Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1841-1981 / (Creation)
Level of description
fonds
Extent and medium
1.182 metrau ciwbig (42 bocs)
Context area
Name of creator
Biographical history
Roedd 'Brinli', Brinley Richards (1904-1981) yn fardd, cyfreithiwr, hanesydd lleol ac archdderwydd Cymru. Ganwyd ar 13 Ebrill 1904 yn Nantyffyllon, Maesteg, Morgannwg, a'i enwi ar ôl y cerddor a'r cyfansoddwr Brinley Richards (1819-1885). Mynychodd Ysgol Ramadeg Maesteg, ac ar ôl blwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, aeth yn brentis at Moses Thomas, Clerc Cyngor Tref Aberafan fel cyfreithiwr. Yn 1930 dychwelodd i Nantyffyllon i sefydlu cwmni o gyfreithwyr, a phriododd Muriel Roberts yn 1941. Roedd yn gynghorwr, yn cynrychioli Nantyffyllon ar Gyngor Maesteg am dros 40 mlynedd fel cynghorydd Annibynnol. Roedd yn aelod gweithgar o Siloh, Capel yr Annibynwyr yn Nantyffyllon, yn ysgrifennydd a thrysorydd, a hefyd yn drysorydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1952. Byddai'n cystadlu'n aml mewn eisteddfodau, ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf yn 1926 pan enillodd enwogrwydd am ei gerdd ddychanol. Enillodd y gadair yn Llanrwst yn 1951 ar 'Y Dyffryn'. Bu'n beirniadu gwahanol gystadlaethau mewn amryw eisteddfodau. Chwaraeodd ran yn yr Eisteddfod Genedlaethol hefyd fel aelod o'r Orsedd ac ysgrifennydd Pwyllgor Llên Eisteddfod 1932 a 1948. Bu'n Archdderwydd o 1972 i 1975. Cyfrannodd Brinli erthyglau i gyfnodolion o'r 1930au ymlaen, gyda cholofn chwarterol yn Y Geninen,1967-1972, a gwaith ar hanes lleol, llenyddiaeth a chrefydd. Cynhyrchodd dwy gyfrol ar Iolo Morganwg (1877, 1979) a History of the Llynfi Valley (cyhoeddwyd ar ôl ei farw, 1982). Ymhlith ei weithiau pwysig eraill mae Cofiant Trefin (1963), Cerddi'r Dyffryn (1967) a Hamddena (1972). Ymddeolodd o'i bractis yn 1973 a bu farw ar 18 Medi 1981 yn Interlaken, y Swistir.
Archival history
Casglodd Brinley Richards grwpiau bychain annibynnol o archifau yn gysylltiedig â'i waith: cofnodion Cylchdaith Annibynwyr De Morgannwg, Capel Siloh, Nantyffyllon, a'r Eisteddfod Genedlaethol, yn enwedig eisteddfod 1932 a 1948. Cadwodd Brinley Richards hefyd grwpiau o bapurau yn perthyn i nifer o'i gyfeillion llenyddol: Lewis Davies, Y Cymer, Rhys Dafydd Morgan, William Evans (Wil Ifan) ac Edgar Phillips (Trefin).
