Gohebiaeth rhwng William Hughes a T. Ifor Rees
- T1/16
- Ffeil
- [1990 x 2010]
Copïau teipysgrif (allbrintiadau cyfrifiadur 20 ganrif, hwyr x 21 ganrif, cynnar) o ohebiaeth rhwng William Hughes a'i gyfaill T. Ifor Rees rhwng 1914-1929.
4586 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol
Gohebiaeth rhwng William Hughes a T. Ifor Rees
Copïau teipysgrif (allbrintiadau cyfrifiadur 20 ganrif, hwyr x 21 ganrif, cynnar) o ohebiaeth rhwng William Hughes a'i gyfaill T. Ifor Rees rhwng 1914-1929.
Gohebiaeth yn ymwneud ag Eglwys Efengylaidd Llangefni, 1998
Rhan oPapurau R. Tudur Jones
Gohebiaeth yn ymwneud â'r etholiad
Rhan oArchif Plaid Cymru,
Gohebiaeth a phapurau perthnasol yn ymwneud â gweinyddu'r etholiad, gan gynnwys arweiniad oddi wrth y Swyddfa Gymreig.
Gohebiaeth ynglŷn â Colofn Pobl Ieuainc y Tyst
Gohebiaeth, Mawrth-Mai 1924, rhwng Beriah Gwynfe Evans a Iorwerth C. Peate yn amlygu ffrae rhyngddynt ynglŷn â golygu Colofn Bobl Ieuainc yn y Tyst. = Correspondence, March-May 1924, between Beriah Gwynfe Evans and Iorwerth C. Peate revealing a quarrel between them regarding the editing of a youth column in the Tyst.
Ymddiswyddodd Peate fel is-olygydd y golofn ar ôl i Evans, y golygydd, wrthod cyhoeddi darn ganddo yn beirniadu adolygiad (yn y Tyst, 6 Mawrth 1924, Atodlen Llen, t. i) o act gyntaf Blodeuwedd, drama Saunders Lewis (a gyhoeddwyd yn y Llenor, 2 (1924), 231-244). Cyhoeddwyd eglurhad gan Peate o'r digwyddiadau (ff. 14-17) yn Baner ac Amserau Cymru, 5 Mehefin 1924, t. 5. Ceir fersiwn arall o'r eglurhad ar ff. 20-34. Ceir hefyd lythyr, 5 Mehefin 1924, i Evans oddiwrth H. M. Hughes, awdur yr adolygiad gwreiddiol (f. 35). = Peate resigned as sub-editor of the column after Evans, the editor, refused to print a piece by him criticizing a review (in the Tyst, 6 March 1924, Literature Supplement, p. i) of the first act of Saunders Lewis' play Blodeuwedd (as published in Llenor, 2 (1924), 231-244). Peate's explanation of events (ff. 14-17) was published in Baner ac Amserau Cymru, 5 June 1924, p. 5. Another version of the explanation is ff. 20-34. There is also a letter, 5 June 1924, to Evans from H. M. Hughes, author of the initial review (f. 35).
Peate, Iorwerth Cyfeiliog, 1901-1982
Gohebiaeth, nodiadau, a drafft
Rhan oCofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Gohebiaeth, 1993, yn trafod ymchwilio ac ysgrifennu’r gwaith arfaethedig ‘Welsh Recusants and Catholics 1559-1791: A Directory’, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Martin Cleary ac R. Geraint Gruffydd. Mae’r llythyrau yn cynnwys mynegai drafft o enwau offeiriaid Cymreig 1553-1625, a nodiadau bywgraffiadol.
Gohebiaeth, nodiadau, a drafftiau
Rhan oCofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Gohebiaeth, 1988, yn trafod ymchwilio ac ysgrifennu’r gwaith arfaethedig Martin Cleary ‘Welsh Recusants and Catholics 1559-1791: A Directory’, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Martin Cleary ac R. Geraint Gruffydd. Mae’r llythyrau yn cynnwys torion a nodiadau; drafft, wedi’i theitlo ‘Working List of Welsh Secular Priests, 1574-’; drafft, wedi’i theitlo ‘Welsh Jesuits and Jesuits in Wales 1561-1829’; a drafft wedi’i theitlo ‘A Welsh Recusant Directory’.
Gohebiaeth, nodiadau, a drafftiau
Rhan oCofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Gohebiaeth, 1989, yn trafod ymchwilio ac ysgrifennu’r gwaith arfaethedig ‘Welsh Recusants and Catholics 1559-1791: A Directory’, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Martin Cleary ac R. Geraint Gruffydd. Mae’r llythyrau yn cynnwys drafftiau o’r cyflwyniadau; nodiadau a drafftiau o benodau; map braslun o ardal Gwent; a chopïau o fap Arolwg Ordnans o ardal Trefynwy.
