Dangos 1033 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llyfr nodiadau Hugh Pugh, Mostyn

  • NLW MS 15139A.
  • Ffeil
  • [?1827]-1868

Llyfr nodiadau, [?1827]-1868 (dyfrnod 1824), yn llaw'r Parch. Hugh Pugh, gweinidog capel Annibynnol Cyssegr, Mostyn, sir y Fflint, o 1837 i 1868. = Notebook, 1827-1843 (watermark 1824), of the Rev. Hugh Pugh, minister of Cyssegr Congregational chapel, Mostyn, Flintshire, from 1837 to 1868.
Cynhwysa'r gyfrol restr o briodasau yng nghapel y Cyssegr, 1837-1842 (f. 2 verso); rhestr o bregethau a draddodwyd gan Pugh ym Mostyn a'r cyffiniau, 1837-1841 (ff. 3-14); copi o gyffes ffydd Pugh, a adroddwyd yn ei gyfarfod ordeinio yn Llandrillo, Meirionnydd, 3 Gorffennaf 1827 (cyhoeddwyd yn W. Rees a T. Roberts, Cofiant am y Diweddar Barch. Hugh Pugh, Mostyn (Lerpwl, 1870), tt. 20-22) (ff. 46-57 verso, testun â'i wyneb i waered); a rhestr o'r rhai a dderbyniwyd i gymundeb ym Mostyn, 1837-1843 (ff. 41 verso-45 verso, testun â'i wyneb i waered). Mae saith eitem rydd, 1863-1868, yn cynnwys llythyrau ac effemera a ailddefnyddiwyd gan Pugh i ysgrifennu nodiadau pregethau, wedi eu tipio i mewn ar ddail gwag (ff. 35-40 verso, testun â'i wyneb i waered). = The volume includes a list of marriages at Cyssegr chapel, 1837-1842 (f. 2 verso); a list of sermons preached by Pugh in Mostyn and the surrounding area, 1837-1841 (ff. 3-14); a copy of Pugh's confession of faith, delivered at his ordination in Llandrillo, Merioneth, 3 July 1827 (published in W. Rees & T. Roberts, Cofiant am y Diweddar Barch. Hugh Pugh, Mostyn (Liverpool, 1870), pp. 20-22) (ff. 46-57 verso, inverted text); and a list of those received into communion at Mostyn, 1837-1843 (ff. 41 verso-45 verso, inverted text). Seven loose items, 1863-1868, include letters and ephemera reused by Pugh to write sermon notes, have been tipped in on blank leaves (ff. 35-40 verso, inverted text).

Pugh, Hugh, 1803-1868.

Llyfr tonau,

  • NLW MS 15403A.
  • Ffeil
  • [19 gan., ½ cyntaf].

Llyfr tonau, [19 gan., ½ cyntaf], o eiddo Margaret Parry, Deildre, Llanuwchllyn, yn cynnwys emyn-donau mewn sawl llaw. = The tune book, [19 cent., first ½], of Margaret Parry, Deildre, Llanuwchllyn, containing hymn-tunes in various hands.
Priodolir y dôn 'Hedydd' (f. 30 verso) i John Ellis, Llanrwst = The tune 'Hedydd' (f. 30 verso) is attributed to John Ellis of Llanrwst.

Llyfrau archebion

Dwy gyfrol, [1864]-[1865], yn llaw T. J. Griffiths, argraffwr, gydag ychwanegiadau gan Samuel Roberts, yn cynnwys rhestr o archebion ar gyfer Samuel Roberts, Pregethau a Darlithiau (Utica, E.N., 1865). = Two volumes, [1864]-[1865], in the hand of T. J. Griffiths, printer, with additions by Samuel Roberts, containing a list of orders for Samuel Roberts, Pregethau a Darlithiau (Utica, N.Y., 1865).

Griffiths, Thomas J., 1835-1924

Llyfrau cofnodi symud anifeiliaid

Papurau, [1967]-[1987], yn cofnodi gweithrediadau ar y fferm, ynghyd â chopi o fap 25 modfedd (Cards. Sheets XXIII) (ail argraffiad 1905) yn dangos y fferm a'r caeau a'r gaer Caer Wen o'r Oes Haearn gydag ychwanegiadau diweddarach.

Llyfrau nodiadau

Llyfrau nodiadau yn cynnwys cerddi cynnar a luniodd Tydfor pan oedd yn blentyn, [1947]-[1949].

Llyfrau ymwelwyr

Llyfrau ymwelwyr o ddau gartref sef Glynor, Llanfair ger Harlech a Gwernyfed, Maes yr Hafod, Porthaethwy. Roedd Gwynfor Evans, Lewis Valentine, Bob Owen Croesor a Dilys Cadwaladr ymhlith yr ymwelwyr nodedig.

Llyfryn caneuon,

Llyfryn heb glawr [hunan cyhoeddiad?], sy'n cynnwys geiriau a sgôr i'r caneuon 'Cân diolch', 'Croeso'r gwanwyn', Cân i'r gwanwyn', 'Gwanwyn', 'Y deffro', 'Cân y tylwyth teg', 'Y coedlan', 'Y glöwr'.

Llyn Llech-Owain,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Guto Benfelyn' gan I. D. Hooson i'r alaw 'Llyn Llech-Owain'. Ychwanegiad tonig sol-ffa mewn pencil.

'Llysiau a Meddygaeth’

Papurau a gohebiaeth, 1993, yn ymwneud â phymthegfed Fforwm y Ganolfan, ‘Llysiau a Meddygaeth’, yn cynnwys rhaglen; rhestr o fynychwyr; slipiau ateb; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth Dafydd Dafis; E. Evans; Jane Cartwright; Carole Hough; Christine Fell; Pierre-Yves Lambert; R. D. Berryman; Morfydd E. Owen; a Mary Davies.

Llythyrau

Ceir llythyrau yn deillio o'i gyfnod yn rheolwr-gyfarwyddwr Llyfrau’r Dryw, Llandybïe, 1957-1965.

Canlyniadau 661 i 680 o 1033