Showing 1284 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Sylwadau'r cynghorydd Seimon Glyn

Papurau ynglyn a sylwadau y Cynghorydd Seimon Glyn ar Radio Cymru yn 2001 am fewnfudo o Leogr i Gymru gan gynwys llythyron at Ieuan Wyn Jones am y sylwadau, papurau a gohebiaeth mewnol a thorrion y wasg.

Syr Henry Jones

Coeden deulu Syr Henry Jones, brawd John Jones, tad Angharad Williams (née Jones), a luniwyd - yn ôl nodyn [yn llaw David Williams, nai Waldo a gor-nai Angharad] ar ymyl y ddalen gefn - gan Jean Ware (bellach Hunt, ganed Jones) (a oedd, yn ôl tystiolaeth y goeden deulu, yn wyres i Syr Henry Jones); ynghyd â gwybodaeth bellach ynghylch ŵyrion, gor-ŵyrion a gor-gor-ŵyrion Syr Henry Jones yn llaw Jean Ware (am Jean Ware, gweler Llythyr at Dilys Williams oddi wrth Jean Hunt dan bennawd Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams).

Erthygl a llun wedi'u llungopïo yn ymwneud ag Amgueddfa Syr Henry Jones yn Llangernyw, Conwy. Addaswyd Cwm, cartref teuluol Syr Henry Jones, yn amgueddfa er mwyn olrhain ei fywyd a'i waith cyntaf fel prentis i'w dad Elias Jones, a oedd yn grydd wrth ei alwedigaeth. Ceir arysgrif [yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai Angharad] ar frig yr erthygl, sy'n cynnwys cyfeiriad at Jean Ware (bellach Hunt, ganed Jones).

Llungopi o erthygl am Syr Henry Jones a ymddangosodd yn Y Glannau, papur bro ardal Y Rhyl a'r cylch, gwaelod Dyffryn Clwyd a Llanelwy, Sir Ddinbych. Sonnir am rai aelodau o deulu Angharad, a hefyd am y cywydd coffa ysgrifennodd ei mab, Waldo Williaims, iddi (am y cywydd coffa, gweler hefyd Llythyrau at Dilys Williams oddi wrth Elias, Bont Faen, Llangernyw a Llythyr at Dilys Williams oddi wrth Jean Hunt, ill dau dan bennawd Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams). Cynhwysir y cywydd coffa 'Angharad' yn Dail Pren (1956), unig gyfrol farddoniaeth gyhoeddiedig Waldo Williams.

Rhaglen ddigwyddiadau i ddathlu Ail-Agor Amgueddfa'r Cwm a lansio'r gyfrol Yr Athro Alltud dan nawdd Ymddiriedolaeth Cofeb Syr Henry Jones.

T. Eirug Davies, 1892-1951: portread mewn llun a gair

Papurau yn ymwneud â’r gyfrol T. Eirug Davies, 1892-1951: portread mewn llun a gair wedi'i golygu gan Alun Eirug Davies yn 2008, gan gynnwys copi teipysgrif gyda chywiriadau a chardiau mynegai yn cynnwys ei nodiadau ymchwil. Ceir hen ffotograffau gwreiddiol, rhai newydd a deunydd a atgynhyrchwyd.

T. Gwynn Jones

Llawysgrif Llyfr Nia fach a’r copi printiedig a gyhoeddwyd yn 1932, caneuon a gyfieithiwyd gan T. Gwynn Jones, ynghyd ag adroddiad John Eilian ar angladd y llenor yn Y Cymro, 1949.

Jones, T. Gwynn (Thomas Gwynn), 1871-1949

Taflen briodas a phapurau eraill

Taflen briodas Eirlys Rees Owen a'r Parchedig Islwyn Foulkes Ellis, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Rhoslefain, Towyn, 28 Hydref 1950; llungopïau o bortreadau pensil ganddo o’i gefnder R. Glynne Lloyd; taflen gyfrannu at apêl Cronfa Gŵyl Ddewi Plaid Cymru un [1969] a'r neges gan Islwyn Ffowc Elis - 'Dyma’r amser ... '; rholyn: 'The ancient history of the distinguished surname Kenrick', [1993]; a thoriad o’r Tyst yn cynnwys adroddiad am ddadorchuddio plac ar ei gartref Pengwern yn 2010.

Taflen wasanaeth angladdol Waldo Williams

Taflen wasanaeth angladdol Waldo Williams, 24 Mai 1971, sy'n cynnwys teyrnged gan gyfaill Waldo, y bardd a'r athro Jâms (James) Nicholas, emyn o waith Waldo ei hunan, ac egwyl o ddistawrwydd yn ôl arferiad y Crynwyr. Bu farw Waldo ar yr 20fed o Fai 1971 a'i gladdu gyda'i wraig Linda a'i rieni ym mynwent Capel y Bedyddwyr Blaenconin, Llandysilio, Sir Benfro, lle priodwyd Waldo a Linda ychydig dros ddeg mlynedd ar hugain ynghynt.

Taflenni etholiadol

Taflenni Rhun ap Iorwerth, ymgeisydd Plaid Cymru yn isetholiad Ynys Môn i'r Cynulliad, 1 Awst 2013; taflenni Jill Evans, Aelod Senedd Ewrop dros Gymru, gan gynnwys taflen etholiad 22 Mai 2014, ac adroddiad 2014/15; a thaflenni Plaid Cymru a Phlaid Llafur am isetholiad ward Plasnewydd i Gyngor Caerdydd, 20 Medi 2016.

Taflenni, posteri a chylchlythyrau

Taflenni, posteri a chylchlythyrau'n ymwneud ag amryw etholiad ac ymgyrch. Hefyd, dalennau o sticeri Plaid Cymru, g.g. 'Stop the war = Dim rhyfel' a 'Senedd nawr!' / 'Parliament now!'.

'Tafodieithoedd'

Papurau a gohebiaeth, 1989, yn ymwneud â nawfed Fforwm y Ganolfan, ‘Tafodieithoedd’, yn cynnwys rhaglen; rhestr o fynychwyr; slipiau ateb; rhestr o aelodaeth Cylch Astudiaethau Tafodieithol Urdd y Graddedigion; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth Morfydd E. Owen; R. Geraint Gruffydd; Llinos Young; Richard Crowe; a Peter Wynn Thomas.

Teithio a Thrafnidiaeth

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, nodiadau, a phapurau, 1989-1999, yn ymwneud â pholisïau iaith cwmnïau a gwasanaethau trafnidiaeth amrywiol. Mae’r rhan fwyaf o’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a nodiadau yn trafod polisi iaith Maes Awyr Caerdydd, yn cynnwys llythyrau oddi wrth sawl Aelod Seneddol Cymraeg; Aelodau Seneddol Ewropeaidd; Yr Arglwydd Prys-Davies; y cwmni TBI Airport Holdings; a gohebiaeth ar y mater yn gysylltiedig â’r papur Cymraeg Americanaidd, Ninnau. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys gohebiaeth a datganiadau i’r wasg yn ymwneud â pholisïau iaith sawl cwmni trafnidiaeth.

Teyrngedau i Waldo Williams

Toriadau papur newydd yn dwyn teyrngedau i Waldo Williams yn dilyn ei farwolaeth ar 20fed o Fai 1971, gan gynnwys teyrngedau ar ffurf barddoniaeth gan ei gyfeillion Euros Bowen a W. R. (William Rees) Evans.

Results 1121 to 1140 of 1284