Showing 10 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Llwyd, Alan Welsh
Print preview View:

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1976, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd. = Diary of T. Llew Jones for 1976, giving an account of his daily life and interests.
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at gystadlaethau gwyddbwyll Iolo Ceredig Jones (passim), Dic Jones (passim) ac Alan Llwyd, gan gynnwys cyfeiriad at feirniadaeth ddadleuol y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976 (ff. 32-34), Ysgol Gynradd Coed-y-bryn, Llandysul (ff. 1-43), a chyfarfod cyntaf y Gymdeithas Cerdd Dafod (ff. 32 verso, 35). = The volume contains references to Iolo Ceredig Jones' participation in chess tournaments (passim), Dic Jones (passim) and Alan Llwyd, including references to the controversial adjudication of the Chair competition at Cardigan National Eisteddfod 1976 (ff. 32-34), Coed-y-bryn Primary School, Llandysul (ff. 1-43), and the first meeting of Cymdeithas Cerdd Dafod (ff. 32 verso, 35).

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 8 Rhagfyr 1997 hyd 22 Ionawr 1999, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd. = Diary of T. Llew Jones for 8 December 1997 to 22 January 1999, giving an account of his daily life and interests.
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Dic Jones (ff. 53 verso, 57-58 verso, 69 verso, 70 verso), cynhyrchiad gan Carol Byrne Jones o Dirgelwch yr Ogof (ff. 6 verso, 27), beirniadaeth o lyfr gan Alan Llwyd (f. 10 verso), a rhaglen deyrnged i Alun Cilie (ff. 24 verso, 49 verso-54). = The volume includes references to Dic Jones (ff. 53 verso, 57-58 verso, 69 verso, 70 verso), Carol Byrne Jones' television production of Dirgelwch yr Ogof (ff. 6 verso, 27), a review of a book by Alan Llwyd (f. 10 verso) and a tribute programme to Alun Cilie (ff. 24 verso, 49 verso-54).

Gohebiaeth

Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol, 1976-[2001], yn cynnwys drafftiau o lythyrau gan John Stoddart, yn ymwneud yn bennaf â'i weithiau llenyddol, cyfraniadau i gylchgronau a'i gyfieithiadau o ganeuon. Yn eu plith mae llythyrau gan Ruaraidh MacThómais (Derick Thomson) (32); Emrys Roberts (8); D. Myrddin Lloyd (7); Jennie Eirian Davies (9); John Rowlands (3); Gareth Alban Davies (9); Somhairle MacGill-Eain (Sorley MacLean) (2); Dómhnall MacAmhlaigh (Donald Macaulay); Iain Mac a'Ghobhainn (Iain Crichton Smith) (2); Rhydwen Williams (3); Alan Llwyd (37); George Guest; Iain MacDhòmhnaill (Iain MacDonald) (3); Fearghas MacFhionnlaigh; Marged Haycock (2); Robin Gwyndaf; Bryan Martin Davies; Bobi Jones; Dyfnallt Morgan (2); Meredydd Evans a Phyllis Kinney; John MacInnes (Iain MacAonghuis) (2); Gareth Glyn; Eigra Lewis Roberts; a J. E. Caerwyn Williams (5).

Thomson, Derick S.

Gohebiaeth gyffredinol 1975-1979,

Ymhlith y gohebwyr mae Meg Ellis yn trafod cynnig Robat Gruffudd i wrthod siarad Saesneg a straeon ganddi, Eric Wyn Roberts, Judith Maro, Dafydd Parri yn trafod Y Llewod a Marc Daniel, Bernard Knight yn trafod ei lyfr Lion Rampant, Meic Stephens ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru yn trafod y cynllun newydd er cynorthwyo cyhoeddwyr i gyflogi staff gweinyddol neu olygyddol, John Jenkins o garchar Albany ynghylch cardiau celtaidd, Derrick K. Hearne ar y sefyllfa wleidyddol yng Nghymru, datganoli, Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith; Harri Webb ar gyfrifoldeb y llywodraeth i ariannu cyhoeddiadau Cymraeg; ac Emily Huws yn trafod ei nofelau diweddaraf. Hefyd ceir cerdd gan Alan Llwyd 'Awdl archebol i'r Lolfa'; llythyrau yn trafod Cymdeithas Emrys ap Iwan, y galw am bosteri a chardiau Cymraeg, disgo'r Llewod yn 1976, a chasglu deunydd i LOL ar ei newydd wedd. Yn y ffeil ceir hefyd bapurau yn ymwneud ag 'Ymgyrch Cymreigio Ysgol Penweddig yn cynnwys deiseb gan rieni a chopi o 'Y Gymraeg yng Ngwyddoniaeth a Thechnoleg ein Colegau – y Ffordd Ymlaen', Adroddiad Gweithgor y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol.

