Showing 247 results

Archival description
Only top-level descriptions fonds
Print preview View:

Papurau Cymdeithas Cymry Wallasey,

  • GB 0210 CYMSEY
  • fonds
  • 1943-1992 /

Cofnodion Cymdeithas Cymry Wallasey, 1943-1992, yn cynnwys llyfrau cofnodion,1944-1992; cyfriflyfrau, 1943-1992; llyfrau cyfeiriadau, 1956-1992; a gohebiaeth, 1973-1980; cofnodion a chyfrifon Aelwyd Wallasey, 1948-1967; a chofnodion Undeb Eglwysi Cymraeg Wallasey, 1952-1973 = Records of Cymdeithas Cymry Wallasey, 1943-1992, including minute books, 1944-1992; account books, 1943-1992; address books, 1956-1992; and correspondence, 1973-1980; minutes and accounts of 'Aelwyd' Wallasey, 1948-1967; and records of Undeb Eglwysi Cymraeg Wallasey, 1952-1973.

Cymdeithas Cymry Wallasey.

Papurau E. G. Millward,

  • GB 0210 MILLWARD
  • fonds
  • 1959-1976 /

Papurau gwleidyddol E. G. Millward, 1959-1976, yn cynnwys deunydd yn ymwneud â'r economi Gymreig, 1966-1969; etholiadau cyffredinol, 1959-1974; gohebiaeth Grŵp Ymchwil Plaid Cymru ar Amaethyddiaeth, 1966-1970; papurau'n ymwneud ag Etholiad Cyffredinol 1970; cofnodion yn ymwneud â chyhoeddiadau Plaid Cymru, 1966-1970; papurau a thorion papur newydd yn ymwneud â'r economi a swyddi yng Nghymru, 1959-1976; papurau'n ymwneud â'r iaith Gymraeg, 1967-1981; a gohebiaeth a phapurau cyffredinol, 1969-1976 = Political papers of E. G. Millward, 1959-1976, including papers relating to the Welsh economy, 1966-1969; general elections, 1959-1974; correspondence of the Plaid Cymru Research Group relating to farming, 1966-1970; papers relating to the General Election 1970; records relating to Plaid Cymru publications, 1966-1970; papers and newspaper cuttings relating to the economy and to employment in Wales, 1959-1976; papers relating to the Welsh language and education, 1967-1981; and correspondence and general papers, 1969-1976.

Millward, E. G. (Edward Glynne), 1930-

Papurau'r Parch. W. J. Griffiths,

  • GB 0210 GRIFFWJ
  • fonds
  • 1880-1991/

Papurau amrywiol,1880-1991, a gasglwyd gan y Parch. W. J. Griffiths, yn ymwneud gan mwyaf ag enwad yr Annibynwyr yng Nghymru. Maent yn cynnwys hanes printiedig capel Seion, y Golch, Chwitffordd, sir y Fflint; gohebiaeth a phapurau'n ymwneud â chysylltiad y rhoddwr â'r mudiad dirwestol yng ngogledd Cymru; gohebiaeth a phapurau'n ymwneud â Chyngor Eglwysi Rhyddion Llanelli,1986-1990; amryw ysgrifau diwinyddol ar fedydd, safonau moesol, proffwydoliaeth etc.; llyfrau nodiadau a phregethau'r Parch. Cornelius Griffiths (1829-1905); a phapurau'n ymwneud â'r Parch. David Rees (1804-85) = Miscellaneous papers, 1880-1991, collected by Rev. W. J. Griffiths, relating mainly to the Independent denomination in Wales. They include a printed history of Seion chapel, y Golch, Whitford, Flintshire; correspondence and papers relating to the donor's involvement with the temperance movement in north Wales; correspondence and papers concerning the Council of Free Churches at Llanelli, 1986-1990; various theological essays on baptism, moral standards, prophecy etc.; notebooks and sermons of Rev. Cornelius Griffiths (1829-1905); and papers relating to Rev. David Rees (1804-85).

