Dangos 1388 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur yr Annibynwyr am 1851, gol. gan H. Pugh, o eiddo i Samuel Roberts, Llanbrynmair, yn cynnwys cofnodion cryno, yn bennaf yn Saesneg (tt. 3-55), yn nodi manylion pregethau a darlithoedd, gwaith golygu ac enwau gohebwyr. = Dyddiadur yr Annibynwyr am 1851, ed. by H. Pugh, belonging to Samuel Roberts, Llanbrynmair, containing brief entries, mostly in English (pp. 3-55), recording sermons preached, other engagements, editing work and names of correspondents.

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur yr Annibynwyr am 1861, gol. gan H. Pugh, o eiddo i Samuel Roberts, Scott County, Tennessee, yn cynnwys cofnodion cryno ar gyfer Ionawr 1861-Gorffennaf 1863, yn Saesneg a Chymraeg, yn cynnwys enwau gohebwyr, manylion gwaith ysgrifennu, gwaith fferm a'r tywydd. O Ebrill 1861 ymlaen ceir mynych gyfeiriadau at effeithiau'r Rhyfel Cartref yn lleol ac yn Genedlaethol, a'r anawsterau a thrallodion a ddioddefwyd ganddo a'i deulu o'r herwydd (ff. 9-57 passim). = Dyddiadur yr Annibynwyr am 1861, ed. by H. Pugh, belonging to Samuel Roberts of Scott County, Tennessee, containing brief entries for January 1861-July 1863, in English and Welsh, including names of correspondents, writing and farm work and the weather. From April 1861 there are frequent references to the effects of the Civil War locally and nationally, and the difficulties and tribulations suffered by him and his family as a result (ff. 9-57 passim).
Ceir cofodion 1861 ar ff. 1-27. Mae cofnodion Ionawr 1862-Gorffennaf 1863 ar ddalennau newydd wedi eu mewnosod yn y gyfrol (ff. 28-58). = Entries for 1861 are on ff. 1-27. Entries for January 1862-July 1863 are on new leaves inserted into the volume (ff. 28-58).

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur yr Annibynwyr am 1868, gol. gan J. Davies a W. Williams, o eiddo i Samuel Roberts, yn cynnwys cofnodion cryno yng Nghymraeg a Saesneg (tt. 3-54), yn nodi pregethau a darlithoedd, enwau gohebwyr a'i waith i sefydlu papur newydd Y Dydd. = Dyddiadur yr Annibynwyr am 1868, ed. by J. Davies and W. Williams, belonging to Samuel Roberts, containing brief entries in Welsh and English (pp. 3-54), including preaching and lecturing engagements, names of correspondents and his work establishing the newspaper Y Dydd.
Mae yna amryw gofnodion, cyfrifon a nodiadau (tt. i-ii, 2, 55-56, 105-109, 112, 119-120, 124-125, 128-136 a tu mewn i'r cloriau). = Also contains various memoranda, accounts and notes (pp. i-ii, 2, 55-56, 105-109, 112, 119-120, 124-125, 128-136 and inside the covers).

Dyddiadur S.R.

Y Dyddiadur Annibynol am 1878, o eiddo Samuel Roberts, Conwy, yn cynnwys cofnodion cryno yng Ngymraeg a Saesneg (tt. 9-61). = Y Dyddiadur Annibynol am 1878, belonging to Samuel Roberts, Conwy, containing brief entries in Welsh and English (pp. 9-61).
Mae yna nifer o gyfeiriadau at sefydlu a golygu Y Celt. Hefyd yn cynnwys nodiadau a chofnodion (tt. i, 61-62, 111, 129, 174-176 a tu mewn i'r cloriau). = Contains numerous references to the establishing and editing of Y Celt. Also contains notes and memoranda (pp. i, 61-62, 111, 129, 174-176 and inside the covers).

Dyddiadur S.R.

