Dangos 1284 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Hwiangerddi (ix)

Mae’r ffeil yn cynnwys bocs mynegai glas ar yr Hwiangerddi sydd mewn pedwar cyhoeddiad y cyfeirir atynt fel (HH, HW, HC, YH). Trefnwyd fesul hwiangerdd A-Y (ff. 1-342) gan nodi enw'r hwiangerdd, y cyhoeddiad a rhif tudalen, brawddeg gyntaf yr hwiangerddi ac weithiau’r pennill cyfan.
Y pedwar cyhoeddiad y gyfeirir atynt yw:
HH - J. Ceiriog Hughes, ‘Hen Hwian-gerddi’, Oriau’r Haf (Wrecsam: Hughes a’i Fab, [1870]),
HW - Hwiangerddi'r Wlad (Eluned Bebb) Llyfrau'r Dryw. Gorff 1942.
HC - Hwian Gerddi Cymru Casglwyd gan Owen M Edwards, Argraffwyr R E Jones a'i frodyr Conwy (120 o eitemau) Darluniau gan Winifred Hartley (Lowri Wynn) Llanuwchllyn Ac Owen.
YH - Yr Hwiangerddi casglwyd gan Owen M Edwards . Edwards, O. M. (1911), Yr Hwiangerddi (Llanuwchllyn: Ab Owen).

Hwyl ar y gân,

Hwyl ar y gân, 7 o ganeuon i blant, gan Gilmor Griffiths, cyhoeddwyd gan Y Lolfa, Rhagfyr 1984. Cynnwys: Wedi'r gaeaf; Breuddwydio; Gwylanod; Lliwiau'r Hydref; Y deffro; Cwymp y dail; Santa bach.

Hwyrgân yr Hydref,

Copi sgôr o 'Hwyrgan yr Hydref' (Autumn Nocturn) i Euphonium neu glarinét B♭ gyda chyfeiliant. Hefyd brasluniau ar gyfer offerynnau pres. Sgôr o drefniant William (Bill) Hind, Gorffennaf 1981[82].

I Hela Cnau

Teipysgrif o’r nofel I Hela Cnau (Llandysul, 1978), gyda newidiadau mewn inc a phensel. = Typescript of the novel I Hela Cnau (Llandysul, 1978), with ink and pencil alterations. Ceir hefyd copi o raglen Noson goffi ag Ocsiwn Addewidion Pwyllgor Help Llaw Dolgellau a gynhaliwyd 20 Gorffennaf 1990. Rhif 19 oedd “Teipysgrif wreiddiol “I Hela Cnau” gyda chywiriadau a sylwadau Mr. Hywel Teifi Edwards” yn rhodd gan Marion Eames.

I'r Hafod

Llungopi o'r gerdd I'r Hafod gan Waldo Williams, y copi gwreiddiol yn ei law.

Ish, rhif 2,

Golygwyd gan 'Gruff Ankst', Porthmadog [1990?] . Label record annibynnol o Gymru oedd Ankst a ffurfiwyd ym 1988 ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth gan Alun Llwyd, Gruffudd Jones ac Emyr Glyn Williams.

John (Tydu) Jones

Llythyrau a anfonodd John (Tydu) Jones at ei nai Tydfor a'r teulu o Ganada, ynghyd ag enghreifftiau o'i ddawn fel bardd ac ysgrif bortread [anfuddugol Tydfor] ar ei ewythr, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1983.

Joseph Murray Ince

Papurau ymchwil yn ymwneud â'i erthygl 'Joseph Murray Ince (1806-1859), artist of Presteign, Radnorshire' a gyhoeddwyd yng Nghylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyf. 17, rh. 4 (Gaeaf 1972), ynghyd â nodiadau pellach ar hanes Rhayadr.

June is bustin out all over,

Trefniant o'r alaw 'June is bustin out all over' ar gyfer y Rhyl Operatic Society. Llawysgrif o drefniant Gilmor Griffiths o gyfansoddiad Rogers and Hammerstein (Carousel). Sgôr yn yr hen nodiant a chopi sol-ffa. Hefyd llungopi o sgôr 'Out of my dreams' o 'Oklahoma'.

'Kushti bok, Esmeralda’

Llyfr nodiadau yn cynnwys y ddrama ‘Kushti bok, Esmeralda’, ynghyd â nodiadau ymchwil ar gyfer ‘Rhaglen nodwedd ddramatig’ i Ffilmiau’r Nant’, [[1982x2008].

Land of Brychan

Cyfieithiad Jack Selwood o nofel ei wraig Brychan dir a gyhoeddwyd fel The land of Brychan yn 1994, ynghyd â llungopïau o ddarluniau Roger Jones.

Selwood, J. R. (Jack Raymond)

Canlyniadau 701 i 720 o 1284