Dangos 1033 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Gohebiaeth a phapurau'r Cydbwyllgor Cynllunio ac Adnoddau Prifysgol Cymru, yn cynnwys cofnodion cyfarfod y Cydbwyllgor, agendâu, ac Adroddiad y Trysorydd, 1993; Cynllun Strategol y Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, 1993-1994 i 1997-1998 (1993); adroddiad interim Adolygiad y Flwyddyn Academaidd (‘Flowers Report’), 1993; Adroddiad Pwyllgor Gwasanaethau Canolog Prifysgol Cymru, 1993; Cofnodion cyfarfod y Cronlyn Syniadau ar Gyfer Hybu’r Gymraeg, Prifysgol Cymru, 1993; a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol, (1992-1993), yn cynnwys llythyrau oddi wrth David Allen; John Andrews; M. A .R. Kemp; Sir John Meurig Thomas; D. Gruffydd Jones; Gwyn Thomas; M. J. Bruton; a T. D. Roderick.

'Fforwm Teyrnged i Goleg y Drindod, Dulyn ar ei Bedwarcanmlwyddiant'

Gohebiaeth a phapurau, 1992, yn ymwneud â pedwaredd Fforwm ar ddeg y Ganolfan i ddathlu pedwarcanmlwyddiant Coleg y Drindod, Dulyn, yn cynnwys rhaglen; anfonebau; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth R. Geraint Gruffydd; D. Gruffydd Jones; T.D. Spearman; J.R. Henson; Morfydd E. Owen; D.A. Webb; R.B. McDowell; Bedwyr Lewis Jones; B.L. Clarkson; Eric Sunderland; Terence Michael; William Griffiths; Mary Muldowney; T.N. Mitchell; J.G.T.Sheringham; W.A. Watts; Máirtín Ó Murchú; R.B. McDowell; ac M.A.R. Kemp.

'Fforwm Teyrnged i Goleg y Drindod, Dulyn ar ei Bedwarcanmlwyddiant'

Papurau a gohebiaeth, 1992, yn ymwneud â pedwaredd Fforwm ar ddeg y Ganolfan i ddathlu pedwarcanmlwyddiant Coleg y Drindod, Dulyn, yn cynnwys rhestr o fynychwyr; rhaglen; manylion costau ac anfonebau; a llythyrau cysylltiedig yn trafod y Fforwm oddi wrth D.A. Webb; R. Geraint Gruffydd; Morfydd E. Owen; R.B. McDowell; Margaret Waugh; John Leather; Peter Gwynn; Máirtín Ó Murchú; a Terence Michael.

'Llysiau a Meddygaeth’

Papurau a gohebiaeth, 1993, yn ymwneud â phymthegfed Fforwm y Ganolfan, ‘Llysiau a Meddygaeth’, yn cynnwys rhaglen; rhestr o fynychwyr; slipiau ateb; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth Dafydd Dafis; E. Evans; Jane Cartwright; Carole Hough; Christine Fell; Pierre-Yves Lambert; R. D. Berryman; Morfydd E. Owen; a Mary Davies.

Y gyfrol

Adysgrifau o gywyddau, limrigau, englynion, sonedau ac adroddiadau Adar Tydfor gan Ann Tydfor, teipysgrif wedi'i chywiro, ynghyd â llythyrau yn ymwneud â'r gyfrol oddi wrth Wasg Gomer yn 1993.

Agoriad swyddogol y Ganolfan

Gwahoddiadau i agoriad swyddogol adeilad y Ganolfan yn 1993, a derbyniadau; rhestrau o fynychwyr; copïau a drafftiau o areithiau; a llythyrau cysylltiedig yn trafod yr agoriad, oddi wrth W.W. Dieneman; Máirtín Ó Murchú; R. Geraint Gruffydd; Rachel Bromwich; M.A.R. Kemp; Glanville Price; Jonathan Davies; D.R. Southern; R.R. Davies; Margaret Davies; Rhiannon Ifans; P.S. Robinson; Arglwydd Cledwyn o Benrhos; I.C. Jones; J.E. Caerwyn Williams; Derec Llwyd Morgan; Andrea Foale; Ian George; Alun Creunant Davies; G.O. Pierce; Hywel Teifi Edwards; Gareth Owen; Tegwyn Jones; Goronwy Daniel; a Patrick J. Donovan.

Spar; Staples; Stead & Simpson; Toys R Us; Thorntons; Thomas Cook; JJB Sports; River Island; Arthur Llewelyn Jenkins; Ladbrokes; a nifer o siopau lleol ac annibynnol

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1994-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o siopau a busnesau lleol yng Nghaerdydd, a storfeydd cenedlaethol, yn trafod polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiadau i’r wasg (1994-1997); a nifer o ffotograffau o arwyddion siop.

Archfarchnadoedd

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1994-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o archfarchnadoedd yng Nghymru yn trafod gweithredu polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiadau i’r wasg (1996-1997); a nifer fach o dorion o’r wasg.

Canlyniadau 721 i 740 o 1033