Y Dyddiadur Annibynol am 1885, gol. gan D. Evans a D. Stanley Davies, o eiddo Samuel Roberts, Conwy, yn cynnwys cofnodion cryno ar gyfer Ionawr-Medi 1885 yng Ngymraeg a Saesneg (tt. 9-45). = Y Dyddiadur Annibynol am 1885, ed. by D. Evans and D. Stanley Davies, belonging to Samuel Roberts, Conwy, containing brief entries for January-September 1885 in Welsh and English (pp. 9-45).

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur yr Annibynwyr am 1852, gol. gan H. Pugh, o eiddo i Samuel Roberts, Llanbrynmair, yn cynnwys cofnodion cryno, yn bennaf yn Saesneg (tt. 3-55), yn nodi manylion pregethau a darlithoedd, gwaith ysgrifennu a golygu ac enwau gohebwyr. = Dyddiadur yr Annibynwyr am 1852, ed. by H. Pugh, belonging to Samuel Roberts, Llanbrynmair, containing brief entries, mostly in English (pp. 3-55), recording sermons preached, other engagements, writing and editing work and names of correspondents.
Mae llythyrau oddiwrth S.R. at Thomas Gee (drafft), [12] Medi 1853, ac oddiwrth Evan Jones, Dolgellau, at S.R., 16 Tachwedd 1852 (Cymraeg), wedi eu tipio mewn ar ddiwedd y gyfrol. = Letters from S.R. to Thomas Gee (draft), [12] September 1853, and from Evan Jones, Dolgellau, to S.R., 16 November 1852 (in Welsh), have been tipped in at the end.

Dyddiadur,

Llyfr nodiadau, 1957-1976, yn eiddo i T. Llew Jones, a ddefnyddiwyd yn achlysurol fel dyddiadur rhwng Tachwedd 1957 a Mawrth 1963 (ff. 1-61), gyda chofnodion unigol ar gyfer 16 Mehefin 1971 a 16 Hydref 1976 (ff. 61 verso-66). Ceir adroddiad, Chwefror-Mawrth 1963, o restiad ac erlyniad Emyr Llewelyn, a gyhuddwyd o danio ffrwydryn yng Nghwm Tryweryn, Bala (ff. 50 verso-61, 63). = Notebook, 1957-1976, of T. Llew Jones, used sporadically as a diary between November 1957 and March 1963 (ff. 1-61), with single entries for 16 June 1971 and 16 October 1976 (ff. 61 verso-66). Included is an account, February-March 1963, of the arrest and prosecution of Emyr Llewelyn, accused of causing an explosion at Cwm Tryweryn, Bala (ff. 50 verso-61, 63).
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Waldo Williams (ff. 2-45 verso passim), a'i gystudd olaf a'i farwolaeth (ff. 61 verso-64), Gwenallt (ff. 6, 52 verso), Proinsias Mac Cana (f. 6 recto-verso), Saunders Lewis (ff. 7 recto-verso), Alun Cilie (ff. 15, 20 verso, 38 verso, 64 verso-65), Cassie Davies (f. 17), Dic Jones (ff. 20 verso, 22), John Alun Jones (ff. 22, 52 verso, 54), W. Rhys Nicholas (ff. 22, 60 verso), Euros Bowen (ff. 29 verso-30 verso), Bobi Jones (ff. 31, 52 verso), Dilwen M. Evans (f. 32 recto-verso), Dewi Emrys (f. 41 verso), W. R. P. George (ff. 51, 58), Gwilym Tudur (f. 56 verso-57), ac Elwyn Jones (ff. 59 verso-60 verso); ceir cyfeiriadau hefyd at gystadlaethau'r Gadair yn Eisteddfodau Cenedlaethol Glyn Ebwy, 1958 (ff. 3 verso-4, 9, 31 verso, 33 verso-36), a Chaernarfon, 1959 (ff. 39 verso-40 verso), sinema symudol yn Nhregroes (ff. 4 verso-5), Cymdeithas Lyfrau Ceredigion (f. 13 recto-verso), cyfarfod Plaid Cymru yn Aberaeron (f. 16 recto-verso), cyfarfod yr Urdd yn Llandysul (f. 17 verso), a barddoniaeth Gymraeg (ff. 29 verso-31).