Immediate source of acquisition or transfer
Mrs Muriel Richards, trwy law Mr Huw Walters, B.Lib, A.L.A., Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Maesteg; Rhodd; 1981
Content and structure area
Scope and content
Papurau yn ymwneud ag amrywiaeth eang o weithgareddau Brinli yn cynnwys llyfrau ysgol a defnyddiau addysgiadol eraill, 1915-1977; papurau cyfreithiol, yn bennaf gohebiaeth a nodiadau, 1918-1980; cofnodion Cyngor Dosbarth Trefol Maesteg, 1927-1976; papurau Undeb Annibynwyr Cymru, 1931-1976; hanes lleol, 1927-1971; Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1976-1981; deunydd yn ymwneud â'i gyfrolau ar Iolo Morganwg, [1974]-[1979]; Yr Eisteddfod Genedlaethol, 1926-1981, a beirniadaethau eisteddfodol, 1943-1981; torion papur newydd, 1920-1980; rhyddiaith Brinli, 1919-1978, a barddoniaeth, 1932-1981; gweithiau llenyddol eraill ganddo ef ac eraill, 1913-1978; gohebiaeth bersonol, 1909-1981; papurau eraill personol a theuluol, 1887-1981; ei ddyddiaduron, 1922-1981, a rhai ei dad, Joshua, 1893-1944; cofnodion Cylchdaith Annibynnwyr De Morgannwg, 1841-1978, Capel Siloh, 1850-1977, Eisteddfod Genedlaethol 1932 a 1948 ac eraill, 1932-1981; papurau Lewis Davies, Y Cymer (1863-1951), awdur nofelau i blant, [1849?]-1946, yn cynnwys sawl llyfr rent o Benderyn; papurau, 1883-1925, Rhys Dafydd Morgan (1851-1934), cyfieithydd o Gymro a fferyllydd ym Maesteg; papurau, 1882-1968, 'Wil Ifan' William Evans (1882-1968), archdderwydd, gweinidog yr Annibynwyr ac awdur; a phapurau, 1929-1979, 'Trefin, Edgar Phillips (1889-1962), bardd ac archdderwydd. = Papers concerning a wide variety of Brinli's activities including school books and other educational material, 1915-1977; legal papers, mainly correspondence and notes, 1918-1980; Maesteg Urban District Council records, 1927-1976; the Welsh Congregational Union papers, 1931-1976; local history, 1927-1971; the National Museum of Wales, 1976-1981; material relating to his books on Iolo Morganwg, [1974]-[1979]; the National Eisteddfod, 1926-1981, and eisteddfod adjudications, 1943-1981; newspaper cuttings, 1920-1980; Brinli's prose, 1919-1978, and poetry, 1932-1981; other literary works by him and others, 1913-1978; personal correspondence, 1909-1981; other personal and family papers, 1887-1981; his diaries, 1922-1981, and those of his father, Joshua, 1893-1944; records of the South Glamorgan Congregational Circuit, 1841-1978, Siloh Chapel, 1850-1977, and of the National Eisteddfodau of 1932 and 1948 and others, 1932-1981; papers of Lewis Davies, Y Cymer (1863-1951), author of children's novels, 1849-1946, including several rate books for Penderyn; papers, 1883-1925, of Rhys Dafydd Morgan (1851-1934), Welsh translator and Maesteg pharmacist; papers, 1882-1968, of 'Wil Ifan', William Evans (1882-1968), archdruid, congregational minister and author; and papers, 1929-1975, of 'Trefin', Edgar Phillips (1889-1962), poet and archdruid.
Appraisal, destruction and scheduling
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru..
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System of arrangement
Trefnwyd fel a ganlyn: addysgol; cyfreithiol; llywodraeth leol; crefyddol; hanesyddol, Amgueddfa Genedlaethol; Iolo Morganwg; Yr Eisteddfod Genedlaethol; torion papur newydd; rhyddiaith; barddoniaeth; gohebiaeth bersonol; personol; teuluol; papurau Lewis Davies, Y Cymer; papurau R. D. Morgan; papurau Wil Ifan; papurau Trefin; dyddiaduron; amrywiol; gohebiaeth.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Mae Bocs 40 (Amrywiol) dan embargo tan y flwyddyn 2012; bocs 41 (Gohebiaeth) dan embargo tan 2056. Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau mdern - gwarchod data'.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- Welsh
- English
Script of material
Language and script notes
Cymraeg, Saesneg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
Project identifier
Access points
Place access points
Name access points
- Maesteg (Wales). Urban District Council. (Subject)
- Eglwys Siloh (Nantyffyllon, Wales) (Subject)
- Richards, Brinley -- Archives. (Subject)
- Davies, Lewis. (Subject)
- Wil Ifan, 1883-1968. (Subject)
- Morgan, Rhys Dafydd, 1851-1934. (Subject)
- Phillips, Edgar, Trefin, 1889-1962. (Subject)
- Iolo Morganwg, 1747-1826. (Subject)
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR; ac LCSH
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Awst 2003.
Language(s)
- Welsh
Script(s)
Sources
Archivist's note
Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau Brinli; Walters, Huw, a W. Rhys Nicholas (gol.), Brinli: Cyfreithiwr, Bardd, Archdderwydd (Ty John Penry, 1984); LlGC, Rhestr o Bapurau Trefin Archdderwydd Cymru;