Torion yn ymwneud â’i lwyddiannau llenyddol, yn arbennig ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1951; adolygiadau o’i nofel Marged; ei erthyglau i’r Western Mail; a theyrngedau iddo.
Cyfrol yn cynnwys torion o’r wasg, 1932-1943, gan gynnwys rhai am ‘Pryddest Dafydd Huws’, pryddest ddigrif a anfonwyd i Eisteddfod Genedlaethol Aberafan 1932 ac a gyhoeddwyd yn Y Ford Gron.
Sgript 'Plas Penucha', 1969, y bu'n cymryd rhan yn y darllediad ac yn annerch yn seremoni cyflwyno plac i goffau Thomas Jones ym Mhlas Penucha, Caerwys.
Cyfieithiad o’r gerdd ‘Cwm tawelwch’ gan Kenneth Lloyd Jones, disgybl chweched dosbarth o Ysgol Quarry bank, Lerpwl, ynghyd â llythyr oddi wrth y cyfieithydd at Gwilym R. Jones. Fe’i cyhoeddwyd yn 'The Quarry', cylchgrawn yr ysgol yn 1955,
Dau sgôr llawysgrif wreiddiol, ddyddiedig Mawrth 1943, gyda chopïau gwaith diweddarach o'r alaw 'Dy gofio di' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Saesneg gan Patience Strong. Dewis o gyfieithiad i'r Gymraeg gan I. D. Hooson, Glyndŵr Richards (Y Rhyl) neu E. Wilson Jones (Rhewl), 1984. Ysgrifennwyd 'Rhywle ar y môr'. Tudalen rhydd o sylwadau gan eraill.
Anerchiad i'r Dorcas Society, Pad[dington?], gan John Roberts (J.R.), 17 Tachwedd 1857 (ff. 1-3). = An address to the Dorcas Society, Pad[dington?], given by John Roberts (J.R.) on 17 November 1857 (ff. 1-3). Mae nodyn ar f. 4 verso yn cofnodi cyfraniad J.R. i gasgliad ar gyfer y London Missionary Society. = A note on f. 4 verso records a contribution by J.R. to the London Missionary Society.
Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1995-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o siopau a busnesau yn trafod polisi iaith Gymraeg; a datganiad i’r wasg (1997).
Hanes teulu Penlancwnlle gan y rhoddwr y Parch. Stephen Morgan, 2005. = A history of the Penlancwnlle family, Nancwnlle parish, Cardiganshire, relating to their origins and descendants, compiled by the donor the Rev. Stephen Morgan, 2005.
Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, nodiadau, a phapurau, 1989-1999, yn ymwneud â pholisïau iaith cwmnïau a gwasanaethau trafnidiaeth amrywiol. Mae’r rhan fwyaf o’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a nodiadau yn trafod polisi iaith Maes Awyr Caerdydd, yn cynnwys llythyrau oddi wrth sawl Aelod Seneddol Cymraeg; Aelodau Seneddol Ewropeaidd; Yr Arglwydd Prys-Davies; y cwmni TBI Airport Holdings; a gohebiaeth ar y mater yn gysylltiedig â’r papur Cymraeg Americanaidd, Ninnau. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys gohebiaeth a datganiadau i’r wasg yn ymwneud â pholisïau iaith sawl cwmni trafnidiaeth.
Papurau a gohebiaeth, 1989, yn ymwneud â nawfed Fforwm y Ganolfan, ‘Tafodieithoedd’, yn cynnwys rhaglen; rhestr o fynychwyr; slipiau ateb; rhestr o aelodaeth Cylch Astudiaethau Tafodieithol Urdd y Graddedigion; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth Morfydd E. Owen; R. Geraint Gruffydd; Llinos Young; Richard Crowe; a Peter Wynn Thomas.
Taflenni, posteri a chylchlythyrau'n ymwneud ag amryw etholiad ac ymgyrch. Hefyd, dalennau o sticeri Plaid Cymru, g.g. 'Stop the war = Dim rhyfel' a 'Senedd nawr!' / 'Parliament now!'.
Taflenni Rhun ap Iorwerth, ymgeisydd Plaid Cymru yn isetholiad Ynys Môn i'r Cynulliad, 1 Awst 2013; taflenni Jill Evans, Aelod Senedd Ewrop dros Gymru, gan gynnwys taflen etholiad 22 Mai 2014, ac adroddiad 2014/15; a thaflenni Plaid Cymru a Phlaid Llafur am isetholiad ward Plasnewydd i Gyngor Caerdydd, 20 Medi 2016.
Taflen briodas Eirlys Rees Owen a'r Parchedig Islwyn Foulkes Ellis, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Rhoslefain, Towyn, 28 Hydref 1950; llungopïau o bortreadau pensil ganddo o’i gefnder R. Glynne Lloyd; taflen gyfrannu at apêl Cronfa Gŵyl Ddewi Plaid Cymru un [1969] a'r neges gan Islwyn Ffowc Elis - 'Dyma’r amser ... '; rholyn: 'The ancient history of the distinguished surname Kenrick', [1993]; a thoriad o’r Tyst yn cynnwys adroddiad am ddadorchuddio plac ar ei gartref Pengwern yn 2010.