Dangos 92 canlyniad

Disgrifiad archifol
is-fonds
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Areithiau ac erthyglau gan Angharad Tomos

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys torion o erthyglau Angharad Tomos i Y Faner, copïau teipysgrif a rhai torion o'i cholofn olygyddol a'i cholofn fel Cadeirydd yn Nhafod y Ddraig, ynghyd â nodiadau ar gyfer rhai o'i hareithiau ac ambell erthygl amdani hi, 1979-1983.

Heb deitl

Cofnodion gweinyddol y capel,

Mae'r grŵp yn cynnwys llyfrau gweinyddol ynghyd â deunydd ariannol yr eglwys, 1854-2000, yn eu plith cofrestri eglwysig, cyfrifon, manylion am gyfraniadau aelodau ynghyd â chofnodion cyfarfodydd swyddogion yr Eglwys a phapurau yn ymwneud â chymdeithasau.

Cofnodion y Capel

Cofrestri eglwysig, 1960-1977; gwybodaeth am gyfraniadau ariannol yr aelodau, am fedyddiadau, marwolaethau a phriodasau, a mantolenni ariannol Cymdeithas y Capel a'r Ysgol Sul, 1900-1995; gohebiaeth yr ysgrifennydd, 1963-1997, yn cynnwys papurau'n ymwneud â gofal am yr adeiladau a'r fynwent; ystadegau blynyddol am nifer yr aelodau a'r sefyllfa ariannol, 1909-1995; a chyfrifon a chytundebau amrywiol, 1855-1982.

Cofnodion y Capel

Mae'r grŵp yn cynnwys cofnodion a phapurau, 1865-1866, 1870-1984, yn eu plith cofrestri, cyfrifon, manylion am gyfraniadau aelodau ynghyd â chofnodion Pwyllgor y Capel, Cymdeithas y Chwiorydd a Chymdeithas Lenyddol y Capel.

Canlyniadau 1 i 20 o 92