Print preview Close

Showing 567 results

Archival description
series
Advanced search options
Print preview View:

Adeilad ac eiddo,

Llawysgrifau gyda manylion adeiladu'r capel a chynlluniau o welliannau i'r capel ac ar gyfer Mans newydd, 1837x[1908], ynghyd â phapurau'n ymwneud â'r capel a'r tŷ capel, 1999-2004.

Gwaith anorffenedig - ysgoloriaeth 1989-1990

Mae'r gyfres yn cynnwys dau ddarn o waith anorffenedig, ynghyd â pheth gohebiaeth a rhai nodiadau perthynol, a luniodd Angharad Tomos ar ôl ennill Ysgoloriaeth Awdur, Cyngor Celfyddydau Cymru, i'w galluogi i gymryd chwe mis i ysgrifennu yn ystod 1989-1990.

Wele'n gwawrio

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau, teipysgrifau a nodiadau, 1996-1997, yn ymwneud ag ysgrifennu Wele'n gwawrio (1997), a enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 1997, i Angharad Tomos.

Llyfrau cyfraniadau misol,

Mae'r gyfres yn cynnwys cyfraniadau aelodau a phlant yr eglwys, 1954-1956 a 1964-1978, at y genhadaeth, diolchgarwch a'r eisteddleoedd. Cofnodir cyfraniadau Hyfrydle yn ogystal â Seilo yn y mwyafrif o'r cyfrolau.

Cymdeithasau,

Mae'r gyfres yn cynnwys papurau yn ymwneud â chymdeithasau'r eglwys, 1897-2000 (gyda bylchau), sef y Gymdeithas Ddirwestol, y Gymdeithas Llên a Chân, Cymdeithas y bobl ifanc, a'r dosbarth wnïo. Maent yn cynnwys cofrestri aelodau, llyfrau cofnodion a chyfrifon.

Ystadegau'r Ysgol Sul

Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrifon unffurf Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1928-1957, a chofnodion rhif a llafur, [1885]-1954 (gyda bylchau). Ceir rhestri athrawon ac aelodau'r dosbarthiadau ac ystadegau'n ymwneud yn bennaf â phresenoldeb a nifer yr adnodau.

Dyddiaduron

Mae'r gyfres yn cynnwys dyddiaduron Ambrose Bebb, yn bennaf o'r cyfnod yr oedd yn byw ym Mangor ac yn ddarlithydd ar staff y Coleg Normal. Mae'r dyddiaduron, yn bennaf, yn cofnodi ei fywyd teuluol, ei waith yn ddarlithydd ac awdur, bywyd y capel, a'i gyfnodau yn Ffrainc a Llydaw, gyda sylwadau ar ddigwyddiadau cyfoes, yr Ail Ryfel Byd, a dyddiau cynnar Plaid Cymru. Ar y cyfan, mae'r cofnodion yn y dyddiaduron yn eithaf llawn, ac eithrio o 1930 hyd 1936. Mae'r dyddiaduron yn rhedeg o Ionawr hyd Ragfyr oni nodir yn wahanol.

Traethawd MA

Copi llawysgrif o'i draethawd MA, 'The Contribution of Wales to the British Empire' a gyflwynwyd am radd ym 1920. Mae'r teitl ar y wynebddalen yn awgrymu iddo gael ei gyflwyno i gystadleuaeth eisteddfodol ar un adeg.

Torion papur newydd

Mae'r gyfres hon yn cynnwys llungopïau o dorion papur newydd yn cynnwys adolygiadau o'i gyhoeddiadau yn bennaf, 1919-1949.

'Canada ac Awstralia ym Marddoniaeth Cymru'

Mae'r gyfres yn cynnwys proflenni yn dwyn y teitl 'Yr Ymerodraeth Brydeinig ym Marddoniaeth Cymru', sef y rhan gyntaf o erthygl mewn dwy ran a gyhoeddwyd yn y Y Genhinen, 1922 a 1924, yn dwyn y teitl 'Yr Ymerodraeth Brydeinig ym Marddoniaeth Cymru'. Mae peth gwahaniaeth rhwng y paragraff cyntaf a'r fersiwn cyhoeddedig, ond ac eithrio hynny maent yr un fath â'i gilydd. Fe all yr erthygl fod yn seiliedig ar ran o'i draethawd ymchwil, tt. 323-420 yn A1/2.

'Y Stâr Fach'

Llawysgrif erthygl hunangofiannol yn dwyn y teitl 'Y Stâr Fach' a gyhoeddwyd yn Blodau'r Ffair ym 1954.

Results 81 to 100 of 567