Llythyrau amrywiol: 1936-1982

Llythyrau amrywiol, 1936-1982 (1977-1982 yn bennaf), gan gynnwys rhai oddi wrth J. Redwood Anderson (2); Ifor ap Gwilym (2); Gwynn ap Gwilym; Douglas Bassett; Gerard Casey; Joseph P. Clancy; Eirian Davies; Jennie Eirian Davies; George M. Ll. Davies; R. Alun Evans (2); R. Geraint Gruffydd; Robin Gwyndaf (2); E. D. Jones; Alan Llwyd (5); Emyr Llywelyn; Dyfnallt Morgan; T. E. Nicholas (2); Thomas Parry; Selyf Roberts; Meic Stephens; W. Bryn Thomas; Glanmor Williams; a J. Lloyd Williams.

Llythyrau cydymdeimlad,

Llythyrau cydymdeimlad, 1985, a anfonwyd at deulu Harri Gwynn, gan gynnwys rhai oddi wrth Glyn Ashton, Teleri [Bevan], Marged Dafydd, Eirian Davies, Islwyn Ffowc [Elis], Mari [Ellis], Gwynfor Evans, Mered[ydd Evans], R. Geraint Gruffydd, D. G. Lloyd Hughes, Dafydd Islwyn, A. O. H. Jarman, Gwilym R. [Jones], Harri Pritchard Jones, John [Gwilym Jones], R. Gerallt Jones, D. Tecwyn Lloyd, Alan Llwyd, Emyr Price, Selyf [Roberts], Gwyn [Thomas] a Gwilym Tilsley. Ceir hefyd restr o'r rhai a anfonodd lythyr neu gerdyn cydymdeimlad.

Ashton, Glyn M

Llythyrau cyffredinol

Llythyrau, [1955]-2003. Ymhlith y gohebwyr mae Kitty Idwal Jones yn nodi achau teulu Plas Penucha (Syr John Herbert Lewis) mewn gwahanlith o erthygl 'Cywydd gan Thomas Jones, Dinbych' gan Saunders Lewis o'r Llenor, Hydref 1933, a anfonodd ati yn 1955, Bedwyr Lewis Jones, Derec Llwyd Morgan, Gwynfor Evans, George Noakes, Daniel Evans, Islwyn [Ffowc Elis], W. R. P. George (2), Alan Llwyd, Hywel Teifi [Edwards] a Gwilym Humphreys. Y mae'r llythyr a ddyddiwyd yn 2003 oddi wrth Dewi [James] wedi'i gyfeirio at [R.] Brinley [Jones] ac yn ymwneud â'r grŵp o lythyrau oddi wrth Saunders Lewis.

Jones, Kitty Idwal, 1898-1984

Llythyrau J-N,

Llythyrau, [1948]-[1983], gan gynnwys rhai oddi wrth Bedwyr Lewis Jones, Bobi Jones (2), Dafydd Glyn Jones, E. D. Jones, F. Wynn Jones, Glyn Jones, Gwilym R. Jones, J. E. Jones, John Gwilym Jones (2), Kitty Idwal Jones, Henry Lewis, [D.] Tec[wyn] Lloyd (8), Alan Llwyd (2), Tom Macdonald, Awen Mona, Prys Morgan, T. J. Morgan, James Nicholas (3), a W. Rhys Nicholas.

Jones, Bedwyr Lewis

Llythyrau K-L

Llythyrau, 1925-1982, gan gynnwys rhai oddi wrth John Legonna (3); Ceri W. Lewis (12); Elvet Lewis ('Elfed'); Eiluned Lewis (4, ynghyd â chopi o'i herthygl 'Traditions of Christmas in Wales'); Henry Lewis (3); Ifor H. Lewis (27); J. D. Vernon Lewis; J. Rhys Lewis (2, yn cynnwys copi o ragair gan Iorwerth Peate, 'The land of Dyfi'); Saunders Lewis (10); D. Myrddin Lloyd (2); D. Tecwyn Lloyd (18); J. D. K. Lloyd (5); J. E. Lloyd; Alan Llwyd (3); Rheinallt Llwyd; Emyr Llywelyn (6); ac A. T. Lucas (51).

Legonna, John, 1918-1978

Papurau wedi'u crynhoi

Ymhlith y papurau ceir llythyr, 1909, oddi wrth Cybi at 'Mr [O. M.] Edwards'; enghreifftiau o waith cwrs ei myfyrwyr drama gan gynnwys cyfieithiad Robert Wynne, 1951, o ddrama Saunders Lewis 'Amlyn ag Amig' i'r Saesneg gyda'r teitl 'The Christmas Candle' [fe'i darlledwyd gan y BBC yn 1948 a 1950]; drama am Ellis Wynne gan Janet B. Thomas; 'Ysgol Sir Tregaron a'r ddrama' gan Eirlys Morgan; 'Golygfa o fywyd Richard Wilson' gan ?; stori 'The adventures of Arabella Penn. "The ivory doll"' gan Tudur Watkins, 1954; 'By the waters of the Towy' gan Richard Vaughan, [1973]; llyfryddiaeth 'Wil Hopcyn and the Maid of Cefn Ydfa' gan Brinli [Brinley Richards], 1978; 'Marwnad Saunders Lewis' gan Alan Llwyd, [1985], mewn teipysgrif; a llungopi o bapur arholiad Cymraeg ar gyfer ysgoloriaeth y Frenhines, Coleg Hyfforddi Caerfyrddin, Mawrth 1849.

Cybi, 1871-1956