Dangos 59614 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

42 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Ysgrif - 'Gurnos'

Tri chopi llawysgrif o'r ysgrif 'Gurnos', [1903x1943]; un a oedd yn fuddugol yn Eisteddfod Treorci yn 1924, un a gyflwynwyd i Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1943, ynghyd â fersiwn arall o'r ysgrif ar dudalennau rhydd, heb ddyddiad arno.

Ysgoloriaeth Cronfa Goffa Paolo Pistoi

Papurau a gohebiaeth, 1985-1989, a 1991; yn ymwneud â gwobr Ysgoloriaeth Cronfa Goffa Paolo Pistoi, ar gyfer prosiect ymchwil yn ymwenud ag un o ieithoedd diwladwriaeth Ewrop, yn cynnwys ceisiadau am yr ysgoloriaeth (1987-1988, a 1991); adroddiadau derbynwyr (1988-1989); canllawiau ymgeisio (1987-1988); rhestr o gyfranwyr (1986); copi o weithred Ymddiriedolaeth yr Ysgoloriaeth (1985); a llythyrau cysylltiedig yn trafod yr ysgoloriaeth (1987-1989, a 1991), oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Ned Thomas; Luca Facta; Mafalda Stasi; Janet Davies; Begoña Olaizola; Liz Saville; G.L. Williams; Bobi Jones; Jeremy Turner; Michael Hornsby; ac Emyr Davies.

'Ysgolion Cymraeg'

Papurau, [1943]-1963, yn ymwneud ag Ysgolion Cymraeg yn gyffredinol, gan gynnwys enghreifftiau o ymarferion iaith a gramadeg ac arholiad darllen a deall, 1943, papur iaith Cymraeg, Nadolig 1947, a barddoniaeth a gyflwynwyd i ddisgyblion yr Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth; rhifyn o Yr Aelwyd, Ionawr 1950, yn cynnwys erthygl 'Ffarwelio â Miss Norah Isaac'; papurau'n ymwneud ag Undeb Rhieni Ysgolion Cymraeg, 1952-1957, a'r cyfansoddiad a 'Memorandwm ar Gynllun Addysg Sir Aberteifi a lle arbennig yr "Ysgolion Cymraeg" yn y cynllun hwnnw', cyflwynedig i Awdurdod Addysg Sir Aberteifi gan Bwyllgor Gwaith Cwmni Urdd Gobaith Cymru, 1950; adroddiad Arolygwyr eu Mawrhydi, 1948, ar yr Ysgol Gymraeg, ac erthygl o'r Faner, 1949, yn cynnwys adroddiad 'Clod arolygwyr i Ysgol Gymraeg'.

Davies, Cassie, 1898-1988

Canlyniadau 281 i 300 o 59614