Showing 309 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Sub-fonds Welsh
Print preview View:

Rhodd 2019

Sgriptiau, 1931-2010, rhaglenni radio a theledu'r BBC a ddarlledwyd - neu yr oedd bwriad i'w darlledu - yng Nghymru. Mae'r sgriptiau yn ymwneud ag ystod eang o bynciau yn cynnwys newyddion, drama, adloniant ysgafn, cerddoriaeth, chwaraeon, crefydd, addysg a rhaglenni ar gyfer plant.

Mae rhai o'r sgriptiau yn cynnwys iaith a syniadau a allai beri tramgwydd i ddarllenwyr modern.

BBC Wales

Adneuon 1960-1998

Sgriptiau a chopïau o sgriptiau, yn Gymraeg a Saesneg, yn cynnwys: sgyrsiau, 1937-1975; dramâu, 1937-1975; rhaglenni nodwedd, 1937-1975; sgyrsiau nodwedd, 1938-1975; Awr y Plant (sgyrsiau; storiâu, dramâu a rhaglenni nodwedd; ac amrywiol), 1932-1974; ysgolion,1935-1975; Good Morning Wales, 1970-1975; storiâu, 1970-1975; cerddoriaeth,1937-1975; crefydd,1943-1975; rhaglenni chwaraeon,1972-1975; cyfres wreiddiol o sgriptiau y BBC yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1935-1977; Wales Today, 1972-1998; Heddiw, 1971-1982; a Pobol y Cwm, 1991-1998.

BBC Wales

Papurau unigolion ac amrywiol

U 1-7: Papurau, c.1940au-90au, o eiddo Nans Jones, 7 Melrose Avenue, Pen-y-lan, Caerdydd, aelod teryngar o Blaid Cymru ac, am gyfnod maith, cyfrifydd a threfnydd Adran Merched y Blaid. Trosglwyddwyd nifer o luniau i Adran y Darlunau a'r Mapiau [199800411]. (Adnau C1998/15).

Papurau gwleidyddol

Mae'r grŵp yn cynnwys papurau am Blaid Cymru, 1966-1969, yn arbennig papurau'n ymwneud ag etholiadau ac â'r arwisgiad, a gohebiaeth â Gwynfor Evans, Aelod Seneddol Caerfyrddin, 1966-1970; 1974-1979.

Evans, Gwynfor

Rhodd Medi 2021

Papurau ychwanegol Mathonwy Hughes, [1850]-2019 (gyda bylchau), yn cynnwys gohebiaeth, barddoniaeth, ysgrifau, papurau'n ymwneud â'r Faner, ffotograffau a phapurau pobl eraill.

Results 1 to 20 of 309