Dangos 713534 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

4586 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

I'r Hafod

Llungopi o'r gerdd I'r Hafod gan Waldo Williams, y copi gwreiddiol yn ei law.

Ish, rhif 2,

Golygwyd gan 'Gruff Ankst', Porthmadog [1990?] . Label record annibynnol o Gymru oedd Ankst a ffurfiwyd ym 1988 ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth gan Alun Llwyd, Gruffudd Jones ac Emyr Glyn Williams.

John (Tydu) Jones

Llythyrau a anfonodd John (Tydu) Jones at ei nai Tydfor a'r teulu o Ganada, ynghyd ag enghreifftiau o'i ddawn fel bardd ac ysgrif bortread [anfuddugol Tydfor] ar ei ewythr, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1983.

Joseph Murray Ince

Papurau ymchwil yn ymwneud â'i erthygl 'Joseph Murray Ince (1806-1859), artist of Presteign, Radnorshire' a gyhoeddwyd yng Nghylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyf. 17, rh. 4 (Gaeaf 1972), ynghyd â nodiadau pellach ar hanes Rhayadr.

June is bustin out all over,

Trefniant o'r alaw 'June is bustin out all over' ar gyfer y Rhyl Operatic Society. Llawysgrif o drefniant Gilmor Griffiths o gyfansoddiad Rogers and Hammerstein (Carousel). Sgôr yn yr hen nodiant a chopi sol-ffa. Hefyd llungopi o sgôr 'Out of my dreams' o 'Oklahoma'.

'Kushti bok, Esmeralda’

Llyfr nodiadau yn cynnwys y ddrama ‘Kushti bok, Esmeralda’, ynghyd â nodiadau ymchwil ar gyfer ‘Rhaglen nodwedd ddramatig’ i Ffilmiau’r Nant’, [[1982x2008].

Land of Brychan

Cyfieithiad Jack Selwood o nofel ei wraig Brychan dir a gyhoeddwyd fel The land of Brychan yn 1994, ynghyd â llungopïau o ddarluniau Roger Jones.

Selwood, J. R. (Jack Raymond)

Laudamus te,

Brasluniau anghyflawn o drefniant Gilmor Griffiths o'r gân diolchgarwch 'Laudamus te' (heb ei orffen).

Lears; Halfords; Lloyds Chemist; Littlewoods; Lakeland; Laura Ashley; PC World; Panasonic; Partners; Peacocks

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1986-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o siopau a storfeydd cenedlaethol yn trafod polisi iaith Gymraeg, yn cynnwys llythyrau (1995-1996), o’r Arglwydd Hooson. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiad i’r wasg (1996); cofnodion cyfarfod (1990); a nifer o ffotograffau o arwyddion siop.

Canlyniadau 761 i 780 o 713534