Dangos 1388 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Cymdeithas Llyfrau Cymraeg

Deunydd cyhoeddusrwydd yn ymwneud â Chymdeithas Llyfrau Cymraeg Llundain y bu Emlyn Evans yn ysgrifennydd ac yn llywydd arni yn Llundain, torion o'r Faner, 1956, yn ymwneud â changhennau o'r Gymdeithas Lyfrau yng Nghymru, a phapurau cyffredinol.

Cylchlythyrau a.y.b.

Cylchlythyrau yn ymwneud â Lesotho a deunydd printiedig arall, gan gynnwys pecyn Dolen Cymru yn cynnwys copïau o lythyrau King Moshoeshoe II at Nelson Mandela a F. W. de Klerk, ac o anerchiad gan General Lekhyana yn nodi diwedd apartheid yn Ne Affrica, Chw. 1990; Gŵyl Feithrin Mudiad Ysgolion Meithrin 1991 ar y thema 'Ffrindiau'; Dr Mosebi Damane, 'Moshoeshoe's application of international law and diplomacy in southern Africa' (19eg ddarlith goffa Moshoeshoe), 1992; llyfryn ar 'Morena Moshoeshoe I, mothehi oa sechaba sa Basotho = the founder of the Basotho nation', 1995; adroddiad blynyddol Uchel Gomisiwn Lesotho Llundain, 2007/08; a rhaglen ar gyfer dathliadau pen-blwydd 46 oed y Brenin Letsie III, 2009.

'Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru', J. Lloyd Williams (xiv)

Mae’r ffeil yn cynnwys un bocs cardiau mynegai glas (ff. 1-119) gan Merêd, gydag ystadegau ynghylch ffynonellau caneuon / alawon yng Nghylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru [I-IV: (i)] yn ystod golygyddiaeth John Lloyd Williams. Trefnwyd fesul Cyfrol I-IV i fyny at Cyfrol IV Rhan 1 sef y rhifyn olaf a olygwyd gan J Lloyd Williams. Ceir cyfeiriadau at ganorion (e.e. John Morris a R. E. Vaughan), unigolion (e.e. Grace Gwyneddon Davies, Ruth Lewis, J Lloyd Williams a Phillip Thomas) a chasgliadau.

Cyhoeddiadau cynadleddau

Cynigion i'r gynhadledd, 1978, penderfyniadau, 1984 (gyda nodiadau Dafydd Williams), 1987 a 1990, standing orders, [post 1984], rhaglenni cynadleddau 1977, 1994-1996, 2000-2001 a 2004, taflen Cynhadledd Wanwyn, 2002, a chynnigion a gwelliannau, 2003.

Cyhoeddiadau amrwyiol

Cyhoeddiadau, yn bennaf pamffledi ar gyfer cyrchfannau twristiaid Lesotho, hefyd cardiau post, buddsoddiad busnes ac ati.

Cyhoeddiadau amrwyiol

Cyhoeddiadau o Lesotho ac am Lesotho, gan gynnwys pecynnau gwybodaeth a chanllawiau Dolen Cymru ar gyfer busnesau, eglwysi a thwristiaid, c.1980-c.1989; rhaglen Gŵyl Elái, gan gynnwys perfformiad gan Gôr Athrawon Maseru, 1988; a thaithlyfr i eglwys plwyf Welshampton, Swydd Amwythig, gan gynnwys bedd Jeremiah Libopuoa Moshoeshoe (bu f. 1863), [ar ôl 1999].

Cyfrifiadau

Allbrintiadau o gyfrifiadau 1871 a 1891 yn dangos manylion teulu David (Dafydd neu Dafi) a Martha Williams, rhieni John Edwal Williams. Erbyn cyfrifiad 1891 'roedd John Edwal wedi gadael cartref ac ni chynhwysir ei enw ar y cyfrifiad.

Cyfrifiad

Allbrint o gyfrifiad 1911 yn dangos manylion teulu Waldo Williams, a oedd ar y pryd yn byw yn Nhŷ Ysgol Prendergast, Hwlffordd, lle 'roedd John Edwal Williams, tad Waldo, yn brifathro. Mae'r cofnodion yn dangos fod y teulu bellach yn gyflawn ac mai Saesneg oedd iaith pob un o'r plant.

Cyflythreniad

Darn ar gyflythreniad, [c. 1824], gan Samuel Roberts. Ysgrifenwyd o bosib fel rhan o'r traethawd 'Ardderchawgrwydd yr Iaith Gymraeg' ar gyfer Eisteddfod Powys 1824, ond nid yw y testun yn rhan o'r traethawd cyhoeddiedig, gweler Samuel Roberts, Dau Draethawd (Caernarfon, 1834). = A fragment on alliteration, [c. 1824], written by Samuel Roberts. It was possibly written as part of an essay entitled 'Ardderchawgrwydd yr Iaith Gymraeg' for Powys Eisteddfod 1824, although it is not part of the printed version, see Samuel Roberts, Dau draethawd (Caernarfon, 1834).

Cyfleusterau anabl; arwyddion; ysgoloriaethau; tiwtoriaid; cyrsiau; pamffledi a llyfrynnau; yr Eisteddfod Genedlaethol; Y Panel Iaith; datganiadau i'r wasg

Gohebiaeth a phapurau, 1986-1988, yn ymwneud â nifer o faterion a digwyddiadau yn y Nant, yn cynnwys trafod cyfleusterau anabl (1988); arwyddion (1986); ysgoloriaethau (1987); tiwtoriaid (1987); cyrsiau preswyl (1987); cyrsiau dyddiol (1987); deunydd cyrsiau (1987); pamffledi a llyfrynnau (1987), yn cynnwys tri ffotograff; eisteddfod Genedlaethol (1987-1988); cynlluniau adeilad (1987); deunydd marchnata (1988), yn cynnwys tri ffotograff; Y Panel Iaith (1986-1988); dyddiadau agored (1987-1988); datganiadau i’r wasg (1986-1987); a nawdd (1986-1988).

Cyffredinol

Llythyrau amrywiol a phapurau eraill, gan gynnwys yn ymwneud â phriodas y Brenin Letsie III; cau cyfleuster y Cyngor Prydeinig yn Maseru, a phosibilrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cefnogi ei llyfrgell, Rhag.; a thrafodaethau gyda'r Westminster Foundation.

Cyffredinol

Llythyrau amrywiol a phapurau eraill, gan gynnwys rhaglen ar gyfer ymweliad dirprwyaeth seneddol Lesotho â Chymru, Chw.; cyllid LlCC ar gyfer cyfarwyddwr datblygu, Chw.; cynhadledd undydd a drefnwyd gan Dolen Cymru, 'Ysbryd cyfeillgarwch', Mawrth; adroddiad am ymweliad Dafydd Owen â Lesotho, Meh.; derbynneb am Dlws Sefydliad y Merched am y pabell ar faes gorau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Awst; dyddiadur ymweliad â Lesotho gan Dyfan Jones, cyfarwyddwr datblygu Dolen Cymru, Awst; a dyddiadur (yn Gymraeg) taith feicio Lesotho gan Jenny Pye, Medi.

Cyffredinol

Llythyrau amrywiol a phapurau eraill, gan gynnwys taith taith feicio yng Nghymru ac Iwerddon, Mehefin-Gorffennaf; cais Dolen Cymru i raglen grantiau rhyngwladol y Gronfa Gymunedol, Awst; a dyddiadur dirprwyaeth is-bwyllgor Dolen Cymru yn ymweld â Lesotho, Medi-Hydref.

Canlyniadau 961 i 980 o 1388