Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1994-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o archfarchnadoedd yng Nghymru yn trafod gweithredu polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiadau i’r wasg (1996-1997); a nifer fach o dorion o’r wasg.
Mae'r ffeil hon yn cynnwys drafft o erthygl Saesneg yn trafod llenyddiaeth Gymraeg yn ystod y cyfnod rhwng 1945 a 1975; cyfarwyddidau ar lunio llyfryddiaeth ynghyd ag enghreifftiau; nodiadau ar ddarlith 'Ysgolheictod a Llenyddiaeth'; erthygl ar y cysylltiad rhwng llenorion yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn dwyn y teitl 'Dolennau'; nodiadau ar feirniadaeth lenyddol; cerdd Saesneg 'Spring Song' heb enw bardd; coeden deulu Enid Mary Morgan; copi llaw o lythyr gan J.W. Prisiart at Twm o'r Nant; erthygl 'Bristol Channel Pirates'; nodiadau ar Wasg Trefecca; erthygl yn dwyn y teitl 'Twm o'r Nant yn Sir Gaer'; copïau llaw o ddwy ffynhonnell lawysgrif wahanol o 'Drithlws ar ddeg Ynys Prydain'; a chopi llaw mewn llyfr nodiadau o gopi Caerdydd o 'The Heroic Elegies and the Pieces of Llywarch Hen...'
Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Emrys Roberts ac Arwel Vittle. Ceir trafodaeth yn ogystal ar nofel gan Robat Gruffudd gyda Rhiannon Ifans yn ei olygu iddo.