Gohebiaeth, nodiadau, a drafftiau
Rhan oCofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Gohebiaeth, 1990, yn trafod ymchwilio ac ysgrifennu’r gwaith arfaethedig ‘Welsh Recusants and Catholics 1559-1791: A Directory’, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Martin Cleary ac R. Geraint Gruffydd. Mae’r llythyrau yn cynnwys nodiadau a drafftiau penodau; drafftiau o’r cyflwyniadau; map braslun o Aberhonddu; ac un ffotograff.
Gohebiaeth, [1971]-2002, yn cynnwys llythyrau o'r cyfnod cynnar, ymholiadau am hanes y mudiad a llythyrau oddi wrth aelodau o Gymdeithas yr Iaith.
Brasluniau, lawysgrifau a llungopïau o sgorau o 'Goleuni'r byd' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Mairlyn Lewis. Trefniadau ar gyfer S.S.A.A. neu S.S.T.B..
Dau drefniant gwahanol o'r alaw 'Dyfrdwy' gan John Jeffries, trefniant i bedwar llais gan Gilmor Griffiths, geiriau 'Goleuni'r Gair' gan Richard Jones, Llanfrothen.
Trefniant o'r alaw 'Good-night', geiriau gan J. Arnold Jones, ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llungopi o sgôr gyda geiriau.
Rhan oPapurau E. Tegla Davies
Rhaglen Prifysgol Cymru yn cynnwys cyflwyniad Yr Athro G. J. Williams i Tegla Davies pan dderbyniodd radd Doethur mewn Llên er anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe yn 1958.
Grantiau a chymrodoriaethau ymchwil eraill
Rhan oCofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Papurau, 1983-1984, yn ymwneud â cheisiadau grantiau a chymrodoriaethau ymchwil amrywiol, yn gynnwys copïau o ffurflenni cais a chanllawiau ar gyfer ceisiadau grantiau Yr Academi Prydeinig, y 'Social Science Research Council', y ‘Twenty-Seven Foundation’; a chymrodoriaethau Prifysgol Cymru, y ‘Lister Institute of Approved Medicine’, a Prifysgol Casnewydd; a llythyrau yn trafod y ceisiadau grantiau oddi wrth G. J. Roderick; G.S. Dawes; ac Emrys Wynn Jones. Yn ogystal, ceir copi o gylchlythyr Coleg Prifysgol Cymru, ‘News and Views’ (1983); a chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwaith (1983).
Llungopi o drefniant Gilmor Griffiths o'r alaw draddodiadol 'Green sleeves' perfformiwyd gan Gantorion y Wledd Ganoloesol, Castell Ruthun, yng Nghastell Rhuthun. Sgôr gyda geiriau.
[Mai 1988]. Gari a Nia [Melville] Abertawe.
Rhan oPapurau Eisteddfod Genedlaethol Cymru: Dramâu, Pasiantau a Sioeau cerdd
Sgript oddi wrth Sgript Cymru, 2003.
Guild y Bobl Ifainc, Blaenconin
Rhan oPapurau Waldo Williams
Manylion o gyfraniadau Waldo Williams ac aelodau o'i deulu i weithgareddau Guild y Bobl Ifainc Capel Bedyddwyr Blaenconin, Llandysilio, Sir Benfro, 1927 - 1935, y wybodaeth yn deillio o bapur newydd lleol (yn ôl pob tebyg, The Narberth, Whitland and Clynderwen Weekly News - gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 161).
Rhan oArchif John Eilian
Llyfr nodiadau gyda stamp Prifysgol Aberystwyth yn cynnwys cerddi ganddo 1921-1924, a gyhoeddwyd yn y gyfrol Gwaed ifanc yn 1923 gyda cherddi gan E. Prosser Rhys, a llungopi o’r gyfrol, ynghyd ag adolygiadau oddi ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein, 2016. Ceir gosodiad cerdd dant Dewi Mai o Feirion mewn sol-ffa o ddwy gerdd ‘Atgof’ a ‘Mi wn’ gan John Eilian, Nadolig 1947, i ddathlu llwyddiant John Eilian yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau 1947.
Gwahoddiad i ddrama'r geni Ysgol Botwnnog
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cerdyn gwahoddiad (di-ddyddiad) i ddrama'r geni Ysgol Ramadeg Botwnnog, lle bu Waldo Williams yn dysgu o 1942 hyd 1944. Ar gefn y cerdyn ceir enw 'Gruff [Gruffudd] Parry', cyd-athro i Waldo ym Motwnnog, ynghyd ag enwau rhai o gast y ddrama ac enw'r gyfeilyddes.