Dyddiaduron

Dyddiaduron T. Eirug Davies, 1914-1951. Mae dyddiadur 1928 yn cynnwys ychwanegiadau diweddarach fel cerddi gan T. Eirug Davies, 1938-1939, torion o'r wasg am farwolaeth ei wraig yn 1951, nodiadau am hanes lleol Gwernogle, ynghyd â phapurau rhydd [Alun Eirug Davies].

Dyfodol Dyddiol #3,

Cyhoeddwyd / ysgrifennu gan Gorwel Roberts o Benrhyndeudraeth (aelod o fand Bob Delyn a'r Ebillion) a daeth allan adeg Eisteddfod Porthmadog yn 1987. Cynnwys cyfweliad gyda Pat a Dave Datblygu, Dic Ben o 'Elfis Presli' ac erthygl yn erbyn creulondeb i anifeiliaid.

Dylanwadau

Pum sgript deipysgrif ganddi yn y gyfres ‘Dylanwadau’ a ddarlledwyd yn 1994, ynghyd â llyfr nodiadau yn cynnwys y sgriptiau mewn llawysgrif.

Early one morning,

Trefniant o'r alaw 'Early one morning' ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llawysgrif o sgôr, sol-ffa a geiriau.

Edinburgh,

Trefniant a gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Y doethion' gan I. D. Hooson, i'r alaw Edinburgh'.

Edward (Ned) Thomas Edmunds

Deunydd yn ymwneud ag Edward (Ned) Thomas Edmunds, a ymfudodd i'r Wladfa, Patagonia ym 1912 a dod yn brifathro cyntaf ysgol y Gaiman, gan gynnwys cardiau post wedi'u harysgrifio, ffotograffau [?un yn dangos Edward Thomas Edmunds] a choeden deuluol. Gwraig gyntaf Edward Thomas Edmunds oedd Margaret Wilhelmina (Minnie) (née Jones), chwaer Angharad Williams (née Jones), ac mae'n bosib mai ei llaw hi a welir ar gefn y cardiau post (gweler hefyd Cardiau post at Mary Williams dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams - Mary Francis (née Williams), Cerdyn post at Dilys Williams oddi wrth Edward (Ned) Thomas Edmunds, Wilhelmina (Minnie) Edmunds a Ioan Edmunds dan bennawd Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams a Cerdyn post at John Edwal Williams oddi wrth [?Margaret Wilhelmina (Minnie) Edmunds] dan bennawd John Edwal Williams.

Deunydd yn ymwneud â'r Parchedig William Williams (1781-1840) ('Williams o'r Wern'), un o hynafiaid Edward Thomas Edmunds, gan gynnwys llungopi o ysgrif gan Dyfnallt Owen o'i lyfr Ar Y Tŵr (1953) a llungopi o erthyglau o'r wasg. Gweler hefyd y goeden deuluol (a ddisgrifir uchod) yn olrhain perthynas Edward Thomas Edmunds gyda 'Williams o'r Wern'.

Effemera personol

Effemera personol T. Ifor Rees, yn cynnwys trwyddedau teithio (passports); llyfrau cyfeiriadau; tystysgrif aelodaeth The National Geographic Society (1917); tystysgrif diploma oddi wrth Sociedad Geografica Americana Gran Concurso Fotografico (1941); a chalendr ar gyfer 1946 a ddefnyddiwyd fel dyddlyfr ar gyfer mis Mai. Ceir hefyd cywydd gan Dewi Morgan, Aberystwyth ar achlysur priodas T. Ifor Rees ac Elizabeth Phillips (1918).

Canlyniadau 581 i 600 o 1388