Y Parch. W. J. Griffiths

CMA: Cofysgrifau Eglwys Bethania, Bargoed,

  • GB 0210 BETHBARG
  • fonds
  • 1876-1971 /

Cofysgrifau Eglwys Bethania, Bargoed, yn cynnwys llyfr cofnodion, 1903-1951; cofnodion ariannol, 1876-1971; a phapurau cynnar, 1876-1881, yn ymwneud â sefydlu'r Eglwys, gan gynnwys hanes yr Eglwys, gohebiaeth a chofnodion y cyfarfod cyntaf.

Bethania (Church : Bargoed, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Tabernacl, Blaengarw,

  • GB 0210 TABACL
  • fonds
  • 1924-2001 /

Y mae'r archif yn cynnwys cofnodion pwyllgorau Eglwys Tabernacl, Blaengarw, 1925-1977, ynghyd â chyfrifon ariannol, 1924-1981, llyfrau casgliadau ariannol, 1945-1992, a llyfrau'r eisteddleoedd, 1925-2001.

Eglwys Tabernacl (Blaengarw, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Libanus, Y Borth

  • GB 0210 LIBORT
  • fonds
  • 1895-1958

Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion a chyfrifon yr eglwys, 1895-1958, llyfr ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1933-1941, a chofnodion y Gymdeithas Ddrama, 1948-1953.

Eglwys Libanus (Borth, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Bethania, Aberdâr,

  • GB 0210 BETDAR
  • fonds
  • 1860-1970 /

Cofysgrifau Capel Bethania, Aberdâr, yn cynnwys llyfrau cofnodion, 1922-1966; cofnodion ariannol, 1860-1970; ac ystadegau'r Capel, 1898-1932.

Bethania (Church : Aberdare, Wales).

CMA: Cofysgrifau Moriah, Llanbedr

  • GB 0210 MORLLA
  • fonds
  • 1914-1927

Mae'r fonds yn cynnwys llyfr cyfrifon Capel Moriah, Llanbedr, sir Feirionnydd, yn cofnodi cyfraniadau, 1914-1927, at y gost o adeiladu'r capel newydd.

Moriah (Church : Llanbedr, Merioneth, Wales).

Papurau'r Parch E R Williams, Patagonia,

  • GB 0210 ERIAMS
  • fonds
  • 1933-1951 /

Papers of E. R. Williams, mainly relating to chapels , schools and eisteddfodau in Patagonia, 1933-1951, and papers of Elizabeth Jeane Roberts Williams, mainly school notebooks, 1945-1949.

Williams, Elizabeth Jeane Roberts.

CMA: Cofysgrifau Capel Elim, Tir-y-dail,

  • GB 0210 TIRYDAIL
  • fonds
  • 1902-2003 /

Cyfrolau o gyfrifon ariannol, cofrestr bedyddiadau, ffeil o bapurau'r ysgrifennydd, llyfrau yn nodi cyfraniadau'r aelodau, ac adroddiadau blynyddol Capel Elim (MC), Tir-y-dail, Rhydaman, 1902-2003.

Nantlais, 1874-1959.

Papurau Ymchwil Dr David Jenkins, Penrhyn-coch,

  • GB 0210 DAVJEN
  • fonds
  • 1913-2001(crynhowyd [1949x1973]-2001) /

Llythyrau, 1959-[1998], yn ymwneud â bywyd cyhoeddus Dr David Jenkins, a gwaith ymchwil, 1913-2001, yn ymwneud â'i gyhoeddiadau Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Dinbych, 1973) a Bro a Bywyd Thomas Gwynn Jones [Caerdydd, 1984]. Ceir drafftiau teipysgrif hefyd o'i lyfr arfaethedig ar hanes Gwasg Gregynog, [1962]-2001. Cafwyd bocs ychwanegol o bapurau, Mawrth 2012. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto. = Letters, 1959-[1998], relating to David Jenkins's public duties, and research work, 1913-2001, relating to his publications Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Denbigh, 1973) and Bro a Bywyd Thomas Gwynn Jones [Cardiff, 1984]. Typescript drafts of his proposed book on the history of Gregynog Press, [1962]-2001, are also included. A further box of papers, received March 2012, is not yet catalogued.

