Dangos 60056 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

42 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

[William Edward Williams] 'Gwilym Rhug', Bae Colwyn,

Mae'r Orsedd yn ymgynghori â gwyr amlwg ym mywyd Cymru sydd y tu allan i'r Orsedd i weld y modd gorau i sicrhau eu cydweithrediad er mwyn ehangu gwasanaeth a dylanwad yr Orsedd fel gallu cenedlaethol. Penderfynodd yr Orsedd godi Pwyllgor Arbennig a chael nifer cyfatebol o Gymry amlwg i'w cyfarfod mewn cynhadledd. Cynhelir hon ar 17 Ionawr 1930 yn Amwythig a gwahoddir W. J. Gruffydd i fod yno. Rhestrir swyddogion yr Orsedd. Ni thrafodir cyfansoddiad yr Orsedd, ei phasiant na'r defodau cysylltiol. Cylchlythyr teipiedig.

[William Edward Williams] 'Gwilym Rhug', Bae Colwyn,

Diolch am ei ymateb i'r llythyr blaenorol [894 uchod] ac am ei awgrym amserol. Amgaeir rhestr o'r personau o'r tu allan i'r Orsedd. Gan fod 17 Ionawr yn anhwylus i rai, a fyddai 10 Ionawr yn hwylusach? Trefnir y cyfarfod am 2.30 p.m. Rhestr o bedwar enw ar ddeg a wahoddwyd i'r gynhadledd yn Amwythig. Cylchlythyr teipiedig.

William E. Roberts,

Lerpwl. Dilynodd awgrym Carneddog iddo ofyn i W. H. Roberts ynglyn ag awdur "Wil Philip" - sef Brynfab, Brynsiencyn. Wedi ceisio ysgrifennu ato ond heb gael ateb felly gofyn cymorth Carneddog eto.

William Davies,

X.L. Stores, Llangollen. Gofyn am y copi o Cerddi Eryri yr oedd wedi ei archebu yr wythnos cynt. Saesneg/English.

William Davies,

Pen-y-banc, Llanegryn. Tynnu sylw Carneddog at gamgymeriad yn ei lythyr olaf.

W[illiam] A[led] Roberts,

Wimbledon, Llundain. Gofyn a thalu am gopi o'r gyfrol O Greigiau'r Grug. Amgau atgofion am Gurnos (yn eisiau) ar gyfer y 'Manion'. Sôn am ei ddiddordeb yn y Gymraeg.

William a Laura Griffith,

Hillside, 4 Gwynant St., Beddgelert. Dymuno i Garneddog nodi yn ei golofn eu bod yn briod ers hanner can mlynedd.

Canlyniadau 3241 i 3260 o 60056