Showing 309 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Sub-fonds Welsh
Print preview View:

Y gweddill o gasgliad Thomas Gwynn Jones,

Yn y rhestr hon disgrifir y gweddill o gasgliad Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac ysgolhaig. Rhifwyd yr eitemau hyn o D 1 i D 406. Ceir disgrifiadau bras o rai grwpiau yn Adroddiad Blynyddol 1947-48, t. 32; Adroddiad Blynyddol 1972-73, tt. 33, 35 a 41; Adroddiad Blynyddol 1973-74, t. 40 ac Adroddiad Blynyddol 1985-86, t. 55. Gweler hefyd Adroddiadau Blynyddol 1942-3, t. 22; 1959-60, t. 31; 1960-61, tt. 31-2; 1961-2, tt. 29-30.
Llyfryddiaeth T. Gwynn Jones: Gwynn ap Gwilym (gol.), Thomas Gwynn Jones, Cyfres y Meistri 3 (Llandybïe, 1982); W. Beynon Davies, Thomas Gwynn Jones, cyfres Writers of Wales (Caerdydd, 1970); David Jenkins, Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Dinbych, 1973);. David Jenkins, Bro a Bywyd Thomas Gwynn Jones (Caerdydd: Cyngor Celfyddydau Cymru, 1984); D. Hywel E. Roberts (gol.), Llyfryddiaeth Thomas Gwynn Jones (Aberystwyth, 1981). Yn yr olaf y ceir y brif ffynhonnell o gyfeiriadau at weithiau TGJ.

Yr hyn a oedd yn weddill o'r casgliad cyntaf

Yn y rhestr hon fe ddisgrifir yr hyn a oedd yn weddill o'r casgliad cyntaf o bapurau Thomas Gwynn Jones (1871-1949), sef yr eitemau a hepgorwyd o restr Miss Norma G. Davies yn 1949, "A Schedule of Manuscripts and Correspondence presented by Dr Thomas Gwynn Jones, C.B.E.". Cyflwynwyd y casgliad gwreiddiol hwn o bapurau, llawysgrifau a gohebiaeth gan y bardd a'r ysgolhaig ei hun yn ystod 1943 a cheir disgrifiad ohonynt yn Adroddiad Blynyddol 1942-43, t. 22. Rhifwyd yr eitemau yn rhestr 1949 o G1 hyd G6892 a pharheir â'r gyfres rifau honno yma yn y rhestr hon.

John Daniel Davies (1874-1948)

John Daniel Davies (1874-1948). Llythyrau ato, gan mwyaf fel golygydd Y Rhedegydd. Gweler 2240 am ddeunydd arall (barddoniaeth gan mwyaf) a anfonwyd i'w gyhoeddi yn Y Rhedegydd. Mae'n debyg bod peth deunydd a anfonwyd i'w gyhoeddi yn Y Rhedegydd ar wasgar trwy'r casgliad ond nad yw hynny yn amlwg bob amser.

Davies, John Daniel, 1874-1948.

Cofnodion ariannol

Mae'r grŵp yn cynnwys cofnodion ariannol amrywiol, 1856-2000, gan gynnwys cyfrifon, 1866-1901, llyfrau cyfraniadau at y weinidogaeth, 1886-1992, llyfrau cyfrifon dadansoddiadol, 1902-1998, llyfrau'r trysorydd, 1932-2000, llyfrau ardreth yr eisteddleoedd, 1933-1957, llyfrau ysgrifennydd yr ysgol sul, 1940-1982, a phapurau a dogfennau amrywiol, 1856-1958.

Papurau amrywiol

Mae'r grŵp yn cynnwys siart, 1897, yn arddangos lluniau o weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru; papurau'n ymdrin â throsglwyddo aelodaeth i gapel Berea oddi wrth gapeli eraill, 1964-1980; rhaglenni gwasanaethau dinesig a gynhaliwyd o fewn y capel, 1964-1999; a grŵp sylweddol o nodiadau pregethau a phapurau eraill, 1936-1976.

Results 41 to 60 of 309