Jenkins, David, 1912-2002

CMA: Cofysgrifau Capel Pentyrch

  • GB 0210 PENTYR
  • fonds
  • 1948

Tystysgrif er mwyn cofrestru priodasau ar gyfer Capel Methodistiaid Calfinaidd Pentyrch, Llanfair Caereinion, 1 Rhagfyr 1948.

Capel Pentyrch (Llanfair Caereinion, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Aberfan,

  • GB 0210 ABRFAN
  • fonds
  • 1892-1988 /

Cofysgrifau Capel Aberfan, yn cynnwys llyfrau'r Trysorydd, 1892-1988; tair cyfrol yn cynnwys cyfraniadau tuag at y Weinidogaeth, 1897-1981; cyhoeddiadau Sabothol, 1917-1958; cofnodion y Blaenoriaid, 1947-1976; cofrestr genedigaethau, bedyddiadau a marwolaethau, 1964-1971; cofrestr yr Ysgol Sul, 1926-1959; a chofnodion yr Ysgol Sul, 1925-1948.

Capel Aberfan (Aberfan, Wales)

Papurau William Rowland,

  • GB 0210 WILAND
  • fonds
  • 1910-1980 /

Papurau William Rowland (1910-1980,yn cynnwys nodiadau ar lenyddiaeth Gymraeg a chaneuon gwerin ar gyfer amrywiol sgyrsiau a darlithoedd,[1960au]; sgriptiau radio a nodiadau cysylltiedig, 1937-1950; llythyrau,1919-1980; papurau personol, yn cynnwys cytundebau hawlfraint,1910-1955; rhaglenni a thaflenni,1930-1980; a chyfnodolion a thorion papur newydd, 1932-1980 = Papers of William Rowland, 1910-1980, including notes on Welsh literature and folk songs and notes for various talks and lectures, [1960s]; radio scripts and accompanying notes, 1937-1950; letters, 1919-1980; personal papers, including copyright agreements, 1910-1955; programmes and leaflets, 1930-1980; and periodicals and newspaper cuttings, 1932-1980.

Rowland, William, 1887-1979

CMA: Cofysgrifau Capel Seion, Capel Seion, Ceredigion

  • GB 0210 CAPSEI
  • fonds
  • 1874-1986

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau'r Ysgol Sul, 1874-1923, a chofnodion amrywiol yn ymwneud â'r capel a gweithgareddau'r aelodau, 1891-1986.

Daeth dau focs ychwanegol o bapurau amrywiol yn perthyn i'r capel i law, Chwefror 2009 a Mehefin 2010, ac un ffeil mis Hydref 2012. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto.

Llyfr cyfrifon, 1921 a 1971; heb ei chatalogio.

Capel Seion (Capel Seion, Ceredigion, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Ffestiniog

  • GB 0210 ENGFFE
  • fonds
  • 1881-1948

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau yn ymwneud â materion ariannol y capel, yr ochr weinyddol a'r Ysgol Sul. Ceir llyfr yr eisteddleoedd, 1881-1945, llyfrau casgliad y Weinidogaeth, 1881-1948, llyfrau aelodaeth yr eglwys, 1887-1948, llyfr y Trysorydd, 1888-1930, cofrestri'r Ysgol Sul, 1911-1946, a llyfr Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1939-1948, yn eu plith.

Eglwys Engedi (Ffestiniog, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Salem, Pwllheli,

  • GB 0210 SALPWLL
  • fonds
  • 1910-1987 /

Cofysgrifau Eglwys Salem, Deneio, Pwllheli, yn cynnwys cofnodion ariannol amrywiol, 1910-1977; llyfrau casgliad y weinidogaeth, 1927-1975; cofnodion gweinyddol, 1915-1987; a chofnodion yr Ysgol Sul, 1913-1939.

