beirdd Menna Elfyn, Nigel Jenkins, David Hughes a Rhys Owain Williams a'r artisitiaid Katie Allen, David Jones, Alan Goulbourne a Danielle Arbrey, gan gynnwys brasluniau, nodiadau a drafftiau, toriad papur newydd a gohebiaeth rhwng cyd-weithwyr y prosiect, yn bennaf oddi wrth Nigel Jenkins at eraill o'r cyfranwyr.

Results 1 to 20 of 159