Dangos 839266 canlyniad

Disgrifiad archifol
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Thomas Davies,

Y Garreg Wen, Gorseinon. Cerdyn post ag arno enwau rhai sydd eisiau copïau o Blodau'r Gynghanedd.

Thomas Davies,

Y Garreg Wen, Gorseinon. Anfon am gopïau o'i lyfr [Blodau'r Gynghanedd].

Thomas Charles Williams,

Seattle. Llythyr yn cynnwys llith "Disgrifiad o daith drwy yr Olympic Mountains" i'w roi yn Yr Herald.

Thomas C. Griffith.

Treflys, Osmond Terrace, Porthmadog. Anfon llythyr oddi wrth ei frawd-yng-nghyfraith, sef Nadolig Jones, o Dde America ar gyfer yr Herald.

Thomas Artemus Jones, Llanrwst,

Amgau cyfraniad i'r Llenor gan ddweud ei fod yn darllen y cyfnodolyn yn gyson. [T. Artemus Jones, 'Deddf Harri VIII yng ngolau'r Gwreiddiol', Y Llenor, cyfrol XV (1936), tt. 232-7]. Cafodd sgwrs ag W. J. Gruffydd yng nghwmni Ellis Gruffudd yn smoke-room y National Liberal Club flynyddoedd yn ôl.

Thomas Artemus Jones, Llanrwst,

Anfon cyfraniad i'r Llenor. Rhannodd yr erthygl yn ddwy ran oherwydd ei hyd. ['Dienyddiad John Jones Maesygarnedd' Y Llenor, cyf . XVIII (1939), tt. 233-8].

Thomas Artemus Jones, Bangor,

Ysgrifenna yn dilyn sylwadau W. J. Gruffydd yn Y Llenor ynglyn â Chatholigion mewn swyddi allweddol. Cyfieithodd yr erthygl ac anfonodd gopi at yr Arglwydd Davies gan awgrymu y dylai dderbyn cyhoeddusrwydd ehangach. Mae'r erthygl wedi cynhyrfu tipyn ar y dyfroedd ymysg y bobl sy'n cyfrif yng Ngogledd Cymru. Awgrymodd y dylai'r Arglwydd Davies drefnu i gyhoeddi'r erthygl ar ffurf pamffledyn dwyieithog. Gofyn i W. J. Gruffydd os yw'n cefnogi'r syniad. Mae'n ofid i T. Artemus Jones weld Y Faner, o bob papur, yn cefnogi'r Action Française a chriw Vichy. Y mae teyrngarwch S[aunders] L[ewis] i Gatholiciaeth wedi ei ddallu i ddrygioni y rhai hyn.

Thomas Artemus Jones, Bangor,

Amgau llythyr oddi wrth D[avid] D[avies]. Nid yw'n ei chael hi'n hawdd derbyn mai cyfartaledd isel o staff y Swyddfa Dramor sy'n Gatholigion. Hwyrach mai Catholigion pybyr yn unig a gyfrifwyd.

Canlyniadau 6221 i 6240 o 839266