Salem (Church : Pwllheli, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Ebenezer, Y Tymbl,

  • GB 0210 EBTYMBL
  • fonds
  • 1907-1999 /

Cofysgrifau Capel Ebenezer, Y Tymbl, sir Gaerfyrddin, gan gynnwys llyfrau cofrestri'r eglwys, sef Llyfr Cofrestr Eglwysig, 1949-1957; cofrestr bedyddiadau, 1923-1992; llyfr o dystysgrifau claddfa'r Capel, 1910-1983; a llyfr Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, [ c. 1960]-[c. 1970]; ynghyd â llyfryn llythyron aelodaeth, 1977-1999. Ceir hefyd gofysgrifau ariannol, yn cynnwys llyfrau cyfrifon y Capel, 1932-1996; a'r Ysgol Sul, 1952-1967; a llyfrau cyfrifon y casgliadau ariannol wythnosol tuag at y Weinidogaeth, [c. 1937]-1963 a 1985-1995. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys llyfr o bregethau Abergeirw, 1907.

Capel Ebeneser (Tumble, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Siloh, Rhydymain,

  • GB 0210 SILRHY
  • fonds
  • 1972-2004 /

Cofysgrifau yn perthyn i Eglwys Siloh, Bryncoedifor, Rhydymain, Meirionnydd, gan gynnwys llyfr cyfrifon, 1972-1984; a llyfr cofnodion cyfarfodydd, 1972-2004, sydd hefyd yn cynnwys manylion am fedyddiadau a llyfryn hanes yr achos, 1874-1974.

Eglwys Siloh (Rhydymain, Wales)

Cofnodion Cymdeithas Cymru-Ariannin,

  • GB 0210 CYMARIAN
  • fonds
  • 1931-1997/

Papurau cyffredinol a gohebiaeth,1957-1976, yn cynnwys rheiny yn ymwneud ag ymweliad Kyffin Williams â Phatagonia ym 1968 ac ymweliadau gan eraill wedi hynny, gohebiaeth, 1968-1976, ynghylch trefniadau i fyfyrwyr o Batagonia fynychu Coleg Harlech, gohebiaeth weinyddol cyffredinol, 1958-1975, a thorion o'r wasg,1959-1976. Ceir hefyd llyfrau cofnodion a chofnodion rhydd, 1965-1997; llythyrau,1965-1980, yn ymwneud â chynnal eisteddfodau a gweithgaredd llenyddol Y Wladfa; deunydd ynghylch dathlu deucanmlwyddiant sefydlu'r Wladfa ym 1865; a phapurau amrywiol, 1931-1996, yn cynnwys cylchlythyrau ac adroddiadau blynyddol y gymdeithas = General papers and correspondence, 1957-1976, including some relating to Kyffin Williams's visit to Patagonia in 1968, and subsequent visits by others, correspondence, 1968-1976, relating to arrangements for students from Patagonia to attend Coleg Harlech, general administrative correspondence, 1958-1975, and press cuttings, 1959-1976. There are also minute books and loose minutes, 1965-1997; letters, 1965-1980, relating to applications for grants; papers, 1946-1980, relating to the holding of eisteddfodau and the literary activity of Y Wladfa; material concerning the celebration of the bi-centenary of the establishment of Y Wladfa in 1965; and miscellaneous papers, 1931-1996, including stray circulars and pamphlets and annual reports of the society.

Papurau ychwanegol Cymdeithas Cymru - Ariannin, gynt Cymdeithas Cymry Ariannin, yn cynnwys gohebiaeth, cofnodion a phapurau eraill. Hefyd, caniatawyd y Llyfrgell i drosi'n rhodd y papurau a dderbyniwyd ar adnau yn y Llyfrgell yn 1976 a 1978 (gweler Adroddiad Blynyddol 1976-77, t. 66, a 1977-78, t.71) = Additional records of the Welsh Argentine Society ("Cymdeithas Cymru - Ariannin", formely "Cymdeithas Cymry Ariannin"), including correspondence, minutes and other papers. The Library has also been allowed to convert into a donation the papers placed on a deposit at the Library in 1976 and 1978 (see Annual Report 1976-77, p. 66, and 1977-78, p.71)

Papurau ychwanegol Cymdeithas Cymru - Ariannin, yn cynnwys cynnyrch a beirniadaeth cystadlaethol rhif 176 yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanelli a'r Cylch, 2000, i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes, a hefyd deunydd a grewyd ar gyfer "Cystadleuaeth y Wladfa" yn Eisteddfod Tŷ Ddewi, 2002.

Cymdeithas Cymry Ariannin.

Results 21 to 40 of 247